3.Esdras 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Rhifedi y rhai a ddychwelasant o’r caethiwed. 44 Eu haddunedau hwynt. 57 Dechreuad ail adailadu y Deml. 68 Eu gelynion mewn malis yn cynnig help.

1Wedi Ezra 2.1.y pethau hyn y detholwyd pennaethiaid tai eu tadau, yn ôl eu llwythau, ai gwragedd, ai meibion, ai merched, ai gweision, ai morwynion, ai hanifeiliaid.

2[A’r brenin] Darius a anfonodd fil o wŷr meirch gyd â hwynt, iw hebrwng hwynt yn ddiogel i Ierusalem, yng-hyd ag gerddgar, tympanau a phibellau.

3Ai holl frodyr hwynt oeddynt yn chware: felly y gwaneth efe iddynt fyned i fynu gyd â hwynt.

4Ac dymma henwau y gwŷr y rhai a aethant i fynu yn ôl eu teuluoedd wrth eu llwythau, yn ôl eu rhagor-fraint.

5Yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron, Iesus Iosedec, Saraias, ac Ioacim Zorobabel Salathiel o dylwyth Dafydd, o genhedlaeth Phares, o lwyth Iuda.

6Yr hwn a lefarodd eiriau doethion wrth Ddarius brenin y Persiaid yn yr ail flwyddyn oi deyrnasiad ef ar y mis Nisan, hwnnw yw y mîs cyntaf.

7Ac dymma hwynt o Iuda y rhaî a ddaethant i fynu o gaethiwed y gaeth-glud y rhai a gaeth-gludase Nabuchodonosor brenin Babilon i Babilon,

8Ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac at y rhann arall o Iuda, pob vn iw ddinas ei hun, y rhai a ddaethent gyd â Zorobabel, ac Iesus, Nehemias, Zacharias, Resaias, Enenius, Mardocheus, Beelsarus, Aspharasus, Reelius, Roimus, Baana eu blaenoriaid hwynt.

9Eu rhifedi hwynt o’r genedl, ai blaenoriaid: methion Phares, dwy fil. a chant deu­ddec a thrugain, meibion Saphat, pedwar cant, deuddec a thrugain.

10Meibion Areh, saith gant, vn ar bymthec a deugain.

11Meibion Paath Moab, dwy fil, wyth gant, a dec.

12Meibion Elā, mîl, deucant, pedwar ar ddec a deugain: meibion Zathui, naw cant, pump a deugain: meibion Corbe saith gant a phump: meibion Bani, chwe chant, wyth a deugain.

13Meibion Bibai, chwe chant, tri ar hugain: meibion Asgad, tair mil, dau cant, dau ar hugain

14Meibion Adonican, chwe chant, saith a thrugain: meibion Bagoi, dwy fîl, chwech a thrugain: meibion Adim, pedwar cant, pedwar ar ddec a deugain.

15Meibion Aterhezetia, deuddec a phedwar vgain: meibion Ceilan, ac Azota, saith a thrugain: meibion Azuram, pedwar cant, deu­ddec ar hugain.

16Meibion Ananias, cant ac vn: meibion Arom, a meibion Bassa, try-chant, tri ar hugain: meibion Arsiphurith, cant a dau.

17Meibion Meterus, tair mîl, a phump: meibion Bethleem, cant a thri ar hugain.

18Hwynt hwy o Netopha, pymthec a deu­gain: hwyntau o Anathoth, cant, tri ar bymthec a deugain: hwynt o Bethsamos, dau a deugain

19Hwynt o Ciriathiarim, pump ar hugain: hwynt o Caphiras, a Beroth, saith gant, tri a deugain: hwynt hwy o Pirath saith gant.

20Hwynt o Chadias, ac Ammidioi, pum cant, dau ar hugain: hwynt o Cyrama, a Gab­des, chwe chant, vn ar hugain.

21Hwynt o Macamos, cant, dau ar hugain: hwynt o Bethel, deuddec a deugain: meibion Nebus cant, dêc a deugain, a chwech.

22Meibion Calamolan, ac Onus, saith gant, pump ar hugain: meibion Ierechus, trŷ chant, pump a deugain.

23Meibion Saanah, tair mîl, try chant, a dec ar hugain.

24Yr offeiriaid meibion Iedu fâb Iesus ym mhlith meibion Sanasib, naw cant, deuddec a thrugain: meibion Meruth mîl deuddec a deugain.

25Meibion Pashur, mîl, a saith a deugain: meibion Charim, mîl, a dêc a thrugain.

26Y Lefiaid, meibion Iesue, Cadmiel, Banua, a Suia, pedwar ar ddêc a thrugain.

27Y meibion gantorion sanctaidd, meibion Asaph, cant, wyth a deugain.

28Y porthorion, meibion Salum, meibion Iattal, meibion Tolman, meibion Dacobi, meibion Teta, meibion Sami, y cwbl gant, pedwar ar bymthec, ar hugain.

