1Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd, canys efe a sclyfaethodd, ac efe a’n hiachâ ni, efe a darawodd, ac a’n meddiginiaetha ni.
2Efe a’n bywhâ ni ar ôl dau ddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fynu: a byddwn fyw ger ei fron ef.
3Yna’r adnabyddwn, y dilynwn adnabod Duw: ei fynediad allan a ddarperir fel y wawr ddydd: ac efe a ddaw fel cafod attom, fel y diweddar-law amserol i’r ddaiar.
4Beth a wnaf i ti Ephraim? beth a wnaf i ti Iuda, eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y boreu, ac fel gwlith boreuol.
5Am hynny y difethais trwy y prophwydi, lleddais hwynt â geiriau fyng-enau: a goleuni dy farnedigaethau a aeth allan.
6Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth, a gŵybodaeth o Dduw yn fwy na phoeth offrymmau.
7A’r rhai hyn fel Adda a dorrasant y cyfammod: yna y buant anffyddlon i mi.
8Dinas gweithred-wŷr anwiredd Gilead, wedi ei halogi gan waed.
9Cyfeillach o offeiriaid a laddant y ffordd tua Sichem megis llu yn disgwil vn: canys gwnant scelerder.
10Gwelais yn nhŷ Israel halogedigaeth: yno odineb Ephraim yr halogwyd Israel.
11Gosododd hefyd gynhaiaf i tithe Iuda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
