Osea 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Drygioni pobl, ac offeiriaid Israel.

1Meibion Israel gwrandewch air yr Arglwydd, Esa 7.13.|ISA 7:13. mic.6.1.|MIC 6:1. zachar.12.10.canys cŵyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlâd, am nad gwirionedd, na thrugaredd, na gŵybodaeth o Dduw yn y wlâd.

2[Onid] tyngu, dywedyd celwydd, lladd celain, lladratta, a thorri priodas a orchfygasant: a gwaed a gyffwrdd a gwaed.

3Am hynny y galara y wlâd, ac y llesceir yr hyn oll a’r y fydd yn trigo ynddi o fwyst-filod y maes, ac o ehediaid y nefoedd: pysc y môr hefyd a ddarfyddant.

4Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl megis yn ymryson â’r offeiriad.

5Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r prophwyd hefyd a syrth gyd â thi y nôs: a mi a ddifethaf dy fam.

6Fy mhobl a ddifethir o eisieu gŵybodaeth, a’m it ddiystyru gŵybodaeth, minne a’th ddiystyraf dithe, fel na byddech offeiriad i mi: ac it anghofio cyfraith dy Dduw, minne a anghofiaf dy blant dithe hefyd.

7Fel yr amlhausant, felly y pechâsant i’m herbyn: eu gogoniant a newidiaf i warth.

8Bwytta y maent bechod fy mhobl, ai hannog iw hanwiredd hwynt:

9A bydd yr vn fâth bobl ac offeiriad, ac ymwelaf ai ffyrdd ef yn ei erbyn: a thalaf iddo ei weithredoedd.

10Bwyttânt, ac ni’s diwellir, putteiniant, ac nid amlhânt, am iddynt beidio ag ystyried yr Arglwydd.

11Godineb, a gwîn, a gwîn newydd a ddwg y galon ymmaith.

12Fy mhobl a ofynnant gyngor iw cyffion, ai ffonn a ddengys iddynt, o herwydd i yspryd godineb eu cyfeiliorni a phutteiniasant oddi wrth eu Duw.

13A’r bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y brynnau y lloscant arogl-darth, tann y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen: am fod yn dda eu cyscod, am hynny y putteinia eich merched chwi, a’ch rhianod a dorrant briodas.

14Ac nid ymwelaf a’th merched am butteinio, na’ch rhianod am dorri priodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyd â phutteniaid, ac aberthasant gyd â merched dâ, a’r bobl ni ddeallant a dramgwyddant.

15Er i ti Israel butteinio, na pheched Iuda, nac ewch i Gilgal, na ddringwch i Bethafen: ac na thyngwch, byw yw’r Arglwydd.

16Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel, yr Arglwydd yr awr hon ai portha hwynt fel oen mewn ehangder.

17Ephraim a ymgefeilliodd ag eulynnod: gâd iddo.

18Drewi y mae eu meddwdod, gan butteinio y putteiniasant, hoffant moeswch: gwarthus yw eu llywodraeth-wŷr.

19Y gwynt a rwymodd hon yn ei adenydd, a bydd arnynt gywilydd oi haberthau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help