Exodus 22 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXII.Cyfreithiau am ledrat. 5 Am sathaed. 7 Am beth a rodder at vn iw gadw. 13 Am echwyn, benthyg, a llôg. 15 Am halogi merch. 17 Am raib. 19 Am gau-dduwiaeth. 20 Am ddieithraid, gweddwon, ac ymddifaid. 24 Am Vsuriaeth. 25 Am wystl. 27 Am barch swyddogion. 28 Am ddegwm.

1Os lledratta vn ŷch, neu ddafad ai ladd neu ei werthu, taled bum ŷch am ŷch, a phedair dafad, am ddafad.

2Os ceir lleidr yn torri tŷ, ai daro fel y byddo farw, na gwaed am dano.

3Os bydd haul wedi codi arno gwaed am dano: cwbl daled oni bydd ganddo gwerther ef am ei ledrat.

4Os gan gael y ceir yn ei law ef y lledrat yn fyw o eidion neu assyn, neu ddafad, taled yn ddwbl.

5Os pawr vn faes, neu win-llan, ac anfon ei anifail i bori maes vn arall, taled o’r hyn goref yn ei faes, ac o’r hyn goref yn ei winllan.

6Os tân a dyrr allan, ac a gaiff afel ar ddrain, fel y difaer dâs o ŷd, neu ŷd ar ei droed neu faes: cwbl daled yr hwn a gynneuodd y tân.

7Os rhydd vn iw gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, ai ledratta o dŷ’r gŵr, os y lleidr a geir taled yn ddwbl.

8Os y lleidr ni cheir, duger perchennog y tŷ at y swyddogion a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog.

9Am bob math ar gamwedd, am eidion, am assyn, am ddafad, am ddilledyn, am bob peth a gollo’r hwn y dywedo hwnnw yw efe: deued achos y ddau ger bron y swyddogion, a’r hwn y barno y swyddogion yn ei erbyn taled iw gymydog yn ddwbl.

10Os rhydd vn assyn, neu eidion, neu ddafad, neu vn anifail at ei gymydog i gadw, a marw o honaw, neu ei friwo, neu ei ddwyn o anfodd heb neb yn gweled:

11Bydded llŵ’r Arglwydd rhyngddynt ill dau, a estynnodd ei law at dda ei gymydog: a chymmered ei berchennog ac na wnaed iawn,

12 Genes.31.39. Os gan ledratta y lledratteuir ef oddi wrtho gwnaed iawn iw berchennog, 12b os gan ysclyfaethu yr ysclyfaethir ef, dyged ef yn destiolaeth, na thaled am yr hwn a ysclyfaethwyd.

13Ond os benthygia vn gan ei gymydog ai friwo, neu ei farw, heb ei berchennog gyd ag ef: gan dalu taled.

14Os ei berchennoc gyd ag ef: na wnaed iawn: os llôg efe, am ei Deut.22.28.lôg y daeth.

15Ac os huda vn forwyn yr hon ni ddyweddiwyd, a gorwedd gyd a hi: gan gynescaeddu cynhescaedded hi’n wraig iddo ei hun.

16Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo, taled arian yn ol gwaddol morynion.

17Na chaffed rheibies fyw.

18Llwyr rodder i farwolaeth bob vn a orweddo gyd ag anifail.

19 Deut.13.13. 1 Mac.2.24. Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unic.

20 Lefit.19.33. Na orthrymma, ac na flina y dieithr, canys dieithriaid fuoch yn nhîr yr Aipht.

21Na orthrymwch vn weddw, nac ymddifad,

22 Zac.7.10. Os gwnewch iddo ddim blinder (canys os gwaedda ddim arnaf, mi a lwyr wrandawaf ei waedd ef.

23Fy nigofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf a’r cleddyf, a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn ymddifaid.

24Os nechwyni arian i’m pobl y rhai gyd a thi: na fydd fel occrwr iddynt, na ddod usuriaeth arnynt.

25 Lefit.25.37. Deut.23.19. Psal.15.5. Os cymmeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul.

26O herwydd hynny yn unic iw roddi arno ef, hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? a bydd os gwaedda efe arnaf im wrando, canys trugarog ydwyf.

27Na Act.23.5.chabla swyddogion, ac na felldithia bennaeth dy bobl.

28Nac oeda dy ffrwythau sychion, a gwlybion, dod ti i mi Exod.13.2.y cyntaf-anedic o’th feibion.

29Felly y gwnei am dy eidion am dy ddafad, saith niwrnod y bydd gyd ai fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

30A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi, ac na fwyttewch gig wedi ei ysclyfaethu yn y maes, teflwch ef i’r cî.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help