1A’r brenin Dafydd * hên, a aethe mewn oedran, er iddynt ei anhuddo ef mewn dillad etto ni chynhese efe.
2Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, ceisier i’m harglwydd frenin langces o forwyn, a safed hi o flaen y brenin, a bydded yn gwneuthur ymgeledd iddo ef: a gorwedded yn dy fonwes fel y gwresogo fy arglwydd frenin.
3Felly y ceisiasant langces dêg drwy holl frô Israel, ac a gawsant Abisag y Sunamites, ac ai dugasant hi at y brenin.
4A’r llangces dêg iawn, ac yr ydoedd hi yn gwneuthur ymgeledd i’r brenin, ac hi ai gwasanaethodd ef: ond ni bu i’r brenin a wnaeth a hi.
5Ac Adonia mab Haggith a ymdderchafodd gan ddywedyd, myfi a fyddaf frenin: ac efe a ddarparodd iddo gerbydau a gwyr meirch, a 2.Sam.15.1.deng-wr a deugain yn rhedeg oi flaen ef.
6Ai dâd nis cystuddiase ef yn ei ddyddiau gan ddywedyd, paham y gwnaethost fel hyn? yntef hefyd dêg iawn o bryd, ac efe a anesyd wedi Absalom.
7Ai gyfrinach ef oedd gyd ag Ioab fab Serfia, a chyd ag Abiathar yr offeiriad: a hwynt a gynnorthwyasant Adonia.
8Ond Zadoc yr offeirlad, a Benaiah mab Iehoiada, a Nathan y prophwyd, a Semei, a Rei, a’r cedyrn y rhai gyd a Dasydd nid gyd ag Adoma.
9Ac Adonia a aberthodd ddefaid, a gwartheg, a brâs wrth faen Zoheleth, yr hwn wrth ffynnon Rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Iuda gweision y brenin.
10Ond Nathan y prophwyd, a Benaiah, a’r cedryn, a Salomon ei frawd ni wahoddodd efe.
11Am hynny y dywedodd Nathan wrth Bathseba mam Salomon gan ddywedyd: oni chlywaisti fod Adonia mab 2.Sam.3.4.Haggith yn teyrnasu? a’n harglwydd Dafydd heb wybod i ti?
17Hithe a ddywedodd wrtho ef, fy arglwydd ti a dyngaist i’r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes: Salomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fyngorseddfaingc i.
18Ac yn awr wele Adonia sydd frenin, ac yr awr hon fy arglwydd frenin nis gwybuost di
19Hefyd efe a aberthodd wartheg, ac breision, a defaid yn lluosog, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, ac Ioab tywysog y filwriacth: ond dy wâs Salomon ni wahoddodd efe.
20Tithe fy Arglwydd frenin llygaid holl Israel arnat ti, am fynegu iddynt pwy a eistedd ar orsedd-faingc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef.
21Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyd ai dadau, yna y byddafi a’m mab Salomon yn bechaduriaid.
22Ac wele tra’r oedd hi etto yn ymddiddan a’r brenin, y daeth Nathan y prophwyd hefyd.
23Felly y mynegasant i’r brenin gan ddywedyd: wele Nathan y prophwyd, ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac efe a ymgrymmodd i’r brenin ar ei wyneb hyd lawr.
24Yna y dywedodd Nathan, fy arglwydd frenin a ddywedaist di, Adonia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fyng-orsedd faingc?
25Canys efe a aeth i wared heddyw, ac a aberthodd ŷchen, ac breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad: ac wele hwynt yn bwytta ac yn yfed oi flaen ef, ac y maent yn dywedyd, bydded byw y brenin Adonia.
26Ond myfi dy wâs, a Zadoc yr offeiriad, a Banaiah mab Iehoiada, a’th wâs Salomon ni wahoddodd efe.
27Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos o honot i’th wâs, pwy a eistedde ar orsedd-faingc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?
28Y brenin Dafydd a attebodd, ac a ddywedodd, gelwch Bathseba attafi: a hi a ddaeth o flaen y brenin, ac a safodd ger bron y brenin.
29A’r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, y mae’r Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i o bob ing:
30Yn ddiau megis y tyngais wrthit ti i Arglwydd Dduw Israel, (gan ddywedyd: Salomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fyng-orseddfaingc i yn fy lle i) felly y gwnaf y dydd hwn.
31Yna Bathseba a ostyngodd ei phen, hwyneb i lawr, ac a ymgrymmodd i’r brenin, ac a ddywedodd: bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
32A’r brenin Dafydd a ddywedodd, gelwch attafi am Zadoc yr offeiriad, ac am Nathan y prophwyd, ac am Banaiah fab Iehoiada: a hwynt a ddaethant o flaen y brenin.
