Numeri 33 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIII.1 Taithiau’r Israeliaid. 51 Duw yn gorchymyn iddynt ddinistrio y Canaaneaid ai heulynnod.

1Dymma deithiau meibion Israel y rhai a ddaethant allan o dîr yr Aipht yn eu lluoedd dan law Moses ac Aaron.

2A Moses a scrifennodd eu dyfodiad hwynt allan yn eu teithiau, wrth archedigaeth yr Arglwydd: ac dymma eu teithiau hwynt yn eu dyfodîad allan.

3Sef cychwnnasant Exod.12.37.o Rameses, o fewn y mîs cyntaf, ar y pymthecfed dydd o’r mîs cyntaf: trannoeth wedi ’r Pasc yr aeth meibion Israel allan a llaw vchel yng-olwg yr Aiphtiaid oll.

4Yna yr Aiphtiaid oeddynt yn claddu pôb cyntafanedic, y rhai a laddase yr Arglwydd yn eu mysc, a gwnaethe yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.

5A meibion Israel a gychwnnasant o Rameses, ac a werssyllasant yn Succoth.

6A chychwnnasant o Exod.13.20.Succoth, a gwerssyllasant yn Etham yr hon yng-hwrr yr anialwch.

7A chychwnnasant o Etham, a throesant i Pi-Hahiroth, yr hon o flaen Baal Sephon, ac a werssyllasant o flaen Migdal.

8A chychwnnasant o Pi-Hahiroth, ac aethant Exod.15.22.trwy ganol y môr i’r anialwch, a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwerssyllasant yn Marah.

9 Exod.15.25. A chychwnnasant o Marah, a daethant i Elim, ac yn Elim deuddec o ffynhonnau dwfr, a dec a thrugain o balm-wydd: a gwerssyllasant yno.

10A chychwnnasant o Elim, a gwerssyllasant wrth y môr côch.

11A chychwnnasant oddi wrth y môr côch, a gwerssyllasant yn Exod.16.1.anialwch Zin.

12Ac o anialwch Zin y chychwnnasant, ac y gwerssyllasant yn Daphca.

13A chychwnnasant o Daphca, a gwerssyllasant yn Alus.

14A chychwnnasant o Alus, a gwerssyllasant yn Exod.17.1.Raphidim, ac yno nid oedd dwfr i’r bobl iw yfed.

15A chychwnnasant o Raphidim, a gwerssyllasant yn Exod.9.1.anialwch Sinai.

16A chychwnnasant o anilwch Sinai, a gwerssyllasant ym Num.11.34.Meddau y blŷs.

17A chychwnnasant o Feddau yr blŷs, a gwerssyllasant yn Num.11.35.Hazeroth.

18A chychwnnasant o Hazeroth, a gwerssyllasant yn Rithma.

19A chychwnnasant o Rithma, a gwerssyllasant yn Rimon Phares.

20A chychwnnasant o Rimon Phares, a gwerssyllasant yn Libna,

21A chychwnnasant o Libna, a gwerssyllasant yn Rissa.

22A chychwnnasant o Rissa, a gwerssyllasant vn Cehelatha.

23A chychwnnasant o Cehelatha, a gwerssyllasant ym mynydd Sepher.

24A chychwnnasant o fynydd Sepher, a gwerssyllasant yn Harada.

25A chychwnnasant o Harada, a gwerssyllasant yn Maceloth.

26A chychwnnasant o Maceloth, a gwersyllasant yn Thahath.

27A chychwnnasant o Thahath, a gwersyllasant yn Tharath.

28A chychwnnasant o Tharath, a gwerssyllasant yn Mithca.

29A chychwnnasant o Mithca, a a gwerssyllasant yn Hasmonah.

30A chychwnnasant o Hasmonah, a gwerssyllasant yn Moseroth.

31A chychwnnasant o Moseroth, a gwerssyllasant yn Bene Iaacan.

32A chychwnnasant o Bene Iaacan, a gwerssyllasant yn Horgadgad.

33A chychwnnasant o Horgadgad, a gwerssyllasant yn Iethebatha.

34A chychwnnasant o Iethebatha, a gwerssyllasant yn Abrona.

35A chychwnnasant o Abrona, a gwerssyllasant yn Ezeon Gaber.

36A chychwnnasant o Ezeon Gaber, a gwerssyllasant yn Num.20.1.anialwch Zin, hwnnw yw Cades

37A chychwnnasant o Cades, a gwerssyllasant ym-mynydd Hor, yng-hwrr tîr Edom.

38Ac Num.20.25|NUM 20:25. deut.32.50.Aaron yr offeiriad a aeth i fynydd Hor, wrth archedigaeth yr Arglwydd, ac a fu farw yno yn y ddeugainfed flwyddyn wedi myned meibion Israel allan o dîr yr Aipht, yn y pummed mîs, ar y cyntaf o’r mîs.

39Ac Aaron fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.

40A brenin Num.21.1.Arad y Canaanead, ac efe yn trigo yn y dehau yn nhir Canaan a glybu o ddyfodiad meibion Israel.

41A chychwnnasant o Num.21.4.fynydd Hor, a gwerssyllasant yn Zalmona.

42A chychwnnasant o Zalmona, a gwerssyllasant yn Phunon.

43A chychwnnasant o Phunon, a gwerssyllasant yn Num.21 10Oboth.

44A chychwnnasant o Oboth, a gwerssyllasant yn Iim Abarim, ar derfyn Moab.

45A chychwnnasant o Iim Abarim, a gwerssyllasant yn Dibon Gad.

46A chychwnnasant o Dibon Gad, a gwerssyllasant yn Almon Diblathaim.

47A chychwnnasant o Almon Diblathaim a gwerssyllasant ym mynyddoedd Abarim o flaen Nebo.

48A chychwnnasant o fynyddoedd Abarim, a gwerssyllasant yn rhossydd Moab am yr Iorddonen ag Iericho.

49A gwerssyllasant wrth yr Iorddonen o Beth Iesimoth hyd wastadedd Num.25.1.Sittim yn rhossydd Moab.

50A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhossydd Moab am yr Iorddonen ag Iericho, gan ddywedyd:

51Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt, gan eich bod chwi yn Deut.7.2. iosua.11.11.myned tros yr Iorddonen i dîr Canaan:

52Gorescynnwch chwithau holl drigolion y tîr o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt, dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl vchelfeudd hwynt.

53Ie gorescynnwch y tîr, a thrigwch ynddo: canys rhodais y tîr i chwi iw orescyn.

54Rhennwch hefyd y tîr yn etifeddiaeth trwy eich teuluoedd wrth goelbren, Num.26.54.i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth, bydd eiddo lle yr el y coelbren allan iddo: yn ol llwythau eich tadau yr etifeddwch.

55Ac oni orescyunwch bresswylwyr y tîr o’ch blaen, yna y bydd y rhai a Deut.7.10. Iosua. 23.1.weddillwch o honynt yn Barn 2.3.gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlyssau, a blinant chwi yn y tîr yr hwn y trigwch ynddo.

56A bydd megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy y gwnaf i chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help