Diharebion 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Am fachniaeth. 5 Diogi 12 cynneddf y drygionus 16 y chwe pheth câs gan Dduw. 20 gair Duw. 24 a drygioni puttain.

1Fy mab os machniaist dros dy gymmydog, tarewaist dy law y dieithr.

2Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau.

3Gwna hyn yr awr hon (fy mab), a gwaret dy hun gan i ti syrthio i law dy gymmydog, cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymmydog.

4Na ddyro gwsc i’th lygaid, na hûn i’th amrantau.

5Gwaret dy hun fel yr iwrch o law ac fel adêryn o law yr adar-wr.

6Cerdda at y morgrugyn, tydi segurllyd, edrych ar ei ffyrdd ef, a dysc synnwyr.

7Nid oes ganddo neb iw arwain, iw lywodraethu, nac iw feistroli.

8[Ac er hynny] y mae efe yn paratoi ei fwyd amser haf, ac yn casclu ei lynniaeth amser cynhaeaf.

9Pa hŷd ddiogyn y gorweddi? pa brŷd y cyfodi o’th gwsc?

10 Pen.24.33. Ychydig chwaneg o gyscu, ychydig chwaneg o hepian, ychydig chwaneg o wascu dwylaw i gyscu.

11Am hynny yn y cyf-amser y daw tlodi arnat fel ymdeithudd, a’th angen fel gŵr arfog.

12Dŷn i’r fall, gŵr anwir a rodia â genau traws.

13Efe a amneidia ai lygaid, efe a fynega ai draed, a ddysc ai fysedd.

14Y mae pob rhyw drawsedd yn ei galon, y mae yn dychymmyg drygioni bob amser, ac yn peri cynnen.

15Am hynny ei ddinistr a ddaw arno: yn ddisymmwth y dryllyr ef, fel na byddo meddiginiaeth.

16Y chwe pheth hyn sydd gâs gan yr Arglwydd: ie saith beth sydd ffiaidd ganddo ef.

17Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion.

18Y galon a ddychymmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i wneuthur drwg.

19Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.

20Fy mab cadw orchymyn dy dad, ac nag ymado â chyfraith dy fam.

21Rhwym hwynt Pen.33.ar dy galon yn oestadol cylymma hwynt am dy wddf.

22Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda, pan orweddech hi a’th wilia di, pan ddeffroech, hi a gŷdymddiddan â thi.

23Canys canwyll yw’r gorchymyn, a goleuni yw’r gyfraith, a ffordd i fywyd yw cospedigaeth addysc.

24I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr.

25Na chwennych ei phryd hi yn dy galon, ac na âd ti iddi dy ddal ag amrantau ei llygaid.

26O blegit y fenyw buteinig tammaid o fara, a gwraig gŵr arall a hela yn ôl yr enaid gwerth-fawr.

27A ddichon gŵr arwain tân yn ei fynwes, heb losci ei ddillad?

28A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losci ei draed?

29Felly pwy bynnac a êl at wraig ei gymmydog, ac a gyffyrddo â hi ni bŷdd digerydd.

30Ni wradwyddir lleidr yr hwn a ledrattao i ddadabruu ei enaid, pan fyddo arno newyn.

31Ond os delir ef, rhaid iddo dalu yn saith ddyblyg neu fe orfydd iddo roi cymaint oll ag a feddo yn ei dŷ.

32Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr, y neb ai gwnêl a lygra ei enaid ei hun.

33Clais, a gwarth a gaiff efe, ai gywilydd ni ddeleir.

34Cynddaredd yw eiddigedd gwr, am hynny nid erbyd efe yn nydd dial.

35Ni bydd ganddo bris am iawn ac ni fodloneir ef, er rhoi rhoddion lawer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help