Deuteronomium 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Gwahardd gwneuthur cyfammod a’r cenhedloedd. 8 Pa ham y dewisodd Duw Israel o flaen eraill. 19 cyssur i Israel i ryfela. 25 A chyngor i ochel gau dduwiaeth.

1Pan i’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw, i mewn i’r wlâd, yr hon ti yn myned iddi iw gorescyn: Deut.31.8.a gyrru ymmaith o honaw ef genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Gergeziaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hesiaid, a’r Iebusiaid, saith o genhedlaethau lluossogach, a chryfach, na thi:

2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda di hwynt, Exod.23.32. exod.34.12.na wna gyfammod a hwynt, ac na thrugarha wrthynt.

3Nac ymgyfathracha y chwaith a hwynt, na ddod dy ferch iw fab ef, ac na chymmer ei ferch ef i’th fab dithe.

4Canys efe a dynn dy fab di oddi ar fy ôl i, felly y gwasanaethent dduwiau dieithr, ac yr enynne llîd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifethe di yn ebrwydd.

5Ond fel hyn y gwnewch iddynt, dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt, cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedic hwynt yn y tân.

6Canys Deut.14.2. Deut.26.18. exod.19.5.|EXO 19:5. 1.pet.2.9.pobl sanctaidd ti i’r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl vnic iddo ei hun, o’r holl bobloedd y rhai ar wyneb y ddaiar.

7Nid am eich bôd yn lluosogach na’r holl bobloedd yr ymfodlonodd yr Arglwydd ynoch chwi, ac eich dewisodd: o herwydd chwi oeddech anamlaf o’r holl bobloedd:

8Ond o gariad yr Arglwydd arnoch chwi, ac er mwyn cadw o hennaw ef y llw’r hwn a dyngodd efe wrth eich tadau, y dûg yr Arglwydd chwi, allan a llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharao brenin yr Aipht.

9Gwybydd gan hynny mai’r Arglwydd dy Dduw, sydd Dduw, y Duw ffyddlon yn cadw y cyfammod, a’r drugaredd, i’r rhai ai carant ef, ac a gadwant ei orchymynnion, hyd fil o genaedlaethau.

10Ac yn talu’r pwyth iw gaseion ef, yn ei wyneb, gan ei ddifetha ef, nid oeda efe iw gâs, vn ei wyneb y tâl efe iddo ef.

11Cadw gan hynny y gorchymyn, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyfi yn gorchymyn i ti heddyw eu gwneuthur.

12A bydd, o achos gwrando o honoch chwi y barnedigaethau hyn, ai cadw, ai gwneuthur hwynt, a hynny y ceidw yr Arglwydd dy Dduw a thi y cyfammod, a’r drugaredd, y rhai a addawodd efe trwy lŵ i’th dadau di:

13Ac a’th gâr, ac a’i fendithia, ac a’th amlha di, ac a fendiga ffrwyth dy frû, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, mwyniant dy warthec, a chorlannau dy ddefaid yn y tîr, yr hwn y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.

14Bendigediccaf fyddi o’r holl bobloedd, Exod.23.26.ni bydd yn dy blith di vn gwryw, nac vn fenyw yn anffrwythlon: nac ym mhlith dy anifeiliaid di.

15Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthit ti bôb gwendid, ac ni esyd arnat ti’r vn o glefydau drwg yr Exod.9.14.Aipht, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt.

16Difetha gan hynny’r holl bobloedd, y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw a’r roddii ti, nac arbeded dy lygad ti hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt, o Exod.23.33.blegit magl i ti a fydde hynny.

17Os dywedi yn dy galon, lluosogach yw y cenhedloedd hyn na myfi, pa ddelw y gallaf eu gorescyn hwynt?

18Nac ofna rhacddynt, gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharao, ac i’r holl Aipht.

19Y Deut.29.3. exod.15 25.|EXO 15:25. exod.16.4.profedigaethau mawrion, y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, ar braich estynnedic, a pha rai i’th ddûg yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd y rhai yr wyt ti yn ofni rhacddynt.

20A’r Exod.23.28. iosua.24.12.Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gaccwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti.

21Nac ofna rhacddynt, o blegit yr Arglwydd dy Dduw Dduw mawr, ac ofnadwy, yn dy ganol di.

22A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymmaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, ychydic, ychydic: ni ellieu difetha hwynt yn gyflym, rhac myned o fwyst-filod y maes yn amlach na thi.

23Ond yr Arglwydd dy Dduw, ai rhydd hwynt o’th flaen di, ac ai cystuddia hwynt, a chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt.

24Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, fel y byddo it ddifetha eu henw hwynt oddi tan y nefoedd, ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha o hono ti hwynt.

25Llosc ddelwau cerfiedic eu duwiau hwynt yn y tân, na Iosua.7.1. 2.maca.12.40chwennych arian, ne aur arnynt, iw cymmeryd i ti, rhac dy faglu ag ef: o blegit ffiaidd-dra’r Arglwydd dy Dduw

26Na ddŵg gan hynny ffiaidd-dra i’th dŷ, fel y byddech escymmyn-beth megis yntef: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: o blegit Lefit.27.21. num.21.3.escymmyn-beth efe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help