Luc 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Crist wrth giniawa gyd â Pharisæad yn iachau vn claf o’r dropsi ar y dydd Sabboth. 8 yn dyscu i ni fod yn ostyngedig a dangos ein haelioni ar y tlodion, 15 ar ddammeg y swpper yn dangos gwrthodiad yr Iddewon a galwedigaeth y cenhedloedd, ac yn gosod allan gyflwr ei ddiscyblion yr rhai ydynt halen y ddaiar.

1 Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ vn o’r Pharisæaid pennaf ar y Sabboth i fwytta bwyd: ddisgwil o honynt ef.

2Ac wele, ’r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o’r dropsi.

3A’r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfraithwyr a’r Pharisæaid, gan ddywedyd: ai rhydd iachau ar y dydd Sabboth?

4A thewi a wnaethant: yna y cymmerth efe ac a’i iachaodd ef, ac a’i gollyngodd ymmaith.

5Ac a’i attebodd hwynt gan ddywedyd: pwy honoch os syrth ai asyn neu ei ŷch mewn pwll, ni thynn ef allan ar y dydd Sabboth?

6Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.

7Ac efe a ddywedodd ddammeg i’r gwahaddedigion, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf, gan ddywedyd wrthynt:

8Pan i’th wahodder gan nêb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhydeddusach nâ thi wedi ei wahodd ganddo,

9Ac i hwn a’th wahoddodd di, ac yntef ddyfod, a dywedyd wrthit, dôd le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd, gymmeryd y lle isaf.

10

14A gwyn dy fŷd, am na allant dalu’r pwyth i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.

15A phan glywodd rhyw vn o’r rhai oedd yn eistedd, y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, gwyn ei fŷd y neb a fwyttao fwyd yn nheyrnas Dduw.

16Ac yntef a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer.

17Ac a ddanfonodd ei wâs brŷd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, deuwch, canys yr awr hon y mae pôb peth yn barod.

18A hwy oll a ddechreuasant ymescusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned iw weled, attolwg i ti escusoda fi.

19Ac arall a ddywedodd, mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf i yn myned iw profi hwynt, attolwg i ti escusoda fi.

20Ac arall a ddywedodd, mi a briodais wraig, ac am hynny ni allaf i ddyfod.

21A’r gwâs pan ddaeth a ddangosodd y pethau hyn iw arglwydd, yna gŵr y tŷ yn ddigllon a ddywedodd wrth ei wâs: dôs allan ar frys i’r heolydd, ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion.

22A’r gwâs a ddywedodd, arglwydd fe a ddarfu gwneuthyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle.

23A’r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, dôs i’r priffyrdd, a’r caeau a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y cyflawner fy nhŷ.

24Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swpper i.

25A llawer o bobl a gŷd gerddodd ag ef, ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt.

26 Math.16.24. Os daw nêb attafi, ac ni chasao ei dâd, a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr, a’i chwiorydd, îe, a’i enaid ei hun hefyd, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

27A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a’m canlyn i, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.

28Canys pwy o honoch chwi a’i frŷd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw’r draul a oes ddigō ganddo iw orphen,

29Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb ar a’i gwelant, ei watwar ef,

30Gan ddywedyd, y dŷn hwn a ddechreuodd adailadu, ac ni allodd ei orphen.

31Neu pa frenin yn myned i ryfela yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag vgain mil?

32Neu tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a ddēfyn genadŵr, ac a ddeisyf gael heddwch

33Felly hefyd, pwy bynnac o honoch nid ymwrthodo a chymmaint oll ac a feddo efe, ni all fôd yn ddiscybl i mi.

34 Math.5.13. Marc.9.50. Da yw halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?

35Nid yw efe gymmwys nac i’r tîr, nac i’r dommen, onid iw fwrw allan: y nêb sydd iddo glustiau i wrando gwrandawed.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help