29Gwenidogion y Deml, meibion Esau, meibion Asipha, meibion Taboath, meibion Ceras, meibion Sud, meibion Phalen, meibion Labana, meibion Hagabe.

30Meibion Acub, meibion Vta, meibion Cetab, meibion Agab, meibion Sibe, meibion Anan, meibion Cathua, meibion Gedur.

31Meibion Raia, meibion Diasan, meibion Neroda, meibion Chasaeba, meibion Gazema, meibion Azias, meibion Phinees, meibion Asara, meibion Basthai, meibion Asana, meibion Meunim, meibion Naphison, meibion Bacubub, meibion Acupha, meibion Assur, meibion Pharacim, meibion Baraloth.

32Meibion Mehida, meibion Coutha, meibion Charesca, meibion Bareus, meibion Aserar, meibion Thomoth, meibion Nasib, meibion Atiphan.

33Meibion gwesion Salomon, meibion Hazophereth, meibion Pharuda, meibion Geelah, meibion Lozon, meibion Isdael, meibion Staphelia.

34Meibion Agia, meibion Pharareth, meibion Sabin, meibion Spartia, meibiō Masias, meibion Gar, meibion Adu, meibion Subah, meibion Apherra, meibion Adu, meibion Subah, meibion Apherra, meibion Barodis, meibion Sabat, meibion Alon.

35Holl wenidogion y Deml, a meibiō gweision Salomon: try chant, a deuddec a thrugain.

36Y rhai hyn a ddaethant i fynu o Thelmiah, a Thelharsa: Caralathar, ac Alar yn eu har­wain hwynt.

37Ac ni fedrent hwy ddangos eu teuluoedd, nai bônedd, pa fodd yr oeddynt o Israel: meibion Dalais, meibion Thuba, meibion Neco­dan, chew chant, deuddec a deugain.

38Ac o’r offeiriaid y rhai oeddynt yn offeiriadu, ac heb eu cael, meibion Hobia, meibion Hacoz, meibion Adus yr hwn a gymmerase yn wraig Augia o ferched Barzeleus.

39A hi a alwyd ar ei enw ef: ac scrifen y genhedlaeth hon a geisiwyd ym mysc yr achau, ond ni’s cafwyd, ac am hynny y gwaharddwyd iddynt offeiriadu.

40Canys Nehemias, ac Atharias a ddywedasant wrthynt na chaent hwy fod yn gyfran­nogion o’r pethau cyssegredic, oni gyfode arch­offeiriad dyscedic o addysc a gwirionedd.

41Felly hwynt oll o Israel, o’r rhai oeddynt ddeuddeng-mlwydd, ac yn blant bychain oeddynt o gyfrif dwy fîl a deugain, try chant a thri vgain heb law gweision a morwynion.

42Eu gweision ai llaw-forwyniō[oeddynt] saith mîl, try chant, a saith a deugain: a’r canto­rion, a’r cantoresau, dau cant, pump a deugain.

43pedwar cant, a phymthec a’r hugain o gamelod, saith gant ac vn a’r bymthec a’r hugain o feirch, dau cant a phump a deugain o fulod, pum mil a phum cant, a phump a’r hugain o anifeiliaid arferol o’r iau.

44Ac oi llywawd-wŷr hwynt yn ôl eu teuluoedd, pan ddaethant i Deml Dduw yn Ierusalem, a addunasant adailadu y tŷ yn ei le ei hun yn ôl eu gallu.

45A rhoddi i dryssor y gwaith fil o bunnau o aur, a phum mîl o bunnau o arian, a chant o o­ffeiriadaidd wiscoedd.

46Felly yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r bobl a drigasant yn Ierusalem, ac yn y wlad a’r cantorion sanctaidd, a’r porthorion, a holl Israel yn eu pentrefydd.

47Ond pan ddaeth y seithfed mis, pan oedd pawb o feibion Israel ar ei eiddo ei hun, hwynt a ymgasclasant eu gyd o vn frŷd mewn lle amlwg wrth y porth cyntaf yr hwn sydd tua yr dwyrain.

48Ina Iesus mab Iosedec, ai frodyr yr offeiriaid, a Zorobabel mab Salathiel ai frodyr, gā godi i fynu a baratoasant allor Duw Israel,

49I offrymmu poeth offrymmau arni hi, megis y mae yn scrifennedic yn llyfr Moses gŵr Duw.

50Ac yno yr ymgasclodd yn eu herbyn hwynt o holl genhedloedd y wlad, ond hwynt hwy a dresnasant yr alor yn ei chyfle er bod holl gēhedloedd y wlad yn elynnion iddynt: a hwynt a offrymmasant ebyrth wrth yr amser, a phoeth offrymmau i’r Arglwydd borau a hwyr

51Hwynt hefyd a gadwasant ŵyl y pebyll, fel y mae yn orchymynnedic Lefit.23.34.yn y gyfraith, ac ebyrth beunydd fel yr oedd yn ddyledus.

