Ioan 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Curo, a gwatwar yr Iesu. 9 Wedi i Pilat holi Crist, a’r Iddêwon, efe a ddododd Crist iddynt iw groes-hoelio, 24 Bwrw coel-brennau am ei wisc ef. 26 Efe yn cynghori Mair ei fam ac Ioan efangylwr. 30 Dioddefaint Crist, 38 A’i gladdedigaeth.

1Yna y cymmerodd

14A darparwyl y Pasc oedd hi, yng-hylch y chweched awr, ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, wele eich Brenin.

15Hwythau a lefâsant, ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef, Pilat a ddywedodd wrthynt: a groes-holiaf fi eich Brenin chwi? a’r arch-offeiriaid a attebasant, nid oes i ni vn brenin ond Cæsar.

16Yna efe a’i dodes ef iddynt iw groes-hoelio, ac

20A llawer o’r Iddewon a ddarllenasant y titl hwn, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliasid Iesu: ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebriw, Groeg a Lladin.

21Yno arch-offeiriaid yr Iddewon a ddywedâsant wrth Pilat, na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr ei fod yn dywedyd, Brenin yr Iddewon ydwyfi.

22Pilat a attebodd, yr hyn a scrifennais a scrifennais.

23A’r Math.27.35. marc.15.21. luc.23.33.mil-wŷr pan ddarfu iddynt groshoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad (ac a’i gwnaethant yn bedair rhann i bôb milwr) a’i bais ef: a’i bais oedd ddi-wnîad, wedi ei gwêu o’r cwr vchaf oll.

24Ac hwy a ddywedâsant yn eu plith eu hun: na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau pwy a’i caiff hi: i gyflawni yr scrythur gan ddywedyd, Psal.22.18.hwy a rannâsant fy nillad iddynt, a’m fy mhais y bwriâsant goelbrennau: a’r mil-wŷr a wnaethant hyn.

25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam, a Mair Cleophas, a Mair Fagdalen.

26A phan welodd Iesu ei fam a’r discybl yr hwn a gare efe yn sefyll ger llaw, efe a ddywedodd wrth ei fam, ô wraig, wele dy fab.

27Ac wedi hynny y dywedodd wrth y discybl: wele dy fam, ac o’r awr honno y cymmerodd y discybl hi iw gartref.

28Yn ôl hynny pan ŵybu yr Iesu fod pob peth wedi ei derfynu: er cyflawni Psal.69.22.yr scrythyrau, efe a ddywedodd, y mae syched arnaf.

29Ac yr oedd llestr wedi ei osod yn llawn o finegr, a hwy a lanwâsant spong o finegr, ac a’i rhoddasant yng-hylch Ysop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.

30Ac wedi i’r Iesu gymmeryd y finegr efe a ddywedodd, gorphennwyd, a chan ogwyddo ei ben efe a rhoddes i fynu yr yspryd.

31A’r Iddewon, rhag aros o’r cyrph ar y groes drôs y Sabboth, (canys darpar-ŵyl y Pasc ydoedd hi, a mawr oedd y Sabboth hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat gael torri eu hesceiriau hwynt, a’i tynnu i lawr.

32Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gyd ag ef.

33Eithr pan ddaethant at yr Iesu a’i weled wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef.

34Ond vn o’r mil-wŷr a frathodd ei ystlys ef â gwaiw-ffon, ac yn y fan gwaed a dwfr a ddaeth allan.

35A’r hwn a’i gwelodd sydd yn testiolaethu, a gwir yw ei destiolaeth ef, ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwithau.

36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr scrythur.Exod.12.46. num.9.12.Ni ddryllir ascwrn o honaw ef.

37Ac eil-waith scrythur arall sydd yn dywedyd.Zach.12.10.Hwy a edrychant ar yr hwn a wanâsant.

38Ac Math.27.57. marc.15.42. luc.23.50.yn ôl hyn Ioseph o Arimathæa, (yr hwn oedd ddiscybl i’r Iesu, eithr yn guddiedic rhag ofn yr Iddewon, a ddeisyfiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu: a Philat a gennadhâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu.

39Ac fe ddaeth Nicodemus hefyd yr hwn yn gyntaf a Ioan.3.2.ddaethe at yr Iesu o hŷd nos, ac a ddug Myrr, ac Aloes yng-hymmysc, tu a chanpwys.

40Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon i gladdu.

41Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn er ioed.

42Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, (am fod y bedd hwnnw yn agos,) y rhoddasant yr Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help