1Dymma hefyd eiriau y llyfr a scrifennodd Baruch mab Nerias, fab Maasias, fab Sedechias, fab Asodias, fab Helias yn Babilon:
2Yn y bummed flwyddyn, y seithfed o’r mîs, yr amser yr ennillodd y Caldeaid Ierusalem, ac y lloscâsant hi â thân.
3A Baruch a ddarllennodd eiriau y llyfr hwn o flaen Iechonias mab Ioachim, brenin Iuda, ac o flaen yr holl bobl y rhai a ddaethent i y llyfr:
4Ac o flaen yr holl gedyrn, a holl feibion y brenin, ac o flaen yr henuriaid, ac o flaen yr holl bobl o’r lleiaf hyd y mwyaf, y rhai oll a oeddynt yn trigo yn Babilon wrth afon Sodi.
5Ac hwy a ŵylasant, ac a ymprydiasant, ac a weddiasant ger-bron yr Arglwydd.
6Hwy a gasclasant arian yn ôl gallu pawb:
7Ac a anfonasant i Ierusalem at Ioachim fab Helchias fab Salom yr offeiriad, ac at yr holl offeiriaid ac at yr holl bobl, y rhai a geffid gyd â hwynt yn Ierusalem.
8Wedi cael llestri tŷ yr Arglwydd (y rhai a ddugasid o’r deml) iw dwyn trachefn i wlâd Iuda y decfed o Sifan, y llestri arian y rhai a wnaethe Sedechia mab Iosias brenin Iuda.
9Wedi caeth-gludo o Nabuchodonosor brenin Babilō Iechonias ai dywysogion, ai gedyrn, a phobl y wlâd yn garcharorion o Ierusalem, ai dwyn hwynt i Babilon.
10Ac hwy a ddywedasant, wele ni a anfonasam attoch chwi arian: prynwch chwithau a’r arian offrymmau poeth, ac tros bechod, ac arogl-darth, a darperwch fwyd offrwm, ac offrymmwch ar allor yr Arglwydd ein Duw ni.
11A gweddiwch tros hoedl Nabuchodonosor brenin Babilon, a thros hoedl Baltasar ei fab ef, ar fod eu dyddiau hwynt fel dyddiau y nefoedd ar y ddaiar.
12Ac ar roddi o’r Arglwydd i ni nerth, a goleuo o honaw ef ein llygaid ni fel y byddō ni byw tan gyscod Nabuchodonosor brenin Babilon, a than gyscod Baltasar ei fab ef, ac y gwasanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafr yn eu golwg hwynt.
13Gweddiwch hefyd trosom ni at yr Arglwydd ein Duw, o herwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw, ac ni thrôdd ei lid ai ddîg ef oddi wrthym ni etto.
14Darllennwch hefyd y llyfr ymma yr hwn a anfonasom ni attoth chwi iw draethu yn nhŷ yr Arglwydd ar ddyddiau gwylion, ac ar ddyddiau cymmwys.
15A dywedwch, yr Pen.2.6.Arglwydd ein Duw ni sydd gyfiawn, i ninnau y gwarthrudd goleu fel heddyw i ddynion ac i drigolion Ierusalem,
16Ac i’n brenhinoedd, ac i’n tywysogion ac i’n hoffeiriaid, ac i’n prophwydi, ac i’n tadau,
17Canys ni a Dan.9.5.bechasom ger bron yr Arglwydd ein Duw, ac a anghredasom iddo ef.
18Ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw, gan rodio yn ei orchymynnion ef y rhai a roddes efe o’n blaen ni.
19Er y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau ni o dir yr Aipht hyd y dydd hwn, yr ydym ni yn anghredu i’r Arglwydd ein Duw, ac ni a fuom mor ehud ac na wrandawsom ni ar ei lais ef.
20 Deut.28.15. Am hynny y glŷnodd drwg wrthym ni, a’r felldith yr hon a ordeiniodd yr Arglwydd wrth Moses ei wâs, y dydd y dug yr Arglwydd ein tadau ni allan o dîr yr Aipht, i roddi i ni dîr yn llifeirio o laeth a mêl fel heddyw.
21Ond ni wrandawsom ni ar lais yr Arglwydd ein Duw yn ôl holl eiriau y prophwydi y rhai a anfonodd efe attom ni:
22Eithr ni a rodiasom bob vn wrth feddwl ei galon ddrygionus ei hun gan wasanaethu duwiau dieithr, a gwneuthur drygioni yng-olwg yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.