1Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes, a’i phlāt, y rhai sy hoff gennif yn y gwirionedd, ac nid myfi yn vnic, eithr y rhai oll a adnabuant y gwirionedd:
2Er mwyn y gwirionedd yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyd â ni yn dragywydd.
3Bydded grâs gyd â chwi, trugaredd a thangnheddyf gan Dduw Tâd, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist Fab y Tâd, gyd â gwirionedd, a chariad.
4Llawen iawn oedd gennif gael o honof dy blant yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derhynniasom orchymyn gan y Tâd.
5Ac yn awr yr wyf yn attolwg i ti, ô arglwyddes, (nid fel vn yn scrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd i ni o’r dechreu) bod i ni garu eu gilydd.
6A hwn yw’r cariad, bôd i ni rodio yn ôl ei orchymynnion ef, hwn yw’r gorchymyn, bôd i chwi fel y clywsoch o’r dechreu rodio ynddo.
7Canys llawer o dwyllwyr a ddaethant i mewn i’r bŷd, y rhai ni chyffesant ddyfod Iesu Grist yn y cnawd: yr hwn sydd gyfryw, twyllwr yw, ac anghrist.
8Edrychwch arnoch eich hunain, na chollom y pethau a wnaethom, eithr fel y derbyniom lawn wobr.
9Pwy bynnag sydd yn trosseddu, ac nid yw yn aros yn nysceidiaeth Crist, nid yw Duw ynddo: yr hwn sydd yn aros yn nysceidiaeth Crist, y mae ynddo y Tâd a’r Mâb.
10Os daw nêb attoch ac heb ddwyn y ddysceidieth hon, Ruf.16.17.na dderbynnwch ef i’r tŷ, ac na chyferchwch ef:
11Canys y mae hwn ai cyfarcho yn gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 11b Er bôd gennif lawer o bethau iw scrifennu attoch, er hynny nid scrifennaf â phappyr ac ingc, eithr gobeithio’r ydwyf ddyfod attoch, a llefaru enau yng-enau, fel y cyflawner ein llawenydd.
12Y mae meibion dy etholedig chwaer’th annerch. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