52Ac wedi hynny yr offrymmau gwastadol, ac offrymmau y Sabbothau, a’r newydd loerau, a’r holl vchel-wyliau sanctaidd.

53A’r rhai oll a’r a wnaethent adduned i Dduw a ddechreuasant offrymmu aberthau i Dduw yn y dydd cyntaf o’r seithfed mis, er nad adailadasyd etto Deml Duw.

54A hwynt a roddasant i’r seiri maen, ac i’r seiri prenn arian, a bwyd, a diod yn llawen.

55A geir i’r Sidoniaid, ac i’r Tyriaid i ddwyn cedr-wydd o Libanus, y rhai a gludid yn fflodiau i borthladd Ioppe, fel y gorchymynnasid iddynt hwy drwy Cyrus frenin y Persiaid.

56Ac yn yr ail flwyddyn, ar yr ail mîs y daeth i Deml Duw yn Ierusalem Zorobabel mab Salathiel, ac Iesus mab Iosedec, ai bro­dyr, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r holl rai a’r a ddaethent i Ierusalem allan o gaethiwed

57A hwynt a sylfaenasant dŷ Dduw ar y dydd cyntaf o’r ail mis, yn yr ail flwyddyn ar ôl eu dychweliad hwynt i Iuda, ac Ierusalem.

58A hwynt a osodasant y Lefiaid tros vgain-mlwydd oed ar waith yr Arglwydd, ac Iesus ai fab, ai frodyr, a Chadmiel ei frawd, a meibion Madiabon gyd â meibion Ioda fâb Eliadon, ai meibion, ai brodyr, yr holl Lefiaid o vn frŷd a ddilynasant gan wneuthur y gwaith yn nhŷ Dduw: felly y gweith­wŷr a adailadasant Deml yr Arglwydd.

59A’r offeiriaid a safasant (wedi eu gwisco mewn gwiscoedd lleison) ag gerddgar, ac ag vdcyrn, a’r Lefiaid meibion Asaph â sym­balau,

60Yn canu, ac yn moliannu yr Arglwydd, fel yr ordeiniase Dafydd brenin Israel.

61A hwynt a ganasant ganiadau yn llafar er moliant i’r Arglwydd, o herwydd bod ei drugaredd ai ogoniant yn dragwydd ar holl Israel

62Yna yr holl bobl leisiasant mewn vd­cyrn, ac a waeddasant â llêf vchel, danu gyd foliannu yr Arglwydd, am godi i fnyu tŷ yr Arglwydd.

63Rhai hefyd o’r offeiriaid a’r Lefiaid, a’r pennaethiaid yr henuriaid, y rhai a welsent y tŷ cyntaf,

64A ddaethant adailadaeth hwn drwy ŵylofain a nâd fawr: llawer hefyd ag vd­cyrn, ac â llawenydd â llêf vchel,

65Fel nad alle y bobl glywed yr vdcyrn gan nâd y bobl: etto yr oedd tyrfa fawr yn lleisio mewn vdcyrn, fel y clywyd hwynt ym mhell.

66Am hynny pan glybu gelyniō llwythau Iuda, a Beniamin hynny, hwy a daethant i gael gwybod beth oedd sain yr vdeyrn

67Yna y gwybuant hwy mai y rhai a ddaethent o’r caethiwed a adailadasent y Deml i Arglwydd Dduw Israel.

68Am hynny hwy a aethant at Zorobabel, ac Iesus, a at benuaethiaid y teuluoedd gan ddywedyd wrthynt, a gawn ni adailadu gyd â chwi hefyd:

69Canys yr ydym ni yn vfyddhau i’ch Arglwydd chwi fel yr ydych chwithau, ac yn aberthu iddo ef er dyddiau Asbazareth brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni ymma.

70Yna Zorobabel, ac Iesus, a phennaethiaid teuluoedd Israel a ddywedasant wrthynt hwy, ni pherthyn i chwi, ac i ni adailadu tŷ i’r Arglwydd ein Duw ni.

71Canys nyni ein hunain a adailadwn i Arglwydd Dduw Israel fel y mae yn weddus i ni, y gorchymynnodd Cyrus brenin Persia i ni.

72Er hynny pobl y wlad a wnaethant i’r rhai oeddynt yn Iuda ddiogi, ac a rwystrasant iddynt adailadu y gwaith, a thrwy eu cynllwyn hwynt, ai terfyscoedd, ai bradwriaeth, hwynt hwy a luddiasant orphen yr adailadaeth,

73Tra fu brenin Cyrus yn fyw: felly y rhwystrwyd hwynt rhac adailadu dros yspaid dwy flynedd, hyd deyrnasiad Darius.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help