1A’r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd ger bron Eli: a gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hynny, nidweledigaeth eglur.
2A’r pryd hynny (pan oedd Eli yn gorwedd yn ei fangre, wedi iw lygaid ef ddechreu tywyllu, na alle efe weled,
3A chyn i oleuni Duw ddiffoddi, a Samuel yn cyscu yn nheml yr Arglwydd yr hon Arch Dduw ynddi)
4Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel: dywedodd yntef wele fi.
5A rhedodd at Eli, a dywedodd, wele fi, canys gelwaist arnaf: yntef a ddywedodd, ni elwais i, dychwel gorwedd, ac efe a aeth, ac a orweddodd.
6A’r Arglwydd a alwodd eil-waith ar Samuel: a Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, a dywedodd wele fi, canys gelwaist arnaf: yntef a ddywedodd, na elwais fy mab, dychwel gorwedd.
7Ac nid adwaene Samuel etto yr Arglwydd, ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd etto.
8A’r Arglwydd a alwodd Samuel trachefn y drydedd waith, ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddywedodd wele fi, canys gelwaist arnaf: yna y deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwase ar y bachgen.
9Am hynny Eli a ddywedodd wrth Samuel, dôs a gorwedd, ac os geilw efe arnat, yna dywet, llefara Arglwydd, canys dy wâs sy yn clywed: felly Samuel a aeth, ac a orweddod yn ei le
10Yna y daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megis o’r blaen Samuel, Samuel: a dywedodd Samuel, llefara, canys y mae dy wâs yn clywed.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel wele fi yn gwneuthur pêth yn Israel, yr hwn pwy bynnac ai clywo fe *a ferwinia ei ddwy glust efe.
12Yn y dydd hwnnw y cyfodaf yn erbyn Eli yr hyn oll a ddywedais am ei dŷ ef, gan ddechreu a diweddu
13Mynegais hefyd iddo ef y barnwn i ei dŷ ef yn dragywydd, am yr anwiredd yr hwn a ŵyr efe, o herwydd iw feibion hauddu iddynt felldith, ac nas gwaharddodd efe iddynt hwy.
14Ac am hynny y tyngais wrth dŷ Eli os gwneir iawn am anwiredd tŷ Eli ag aberth, nac a bwyd offrwm byth.
15Yna y cyscodd Samuel hyd y boreu, ac efe a agorodd ddrysau tŷ yr Arglwydd: ond Samuel oedd yn ofni mynegu y weledigaeth i Eli.
16Ac Eli a alwodd ar Samuel, ac a dywedodd, Samuel fy mab: yntef a ddywedodd wele fi.
17Yna y dywedodd efe, beth yr gair yr hwn a lefarodd efe wrthit? na chela attolwg oddi wrthif? Ruth. 1.17fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os celi di oddi wrthif ddim o’r holl beth yr hwn a lefarodd efe wrthit.
18Felly Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd rhagddo: dywedodd yntef, yr Arglwydd efe, gwnaed a yn ddâ yn ei olwg.
19A chynnyddodd Samuel, a’r Arglwydd oedd gyd ag ef, ac ni adawodd oi eiriau ef syrthio i’r ddaiar.
20A gwybu holl Israel o Dan hyd Beerseba mai prophwyd yr Arglwydd Samuel ffyddlon.
21A’r Arglwydd a ymddangosodd trachefn yn Silo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Silo drwy air yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.