33Yna y brenin a ddywedodd wrthynt, cymmerwch weision eich arglwydd gyd a chwi, a pherwch i Salomon fy mab farchogeth ar fy mules fy hun, ac ewch ag ef i wared i Gihon.
34Ac eneinied Zadoc yr offeiriad, a Nathan y prophwyd ef yno yn frenin ar Israel: yna vdcenwch mewn vdcorn, a dywedwch, bydded byw y brenin Salomon.
35Deuwch chwithau i fynu ar ei ôl ef, a deued efe i fynu, ac eistedded ar fyng-orseddfa i, a theyrnased efe yn fy llei, canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel, ac ar Iuda.
36A Banaiah mab Iehoiada a attebodd y brenin, ac a ddywedodd Amen, yr vn modd y y dywedd’r Arglwydd, Duw fy arglwydd frenin.
37Megis y bu’r Arglwydd gyd a’m harglwydd y brenin, felly bydded gyd a Salomon: a gwnaed yn fwy ei orsedd-faingc ef, na gorsedd-faingc fy arglwydd y brenin Dafydd.
38Felly yr aeth Zadoc yr offeiriad i wared, a Nathan y prophwyd, a Banaiah mab Iehoiada, a’r Cerethiaid, a’r Pelethiaid, ac a wnaethant i Salomon farchogeth ar fûles y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
39A Zadoc yr offeiriad a gymmerodd gorn yr olew o’r babell, ac a eneiniodd Salomon: yna’r vdcanasant mewn vdcorn, a’r holl bobl a ddywedasant, bydded byw y brenin Salomon.
40A’r holl bobl a aethant i fynu ar ei ôl ef yn pibyddio mewn pibellau, ac yn llawenychu a llawenydd mawr fel y rhwyge’r ddaiar gan eu llefain hwy.
41A chlybu Adonia ai holl wahoddedigion y rhai gyd ag ef, a hwynt a ddarfase iddynt fwytta: Ioab hefyd a glywodd lais yr vdcorn, ac a ddywododd, pa ham twrwf y ddinas yn derfyscol?
42Ac efe etto yn llefaru, yna wele daeth Ionathan mab Abiathar yr offeiriad: a dywedodd Adonia, tyret i mewn canys gŵr grymmus ti, a daioni a fynegi di.
43Yna’r attebodd Ionathan, ac y dywedodd wrth Adonia: yn ddiau y brenin Dafydd ein harglwydd ni a osododd Salomon yn frenin.
44A’r brenin a anfonodd gyd ag ef Zadoc yr offeiriad, a Nathan y prophwyd, a Banaiah fab Iehoiada, y Cerethiaid hefyd, a’r Pelethiaid, a hwy a barasant iddo ef farchogeth ar fules y brenin.
45Zadoc hefyd yr offeiriad, a Nathan y prophwyd ai heneiniasant ef yn frenin yn Gihon: ac a aethant i fynu oddi yno yn llawen, a’r ddinas a derfyscodd, dyna’r twrwf yr hwn a glywsoch chwi.
46A Salomon a eisteddodd hefyd ar orsedd-faingc y frenhiniaeth.
47A gweision y brenin a ddaethant hefyd i fendithio y brenin Dafyd ein harglwydd ni gan ddywedyd: dy Dduw a wnelo enw Salomon yn well na’th enw di, ac a wnelo yn fwy ei orsedd-faingc ef na’th orsedd-faingc di: a’r brenin a ymgrymmodd ar y gwely.
48Fel hyn hefyd y dywedodd y brenin, bendigedic Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a roddodd heddyw vn i eistedd ar fyng-orsedd-faingc, 132 a’m llygaid yn gweled.
49Yna yr holl wahoddedigion, y rhai gyd ag Adonia a ddychrynnasant, ac a gyfodasant, ac a aethant bob vn iw daith.
50Ac Adonia oedd yn ofni rhac Salomon, ac a gyfododd, ac a aeth, ac a ymaflodd yng-hyrn yr allor.
51A mynegwyd i Salomon gan ddywedyd, wele y mae Adonia yn ofni y brenin Salomon, ac efe a ymaflodd yng-hyrn yr allor gan ddywedyd: tynged y brenin Salomon i mi heddyw, na ladd efe ei wâs a’r cleddyf.
52Yna y dywedodd Salomon, os bydd efe yn fab rhinweddol, ni syrth oi wallt ef i lawr: ond os ceir drygioni ynddo ef, yna y bydd efe marw.
53A’r brenin Salomon a anfonodd, a hwynt ai descynnasant ef oddi ar yr allor, ac efe a ddaeth, ac a ymgrymmodd i’r brenin Salomon: a dywedodd Salomon wrtho ef, dos i’th dŷ.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.