Exodus 35 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXV.1 Y Sabboth. 4 Duw yn gofyn offrwm gan ei bobl. 21 Y bobl yn offrwm yn ewyllyscar. 30 Moses yn henwi Besalel, ac Aholiab i weithio y babell.

1Casclodd Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt: dymma y pethau a orchymynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.

2Chwe Exod.20.8.diwrnod y gwneir gwaith, ar y seithfed dydd y bydd i chwi Sabboth sanctaidd gorphywysdra i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnac a wnelo waith arno.

3Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabboth.

4A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel gan ddywedyd: dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd gan ddywedyd.

5Cymmerwch o’ch plith offrwm derchafel i’r Arglwydd, pob Exod.25.2.ewyllyscar ei galon dyged hyn yn offrwm derchafel i’r Arglwydd: aur ac arian, a phrês:

6A sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn, a geifr.

7A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daiar-foch, a choed Sittim.

8Ac olew i’r goleuni: a llyssiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth llysseuoc.

9A meini Onix, a menni iw gosod yn yr Ephod, ac yn y ddwyfronnec.

10A Exod.28.3.phob celfydd o feddwl yn eich plith: deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd.

11 Exod.26.31. Y tabernacl, ei babell-lenn, ai dô: ei dderbynniadau ai styllod, ei farrau ei golofnau ai forteisiau,

12Yr Arch, ai throssolion, y drugareddfa, a’r wahan-len yr hon gorchguddia,

13Y bwrdd, ai drossolion, ai holl lestri: a’r bara gosod.

14A chanhwyll-bren y goleuni, ai lestri, ai lusernau: ac olew y goleuni.

15Ac allor yr arogl-darth, ai throssolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysseuoc, a chaead-lenn drws y tabernacl.

16Allor y poeth-offrwm a’r alch prês, yr hwn iddi, ei throssolion ai holl lestri: y noe ai throed.

17Troelloc lenni y cynteddfa, ei golofnau ai forteisiau: caead-lenn porth y cynteddfa.

18Hoelion y taberncal, a hoelion y cynteddfa ai rhaffau hwynt.

19A gwiscoedd y wenidogaeth i weini yn y cyssegr: sanctaidd wiscoedd Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu

20Yna holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.

21A phob vn yr hwn y dug ei galon ef: sef pob vn yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllyscar, a ddaethant a ddugasant offrwm derchafel i’r Arglwydd, tu ac at waith pabell y cyfarfod, a thu ac at ei holl wasanaeth hi, a thu ac at y gwiscoedd sanctaidd.

22A daethant yn wŷr, ac yn wragedd: pob vn ewyllyscar ei galon a ddugasant fachau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau eu gyd yn dlysau o aur, a phob gwr yr hwn a offrymmodd offrwm cwhwfan aur i’r Arglwydd.

23A phob vn yr hwn y caed gyd ag ef sidan glâs, neu borphor, neu scarlat, neu sidan gwynn, neu geifr, neu grwyn hyrddod wedi lliwio yn gochion, neu grwyn daiar-foch ai dugasant.

24Pwy bynnac a offrymmodd offrwm derchafel o arian, neu brês, a ddugasant offrwm derchafel i’r Arglwydd: a phob vn; yr hwn y caed gyd ag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth ai dugasant.

25A phob gwraig gelfydd a nyddodd ai llaw ei hun: ac a ddugasant edafedd, sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn.

26A’r holl wragedd y rhai y derchafodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant geifr.

27A’r pennaethiaid a ddugasant feini Onix, a meini iw gosod ar yr Ephod, ac ar y ddwyfronnec.

28A llyssiau, ac olew i’r goleuni, ac Pen.30.23.i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth llysseuoc.

29Holl blant Israel yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ac at yr holl waith yr hwn a orchymynnase yr Arglwydd drwy law Moses ei wneuthur, a ddugasant i’r Arglwydd offrwm ewyllyscar.

30Yna y dywedodd Moses wrth feibion Israel gwelwch, galwodd * yr Arglwydd yn enwedic: Besaleel fab Uri, fab Hur o lwyth Iuda.

31Ac ai llanwodd ef ag yspryd Duw: mewn cyfarwyddyd mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith.

32I ddychymygu cywreinrwydd: i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês.

33Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saerniaeth prenn: i weithio ym mhob gwaith cywraint.

34Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddyscu efe, ac Aholiab mab Achisamech o lwyth Dan.

35Llawnodd hwynt a doethineb calon i wneuthur pob gwaith saer a Exod.26.1.chywreinwaith, a gwaith edef a nodwydd, mewn sidan glâs, ac mewn porphor, ac mewn scarlat, ac mewn sidan gwynn, ac i wau: gan wneuthur pob gwaith, a dychymygu cywreinrwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help