Numeri 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Gwrthryfel Corah, Dathan, ac Abiram, ai cospedigaeth. 37 Beth a wnaed ai thusserau hwynt. 41 Tuchan y bobl ai cospedigaeth.

1Yna a gymmerodd Num.27.3. Eccles. 45.18.|SIR 45:18. Iud.16.Corah mab Isaar, mab Cehath, mab Lefi, a Dathan ac Abiram meibion Eliab, ac On mab Peleth mab Ruben.

2A chodasant o flaen Moses, yng-hyd a dau cant, a dec a deugain o wŷr o feibion Israel: pennaethiaid y gynnulleidfa, Num.26.9.pendefigion y gymmanfa, gwŷr enwoc.

3Ac ymgasclasant yn erbyn Moses, ac Aaron, a dywedasant wrthynt: digon i chwi canys yr holl gynnulleidfa santtaidd bob vn o honynt, ac y’r Arglwydd yn eu mysc: pa ham yr ymgodwch goruwch cynnulleidfa yr Arglwydd?

4A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5A llefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfâ ef, gan ddywedyd, y boreu y dengys yr Arglwydd yr hwn eiddo ef, a’r sanctaidd, a a ddylu nessau atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe a nessa efe atto.

6Hyn a wnewch, cymmerwch i chwi Torah ai holl gynnulleidfa thusserau.

7A rhoddwch ynddynt dân, a gosodwch arnynt arogl-darth y foru ger bron yr Arglwydd: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn fanttardd yr hwn a ddewiso’r Arglwydd: digon i chwimeibion Lefi.

8A dywedodd Moses wrth Corah, gwrandewch attolwg meibion Lefi.

9Ai bychan gennych nailltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynnulleidfa Israel? gan eich nessau chwi atto ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll ger bron y gynnulleidfa iw gwasanaethu hwynt.

10Canys efe a’th nessaodd di, a’th holl frodyr di meibion Lefi gyd a thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11Am hynny dydi, a’th holl gynnulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aarō beth[yw]efe i chwi i duchan yn ei erdyn?

12A Moses a anfonodd i alw am Dathan, ac Abitam meibion Eliab: hwythau a ddywedasant ni ddeuwn ni i fynu.

13Ai bychan[ym] dwyn o honot ti ni i fynu o dîr yn llifeirio o laeth, a mel, i’n lladd ni yn y diffaethwch: oddieithr hefyd arglwyddiaethu o honot yn dost arnom ni?

14Etto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mel, ac ni roddaist i nifeddiant maes, na gwin-llan: a dynni di lygaid y gwyr hyn? ni ddeuwn ni i fynu ddim.

15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Gene.4.4-5.nac edrych ar eu bwyd offrwm hwynt: ni chymmerais vn assyn ganddynt, ac ni ddrygais vn o honynt.

16A dywedodd Moses wrth Corah, bydd di a’th holl gynnulleidfa ger bron’r Arglwydd: ti a hwynt, ac Aaron[hefyd]y foru.

17A chymmerwch hefyd bob vn ei thusser, a rhoddwch arnynt arogl-darth, a dyged pob vn ei thusser ger bron yr Arglwydd, dau cant, a dec a deugain o thusserau: dithe hefyd, ac Aaron bob vn ei thusser.

18A chymmerasant bob vn ei thusser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl-darth arnynt, a safasant ddrws pabell y cyfarfod yng-hyd a Moses ac Aaron.

19Yna Corah a gasclodd yr holl gynnulleidfa yn eu herbyn hwynt i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynnulleidfa.

20Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd:

21Ymnailltuwch o fysc y gynnulleidfa hon, a mi ai difaf hwynt ar vnwaith.

22Yna y syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, o Dduw, Duw yr ysprydion, pob cnawd, vn dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynnulleidfa?

23Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

24Llefara wrth y gynnulleidfa, gan ddywedyd, ewch o amgylch pabell Corah, Dathan, ac Abiram.

25Yna y cyfododd Moses ac a aeth tu ac at Dathan, ac Ahiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.

26Ac efe a lefarodd wrth y gynnulleidfa gan ddywedyd, ciliwch attolwg oddi wrth bebyll y dyniō drygionus hyn, ac na chyffyrddwch a dim a’r eiddynt, rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, ai meibiō, ai plant, a ddaethant allan gan sefyll ddrws eu pebyll.

28A dywedodd Moses, wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn, nad o’m meddwl fy hun ddim.

29Os bydd y rhai hyn feirw fel bydd marw pob dyn, ac ymwelir a hwynt ag ymwelediad pôb dŷn nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i.

30Ond os yr Arglwydd a wna ryfeddod fel yr agoro y ddaiar ei safn ai llyngcu hwynt, a’r hyn oll eiddynt fel y descynnant yn fyw i vffern, yna y cewch wybod ddirmygu o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31A bu wrth orphen o honaw lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaiar yr hon tanynt.

32Agorodd y ddaiar hefyd ei safn, a llyngcodd hwynt, Deut.11.6. Psal.106.17.ai tai hefyd, a’r holl ddynion y rhai gan Corah, a’r holl gyfoeth.

33Felly hwynt a’r rhai oll a’r o gyd a hwynt a ddescynnasant yn fyw i vffern: a’r ddaiar a gaeodd arnynt: a chollasant o blith y gynnulleidfa.

34Yna holl Israel y rhai oi hamgylch hwynt, a ffoasant wrth eu llef hwynt: canys dywedasant, rhag i’r ddaiar ein llyngcu ninnau.

35Tân hefyd aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant, a’r dec a deugain o wŷr, y rhai oeddynt yn offrymmu yr arogl-darth.

36A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37Dywet wrth Eleazar fab Aaron yr offeiriad, am godi o honaw ef y thusserau o fysc y llosc, a gwascaru y tân oddi yno allan, canys sanctaidd ydynt.

38Sef thusserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun: a gweithier hwynt yn ddalennau llyden yn gaead i’r allor: canys offrymmasant hwy ger bron yr Arglwydd, am hynny sanctaidd ydynt, a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39A chymmerodd Eleazar yr offeiriad thusserau prês y rhai a offrymmase y a loscasid, ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor.

40Ac yn goffadwriaeth i feibion Israel, fel na nessae gwr dieithr (yr hwn ni bydde o hâd Aaron) i losci arogl-darth ger bron yr Arglwydd, ac na bydde fel Corah ai gynnulleidfa, megis y llefarase yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron gan ddywedyd: chwi a lladdasoch bobl yr Arglwydd.

42A bu pan gynhullodd y bobl yn erbyn Moses ac Aaron, edrych o honynt ar babell y cyfarfod, ac wele toase y niwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45Ciliwch o blith y gynnulleidfa hon, a mi ai difâf hwynt yn ddisymmwth: yna y syrthiasant ar eu hwynebau.

46Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron cymmer thusser a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosot arogl-darth a dos yn fuan at y gynnulleidfa, a gwna iawn trostynt: canys digofaint aeth allan oddi ger bron r’ Arglwydd, dechreuodd y blâ.

47A chymmerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynnulleidfa, ac wele dechreuase y blâ ar y bobl, ac efe a rodd arogl-darth, ac a wnaeth iawn tros y bobl.

48Ac efe a safodd rhwng y meirw ar byw, felly yr attaliwyd y blâ.

49A’r rhai a fuant feirw o’r blâ oeddynt bedair mil ar ddec, a saith gant, heb law y rhai a fuant feirw yn achos Corah.

50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r blâ a attaliwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help