Numeri 27 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVII.Merched Zalphaad yn cael tir eu tad. 12 Moses yn cael gweled tîr Canaan. 18 Iosuah yn cael swydd Moses.

1Yna y daeth merched Num.16.33. Num.36.11. Iosua 17.3.Zalphaad, mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasses, o dylwyth Manasses mab Ioseph: (ac dymma henwau eu ferched ef, Mahola Noa, Hagla Milcha a Thirza. )

2Ac a safasant ger bron Moses, a cher bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron y pennaethiaid a’r holl gynnulleidfa ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd.

3Ein tad a fu farw yn yr anialwch, ac nid oedd efe ym mysc y gynnulleidfa a godasant yn erbyn yr Arglwydd Num.16.1.yng-hynnulleidfa Corah, onid yn ei bechod ei hun y bu farw, ac nid oedd meibion iddo.

4Pa ham y tynnir ymmaith henw ein tâd o fysc ei dylwyth am nad oes iddo fab? dod i ni etifeddiaeth ym mysc brodyr ein tâd ni.

5A dug Moses eu hawl hwynt ger bron yr Arglwydd.

6A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

7Y mae merched Zalphaad yn dywedyd yn inion, gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ym mysc brodyr eu tâd: dyro iddynt etifeddiaeth eu tâd.

8Llefarodd hefyd wrth feibion Israel gan ddywedyd, pan fyddo marw vn ac heb fab iddo, trosswch ei etifeddiaeth ef iw ferch.

9Ac oni merch iddo, rhoddwch ei ettifeddiaeth ef iw frodyr.

10Ac oni brodyr iddo, yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.

11Ac oni brodyr iw dâd, yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef iw gâr nessaf iddo oi dylwyth, ac etifedded hi: a bydded i feibion Israel yn ddeddf farnedic megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Deut.32.49.dring i’r mynydd Abarim hwn, ac edrych ar y tîr yr hwn a roddais i feibion Israel.

13Ac wedi it edrych arno, Num.20.24.tithe a gesclir at dy bobl, fel y casclwyd Aaron dy frawd.

14Megis yn anialwch Zin wrth gynnen y gynnulleidfa y Num.20.12.gwrthwynebasoch fyng-air am fy sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: Exod.17.7.dymma ddwfr cynnen Cades anialwch Zin.

15A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd:

16Arglwydd Dduw ysprydion pob cnawd, gosot vn ar y gynnulleidfa.

17Yr hwn a elo allan oi blaen hwynt, 2.Cron.2.10.ac a ddelo i mewn oi blaen hwynt, a’r hwn ai dygo hwynt allan, ac ai dygo hwynt i mewn: fel na byddo cynnulleifa yr Arglwydd fel defaid y rhai ni bugail arnynt.

18A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses cymmer attat Iosuah fab Nun, gŵr yr hwn yspryd ynddo, a gosot dy law arno.

19A dod ti ef i sefyll ger bron Eleazar yr offeiriad a cher bron yr holl gynnulleidfa, a dôd orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.

20A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynnulleidfa meibion Israel

21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, ac ymgynghored ag ef am farn yr Exod.28.30.Urim ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd ag ef, a’r holl gynnulleidfa.

22A gwnaeth Moses megis y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd Iosuah, ac a barodd iddo sefyll ger brō Eleazar yr offeiriad, a cher bron yr holl gynnulleidfa.

23Ac efe a osododd ei ddwylaw arno, ac a rodd orchymynnion iddo, megis y llefarase yr Arglwydd trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help