1.Brenhinoedd 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Nifer gwragedd, a gordderchadon Salomon: a’r gaudduwiaeth yr hon y dygasant hwy ef iddi.

1A’r brenin Salomon a Deut.17.17. Eccles. 47.19.garodd lawer o wragedd dieithr, a merch Pharao: Moabiesau, Ammoniesau, Edomiesau, Sidoniesau, Hethiesau,

2O’r cenhedloedd y rhai y dywedase yr Arglwydd wrth feibion Israel, Exod.34.16.nac ewch i mewn attynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn attoch chwi, diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt: wrthynt hwy y glynodd Salomon mewn cariad.

3Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd yn frenhinesau a thrŷ-chant o ordderch-wragedd: ai wragedd a droasant ei galon ef.

4Pan heneiddiodd Salomon, ei wragedd ef a droasant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: fel nad oedd ei galon ef berffaith gyd a’r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dâd ef.

5Canys Salomon a aeth ar ôl Barn.2.13.Astaroth duw y Sidoniaid: ac ar ôl Milcom ffieidddra’r Ammoniaid.

6Felly Salomon a wnaeth yr hyn ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: ac ni chyflawnodd ar ôl yr Arglwydd fel Dafydd ei dâd.

7Yna Salomon a adailadodd vchelfa i Chamos ffieidd-dra Moab mewn mynydd yr hwn ar gyfer Ierusalem: ac i Moloch ffieidd-dra meibion Ammon.

8Ac felly y gwnaeth efe iw holl wragedd dieithr: y rhai a arogl darthasant, ac a aberthasant iw duwiau.

9Am hynny yr Arglwydd a ddigiodd wrth Salomon: o herwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosase iddo ef Pen.3.5.|1KI 3:5 & 9.2ddwy waith.

10Ac a orchymynnase iddo Pen.6.12.am y peth hyn, nad ele efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchymynnase yr Arglwydd.

11Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Salomon, o herwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fyng-hyfammod, a’m deddfau y rhai a orchymynnais i ti: gan rwygo y Pen.12.15.rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthit ti, ac ar rhoddaf hi i’th wâs di.

12Etto yn dy ddyddiau di ni wnaf hyn er mwyn Dafydd dy dâd: o law dy fâb di y rhwygaf hi.

13Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth, vn llwyth a roddaf i’th fab di: er mwyn Dafydd fyng-wâs, ac er mwyn Ierusalem yr hon a etholais i.

14Yna’r Arglwydd a gyfododd wrthwyneb-wr i Salomon, sef Hadad yr Edomiad, o hâd y brenin, efe yn Edom.

15Pan 2.Sam.8.14.oedd Dafydd yn Edom, Ioab tywysog y filwriaeth yn myned i fynu i gladdu y lladdedigion: wedi iddo daro pob gwryw yn Edom,

16(Canys chwe mîs yr arhosodd Ioab yno, a holl Israel: nes difetha pob gwryw yn Edom. )

17Yna’r Hadad hwnnw a ffôdd, a gwŷr Edom o weision ei dad ef gydag ef i fyned i’r Aipht: a Hadad fachgen bychan.

18A hwy a gyfodasant o Madian, ac a ddaethant i Pharan: ac a gymmerasant wŷr gyd a hwynt o Pharan, ac a ddaethant i’r Aipht ac Pharao brenin yr Aipht, ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd bwyd iddo ef, ac a roddodd dîr iddo ef.

19Felly Padad a gafodd ffafor fawr yng-olwg Pharao: ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Taphnes y frenhines.

20A chwaer Taphnes a ymddug iddo ef Genubath ei fab, a Taphnes ai diddyfnodd ef yn nhŷ Pharao: a Genubath fû yn nhŷ Pharao, ym mysc meibion Pharao.

21Pan glybu Hadad yn yr Aipht, huno o Ddafydd gyd ai dadau, a marw o Ioab tywysog y filwriaeth: yna Hadad a ddywedodd wrth Pharao, gollwng fi, fel yr elwyf i’m gwlâd fy hûn.

22A dywedodd Pharao wrtho ef, pa beth sydd arnat ei eisieu gyd a mi, pan ydwyt yn ceisio myned i’th wlâd dy hun? ac efe a ddywedodd, dim: eithr gan ollwng gollwng fi.

23A 2.Sam.8.3.Duw a gyfododd wrthwyneb-wr 144 yn ei erbyn ef, sef Razon fab Eliada: yr hwn a ffoase oddi wrth Adadezer brenin Soba ei arglwydd.

