2.Corinthiaid 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Y mae efe yn eu hannog hwynt i fod yn hael i’r brodyr tlodion, gan ddwyn iddynt siampl y Macedoniad, 9 A Christ ei hun: 24 Gan ddangos hefyd y galle fod ar y Corinthiaid eu heisieu hwythau.

1Yr ydym hefyd yn yspysu i chwi, (frodyr) y grâs Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia.

2Canys mewn mawr brofedigaeth cystudd yr amlhaodd eu llawenydd hwynt, ai llwyr eithaf dlodi, a amlhaodd iw helaeth gymmwynascarwch hwynt.

3Canys yn eu gallu (yr wyfi yn testiolaethu) ac vwch-law eu gallu, yr oeddent yn ewyllyscar.

4Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom ni yr haelioni a’r cyfranniad i wasanaethu ’r seinctiau.

5A nid fel yr oeddem yn gobeithio, ond hwynt hwy ai rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac yna i ninnau, trwy ewyllys Duw:

6Fel y dymunasom ni a’r Titus, (megis y dechreuase efe o’r blaen) felly hefyd orphen yr vn-rhyw haelioni yn eich plith chwi.

7Am hynny fel yr ydych yn amlhau yn mhôb dim, mewn ffydd a gair, a gwybodaeth, ac ym mhôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, amlhau hefyd yn y grâs hyn.

8Nid o rann gorchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond o blegit diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

9Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Iesu Grist, ac efe yn gyfoethog, ei fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.

10Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn, canys hyn da fydde hyn i chwi, y rhai a ddechreusoch, nid yn vnic wneuthur, ond hefyd ewyllysio er yr llynedd.

11Ac yn awr gorphennwch wneuthur hynny hefyd, fel, megis yr oedd y parodrwydd i ewyllsio, felly y byddo hefyd i gwblhau o’r hyn sydd gennych.

12Canys os bydd yn gyntaf ewyllyscarwch, cymmeradwy yw, yn ôl yr hyn sydd gan ddŷn ’nid yn ôl yr hyn nid yw ganddo.

13Ac nid i fod esmwythdra i eraill, a chustudd i chwithau.

14Eithr mewn cymhwysdra y mae eich helaethrwydd chwi y pryd hyn, yn eu diffyg hwy, fel y gallo hefyd eu helaethrwydd hwynt ddiwallu eich diffig chwithau, fel y byddo cymhwysdra.

15Megis y mae yn scrifennedic, Exod.16.18.yr hwn a gasclodd lawer, nid oedd ganddo weddill, a’r hwn a gasclodd ychydig, nid oedd arno eisieu.

16Ac i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn a roddodd yng-halon Titus yr vn-rhyw ofal trosoch.

17Am iddo gymmeryd y dymuniad, a chan fod yn fwy gofalus, ddyfod attoch chwi oi waith ei hun.

18Ac ni a ddanfonasom hefyd gyd ag ef y brawd, yr hwn y mae ei glôd yn yr Efengyl, trwy’r holl eglwysi.

19(Ac nid yn vnic, eithr hefyd efe a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdeithio â ni a’r grâs hyn, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu, o herwydd gogoniant yr Arglwydd, ac eich ewyllyscarwch chwithau)

20Gan ymochelyd hyn, rhag i nêb feio arnom yn yr helaethrwydd ymma, yr hwn yr ydym ni yn ei wasanaethu.

21 Ruf.12.17. Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn vnig ger bron yr Arglwydd, ond hefyd o flaen dynion.

22Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom yn fynych o amser, ei fôd yn ddyfal yn llawer o bethau, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried ynoch.

23Os am Titus, fyng-hyd-ymaith a chydweithydd tu ag attoch chwi; neu ein brodyr, cennadau yr eglwysi a gogoniant Crist.

24Am hynny dangoswch tu ag attynt hwy ger bron yr eglwysi, brofedigaeth o’ch cariad, ac o’n hymffrost ni am danoch chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help