2.Esdras neu Nehemias 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Cwyn y bobl, a gwaharddiad Nehemias yn erbyn vsuriaeth.

1Ac yr oedd gweiddi mawr y bobl, ai gwragedd yn erbyn yr Iddewon eu brodyr.

2Canys yr oedd rhai yn dywedyd, llawer o honom ni ein meibion, a’n merched i gymmeryd ŷd, fel y bwytaom, ac y byddom byw.

3Yr oedd rhai hefyd yn dywedyd, ein meusydd, ein gwin-llannoedd hefyd a’n tai yr ydym ni yn eu gwystlo: fel y prynom ŷd rhac newyn.

4Ac yr oedd rhai yn dywedyd, benthygiasom arian i treth y brenin: ein meusydd a’n gwîn-llannoedd.

5Ac yn awr ein cnawd ni fel cnawd ein brodyr, ein meibiō ni fel eu meibion hwynt: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fodd gennym canys gan eraill ein meusydd, a’n gwin-llannoedd ni.

6Yna y llidiais ynof yn ddirfawr: pan glywais eu gwaedd hwynt, a’r geiriau hyn.

7Fyng-halon hefyd a feddyliodd ynof, a mi a ddwrdiais y pendefigion, a’r swyddogion, ac a ddywedais wrthynt, yr ydych chwi yn cymmeryd occreth bob vn gan ei gilydd: a rhoddais yn eu herbyn hwynt gynnulleidfa fawr.

8Dywedais hefyd wrthynt, nyni a brynasom ein brodyr yr Iddewon y rhai a werthasid i’r cenhedloedd yn ôl ein gallu, ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? yna y tawsant, ac ni chawsant air

9A mi a ddywedais nit da’r peth yr hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur: oni ddylech chwi rodio mewn ofn ein Duw ni rhac gwradwydd y cenhedloedd ein gelynnion?

10Myfi hefyd brodyr, a’m llangciau ydym yn echwyno iddynt arian, ac ŷd: peidiwn attolwg a’r occreth ymma.

11Rhoddwch attolwg iddynt heddyw eu meusydd, eu gwin-llannoedd, ai oliwydd lannoedd, ai tai trachefn: a chanfed yr arian a’r ŷd, y gwîn, a’r olew, yr hon yr ydych chwi yn ei chymmeryd ganddynt.

12Hwyntau a ddywedasant, nyni ai rhoddwn trachefn, ac ni cheisiwn ddim ganddynt, felly y gwnawn fel yr ydwyt yn llefaru: yna y gelwais yr offeiriaid y tynghedais hwynt i wneuthur yn ôl y gair hwn.

13A mi a escydwais fy mraich, ac a ddywedais, felly’r escydwo Duw bob gŵr yr hwn ni chwplâo y gair hwn oi dŷ, ac oi lafur, ac felly y byddo efe yn escydwedic, ac yn wâg: a’r holl gynnulleidfa a ddywedasant Amen, ac a foliannasant yr Arglwydd, a’r bobl a wnaeth yn ôl y gair hwn.

14Ac o’r dydd yr hwn y gorchymynnase i mi fod yn dywysog iddynt hwy yng-wlâd Iuda o’r vgainfed flwyddyn hyd y ddeuddecfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes y brenin deuddeng mhlynedd, ni fwyteais i na’m brodyr fara y tywysog.

15Canys y tywysogion cyntaf y rhai o’m blaen i a fuasent drymmion ar y bobl, ac a gymmerasent ganddynt am fara a gwîn wedi deugain sicl o arian, eu llangciau hefyd a arglwyddiaethasent ar y bobl: ond ni wneuthum i felly rhag ofn Duw.

16Eithr myfi a gyweiriais yng-waith y mûr hwn, ac ni phrynasom maes: fy holl langciau hefyd a ymgynnullasant yno at y gwaith.

17Ac ar fy mwrdd i o Iddewon, ac o swyddogion ddeng-ŵr a saith vgain, a rhai yn dyfod attom ni o’r cenhedloedd y rhai o’n hamgylch.

18A’r hynn a arlwyid beunydd oedd vn ych, chwech o ddefaid etholedig, ac adar wedi eu paratoi i mi, a phob deng-nhiwrnod y rhoddid gwin i bawb yn ddiandlawd: ac er hyn ni cheisiais fara y tywysog, canys trwm oedd y gwasanaeth hwnnw ar y bobl.

19Cofia fi ô Arglwydd er llês yr hyn oll a’r a wneuthum i’r bobl hyn?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help