1Cyssurwch, cyssurwch fy mhobl, medd eich Duw.
2Dywedwch wrth fodd Ierusalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth: canys maddeuwyd ei hanwiredd, o herwydd derbyniodd o law’r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau.
3Canys llêf yn llefain yn yr anialwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, inionwch lwybr ein Duw ni yn y diffaethwch.
4Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a brynn a ostyngir, y gŵyr a fydd yn iniawn, a’r anwastad yn wastadedd.
5A gogoniant yr Arglwydd a ymeglura fel y cyd-welo pob cnawd mai genau’r Arglwydd a lefarodd
6Llef a ddywedodd gwaedda di, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf, pob cnawd yn wellt, ai holl odidawgrwydd fel blodeun y maes.
7Gwywodd y gwelltyn, a] syrthiodd y blodeun, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno, gwellt yn ddiau’r bobl.
8Gwywodd y gwelltyn, syrthiodd y blodeun, a gair ein Duw ni a saif byth.
9Dring rhagot yr efangyles Sion i fynydd vchel, derchafa dithe dy lef trwy nerth ô efangyles Ierusalem: derchafa nac ofna, dywet wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi.
10Wele’r Arglwydd Dduw a ddaw’n erbyn y cadarn, ai fraich a lywodraetha arno ef, wele ei obrwy gyd ag ef, ai waith oi flaen.
11Fel bugail y portha efe ei braidd, âi fraich y cascl ei ŵyn, ac dŵg yn ei fonwes, ac a goledda y mamogiaid.
12Pwy a fessurodd y dyfroedd yn ei ddwrn? ac a fessurodd y nefoedd âi rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaiar mewn messur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwys, a’r brynnau mewn cloriannau?
13Pwy a gyfarwyddodd Yspryd yr Arglwydd? ac yn ŵr oi gyngor ai hyfforddodd ef?
14A phwy’r ymgynghorodd efe, ie ai hyfforddiodd ac ai dyscodd mewn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo ŵybodaeth, ac a gyfarwyddodd iddo ffordd deallgarwch?
15Wele’r cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel brycewyn oddi wrth gloriannau: wele fel brychewyn y bwrw efe ymaith yr ynysoedd.
16Ac nid digon Libanus yn dân, nid digon ei fwyst-filod ychwaith yn boeth offrwm.
17Yr holl genhedloedd megis diddim ger ei fron ef, yn llai na ddim, ac gwagedd y cyfrifwyd hwynt ganddo.
18I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch chwi i fynu iddo ef?
19Y saer a lunia gerf-ddelw, a’r aurych ai goreura, ac a dawdd gadwyni o arian.
20Yr hwn sydd arno eisieu offrwm a ddewis bren heb pydru, cais ef atto saer cywraint i baratoi cerf-ddelw yr hon ni syfl.
21Oni ŵyddoch, oni chlywsoch, oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad, oni ddeallwch seiliad y ddaiar?
22[Myfi ydwyf] yr hwn a eistedd ar amgylchoedd y ddaiar, (pan ei thrigolion fel locustiaid) yr hwn a estyn y nefoedd fel cortyn, ac ai lledda fel pabell i drigo
23Yr hwn a rydd lywodraeth-wŷr yn ddiddim, fel gwagedd y gwnaeth efe farnwŷr y tir.
24Ac ni phlannwyd hwynt, ni’s hauwyd ychwaith ei foncyff hefyd ni wreiddiodd yn y ddaiar, eithr efe a chwythodd arnynt, ac hwynt a wywasant, a chorwynt ai dwg hwynt ymmaith fel vs.
25I bwy gan hynny i’m cyffelybwch, ac i’m cystedlir medd y Sanct?
26Derchefwch eich llygaid yn vchel, ac edrychwch pwy a greawdd y rhai hyn, yr hwn a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi, efe ai geilw hwynt oll wrth eu henwau: drwy amlder rymm ai gadarn allu ni phallhâ dim.
27Pa ham y dywedi Iacob, ac y lleferi Israel? cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr Arglwydd a’m barn aiff heibio i’m Duw.
28Oni wyddost, oni chlywaist na ddeffygia, ac na flina Duw tragywyddoldeb? yr Arglwydd a greawdd gyrrau’r ddaiar, ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef.
29Yr hwn a rydd nerth i’r deffygiol, ac a amlhâ gryfder i’r dirym.
30Canys llangciau a ddeffygiant, ac a flinant, a’r gwŷr ieuaingc gan syrthio a syrthiant.
31Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a wellhânt o nerth, ehedant fel eryrod, rhedant ac ni flinant, rhodiant ac ni ddeffygiant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.