Daniel 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Cyssur y ffyddloniaid o ail cyfodiad y meirw. 8 Mor dywyll yw prophwydoliaeth Daniel.

1Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll tros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenhedlaeth hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y dianc dy holl bobl y rhai a gaffer yn scrifennedic yn y llyfr.

2A llawer o’r rhai sydd yn cyscu daiar lychlyd a ddeffroant, rhai i fywyd tragywyddol, a rhai i warth a dirmyg tragywyddol.

3A’r athrawon a ddiscleiriant fel discleirdeb y ffurfafen, a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder fel sêr byth yn dragywydd.

4Tithe Daniel, caea di y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd, llawer a gynniwerant, ac amlheuir gŵybodaeth.

5Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, vn o’r tu ymma ar fîn yr afon, ac vn o’r tu arall ar lann yr afon.

6Ac a ddywedodd wrth yr hwn a wiscasid â lliain, yr hwn ar ddyfroedd yr afon, hyd pa bryd diwedd y rhyfeddodau?

7Clywais hefyd y gŵr, a wiscasid â lliain, yr hwn oddi ar ddwfr yr afon, pan dderchafodd efe ei law ddehau, ai asswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, mai wedi tymmor, tymmorau, a hanner, ac wedi darfod gwascaru nerth y bobl sanctaidd y darfydde hyn oll.

8Yna y clywais, ond ni ddeallais, eithr dywedais, ô fy Arglwydd, beth diwedd hyn?

9Ac efe a ddywedodd, dos Daniel, caewyd, a seliwyd y geiriau hyn hyd amser y diwedd.

10Llawer a ymlanhânt, ac a ymgannânt, ac a ymburant: eithr y rhai drygionus a wnant ddrygioni, îe y rhai drygionus oll ni ddeallant: ond y rhai synnwyrol a ddeallant.

11Ac o’r amser y symmudir y gwastadol ac y gosodir ffieidd-dra anrheithiol, mîl, dau cant, a dêc a phedwar vgain o ddyddiau.

12Gwyn ei fyd a ddisgwilio, ac a gyrhaeddo hyd fîl, try-chant, a phymthec ar hugain o ddyddiau.

13Dos dithe hyd y diwedd, canys gorphywysi, a sefi ar dy ran yn niwedd y ddydiau.

Terfyn llyfr y Prophwyd Daniel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help