24Ac efe a gynhullodd wŷr atto ef, ac oedd yn dywysog y fyddin, pan laddodd Dafydd hwynt: a hwy aethant i Ddamascus, ac a drigasant ynddi, ac a deyrnasasant yn Damascus.

25Ac yr oedd efe yn wrthwyneb-wr i Israel holl ddyddiau Salomon, heb law y drygioni yr hwn Hadad: ac efe a ffieiddiodd Israel, ac a deyrnasodd ar Syria.

26Ac 2.Cron.13.6.Ieroboam mab Nabat, Ephratead o Sareda, (ac enw ei fam ef Serfa wraig weddw] gwâs i Salomon, a dderchafodd hefyd law yn erbyn y brenin.

27Ac o achos hyn y derchafodd efe law yn erbyn y brenin: adailadodd Salomon Milo, efe a gaeodd adwyau dinas Dafydd ei dâd.

28Ac Ieroboam y gŵr hwn gadarn o nerth: a Salomon a ganfu’r llangc hwnnw yn gwneuthur gwaith, yna efe ai gwnaeth ef yn oruchwiliwr ar holl faich tŷ Ioseph.

29A’r pryd hynny pan aeth Ieroboam allan o Ierusalem: yna y prophwyd Ahias y Siloniod ai cafodd ef ar y ffordd, ac efe oedd wedi ei wisco mewn gwisc newydd, a hwynt ill dau yn vnic yn y maes.

30Yna Ahias a ymaflodd yn y wisc newydd yr hon am dano ef: ac ai rhwygodd hi yn ddeuddec o ddarniau.

31Ac efe a ddywedodd wrth Ieroboam, cymmer i ti ddeng-nharn: canys fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, wele fi yn rhwygo y frenhiniaeth o law Salomon, a mi a roddaf ddêc llwyth i ti.

32Ac vn llwyth fydd iddo ef er mwyn fyng-wâs Dafydd, ac er mwyn Ierusalem y ddinas yr hon a etholais i o holl lwythau Israel.

33O blegit iddynt fyng-wrthod i, ac ymgrymmu i Astaroth Duw y Sidoniaid, i Chamos Duw y Moabiaid, ac i Milcom Duw meibion Ammon: ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd inion yn fyng-olwg i a’m deddfau, a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad ef.

34Ond ni chymmeraf yr holl frenhiniaeth oi law ef: eithr gosodaf ef yn dywysog holl ddyddiau ei enioes, er mwyn Dafydd fyng-wâs yr hwn addewisais i, canys efe a gadwodd fyngorchymynnion, a’m deddfau mau fi.

35Eithr Pen.12.15.cymmeraf y frenhiniaeth o law ei fab ef: a rhoddaf honi i ti ddêc o’r llwythau.

36Ac iw fab ef y rhoddaf vn llwyth: fel y byddo goleuni i’m gwâs Dafydd yr holl ddyddiau ger fy mron yn Ierusalem, y ddinas yr hon a ddewisais i mi, i osod fy enw yno.

37A thi a gymmerafi fel y teyrnasech ar yr hyn oll a ddymuno dy galon: a thi a fyddi frenin ar Israel.

38Ac os gwrandewi di ar yr hyn olla orchymynnwyf i ti, a rhodio yn fy ffyrdd i, a gwneuthur yr hyn inion yn fyng-olwg i, gan gadw fy neddfau, a’m gorchymynnion fel y gwnaeth Dafydd fyng-wâs: yna mi a fyddaf gyd a thi, ac adailadaf i ti dy siccr fel yr adailedais i Ddafydd, ac mi a roddaf Israel i ti.

39A mi a gystuddiaf hâd Dafydd o blegic hyn: etto nid yn dragywydd.

40Am hynny Salomon a geisiodd ladd Ieroboam: ond Ieroboam a gyfododd, ac a ffoawdd i’r Aipht at Sesac brenin yr Aipht, ac efe a fu yn yr Aipht hyd farwolaeth Salomon.

41A’r rhan arall o eiriau Salomon, a’r hyn oll a wnaeth efe, ai ddoethineb ef: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr ymadroddion Salomon?

42A’r dyddiau y rhai y teyrnasodd Salomon yn Ierusalem ar holl Israel, ddeugain mhlynedd.

43Yna Salomon a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd ei dad: a Rehoboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help