1Yn ôl dyddiau lawer y daeth gair yr Arglwydd at Elias yn y drydedd flwyddyn gan ddywedyd: dos, ymddangos i Ahab, a mi a roddaf law ar wyneb y ddaiar.
2Elias gan hynny a aeth, ac a ymddangosodd i Ahab: a’r newyn oedd dôst yn Samaria.
3Ac Ahab a lawodd am Obadia yr hwn ben teulu o’r anifeiliaid fethu.
6Felly y rhannasant iddynt y wlâd iw cherdded: Ahab a aeth y naill ffordd ei hunan, ac Obadia a aeth y ffordd arall ei hunan.
7Pan oedd Obadia ar y ffordd, yna wele Elias yn ei gyfarfod ef: ac efe ai hadnabu ef, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ddywedodd, onid ti yw fy arglwydd Elias?
8Yntef a ddywedodd wrtho ef myfi: dos, dywet i’th arglwydd, wele Elias.
9Dywedodd yntef, pa bechod a wneuthum i, pan ydwyt ti yn rhoddi dy wâs yn llaw Ahab i’m lladd?
10[Fel] mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes genhedlaeth, na brenhiniaeth yr hon ni ddanfonodd fy arglwydd iddi i’th geisio di, pan ddywedent, nid yna efe a dynge y frenhiniaeth, a’r genhedlaeth pan nath gaffe di.
11Ac yn awr, ti ydwyt yn dywedyd: dôs, dywet i’th arglwydd, wele Elias.
12A phan elwyf fi oddi wrthit ti, yna yspryd yr Arglwydd a’th gymmer di llê nis gwn i, pan ddelwyf i fynegu i Ahab ac yntef heb dy gael di, yna efe a’m lladd fi: ond y mae dy wâs di yn ofni yr Arglwydd oi febyd.
13Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn a a wneuthum i pan laddodd Iezabel brophwydi’r Arglwydd, fel y cuddiais, gan-ŵr o brophwydi yr Arglwydd bôb yn ddêng-ŵr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara, ac a dwfr?
14Ac yn awr ti a ddywedi, dos, dywet i’th arglwydd, wele Elais, fel i’m lladdo fi.
15A dywedodd Elias mai byw Arglwydd y lluoedd yr hwn y sefais ger ei fron: heddyw yn ddiau yr ymddangosaf iddo ef.
16Yna Obadia a aeth i gyfarfod Ahab, ac a fynegodd iddo ef: ac Ahab a aeth i gyfarfod Elias.
17Pan welodd Ahab Elias: yna Ahab a ddywedodd wrtho ef, onid ti yw efe yr hwn sydd yn blino Israel?
18Ac efe a ddywedodd, ni flinais i Israel, onid ty di, a thŷ dy dad ti: am i chwi wrthod gorchymynnion yr Arglwydd, a rhodio, o honoch chwi ar ôl Baalim.
19Ac yn awr anfon, chascl attaf holl Israel i fynydd Carmel: a phrophwydi Baal, pedwar cant, a dêc a deugain, a phrophwydi y llwynau, pedwar cant y rhai ydynt yn bwytta ar fwrdd Iezabel.
20Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel: ac a gasclodd y prophwydi i fynydd Carmel.
21Yna Elias a nessaodd at yr holl bobl, ac a ddywedodd, pa hŷd yr ydych chwi yn cloffi mewn dau feddwl? os yr Arglwydd Dduw, ewch ar ei ôl ef, ond os Baal, ewch ar ei ôl yntef: a’r bobl ni actebasant iddo ef air.
22Yna y dywedodd Elias wrth y bobl, myfi fy hunan ydwyf yn fyw o brophwydi yr Arglwydd: a phrophwydi Baal bedwar cant a deng-wr a deugain.
23Rhodder gan hynny i ni ddau fustach, a dewisant hwy iddynt vn bustach, a drylliant ef, a gosodant ar y coed, ond na osodant dân a minnef a baratoaf y bustach arall, ac ni roddaf dân tano.
24Yna gelwch ar enw eich duwiau chwi, a minnef a alwaf ar enw yr Arglwydd, a bydded efe yn Dduw yr hwn a attebo drwy dân, efe Dduw: a’r holl bobl a attebasant, ac a ddywedasant, da yw yr pêth.
25Ac Elias a ddywedodd wrth brophwydi Baal, dewiswch i chwi vn bustach, a pharatoiwch ef yn gyntaf, (canys llawer ydych chwi: ) a gelwch ar enw eich duwiau chwi, ac na osodwch dân tano ef,
26A hwynt a gymmerasant y bustach yr hwn a roddasid iddynt hwy, ac ai paratoasant, ac a alwasant ar enw Baal o’r boreu hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal gwrando ni, ond ni llef, na neb yn atteb: a hwynt a lammasant ar yr allor yr hon a wnelsid.
27Pan ydoedd hi yn hanner dydd, yna Elias ai gwatworodd hwynt, ac a ddywedodd, gelwch a llef vchel, gan mai duw yw efe: canys ymddiddan neu erlyd ei neu ymdeithio y mae efe, fe a alle gyscu o honaw ef, ac ei ddeffroi ef.
28A hwynt a waeddasant a llef vchel, ac a ymrwygasant yn ôl eu harfer a chyllill, ac ag ellynnod, nes gollwng gwaed arnynt.
29Ac wedi iddi fyned tros hanner dydd, a phropwydo o honynt nes offrymmu y bwyd offrwm: etto ni chlybuwyd llef, na neb yn atteb, na dim ystyriaeth
30A dywedodd Elias wrth yr holl bobl, nessewch attafi, a’r holl bobl a nessasant atto ef: ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd yr hon a ddrylliasid.
31Ac Elias a gymmerth ddeuddec o gerric, yn ôl rhifedi llwythau meibion Iacob: yr hwn y buase gair yr Arglwydd gyd ag ef gan ddywedyd, Gene.32.28. 2.bren.17.34.Israel fydd dy enw di.
32Ac efe a adailadodd a’r meini allor yn enw yr Arglwydd: ac a wnaeth ffôs (o gylch lle dau fesur o hâd) o amgylch i’r allor.
33Ac efe a drefnodd y coed, ac a ddrylliodd y bustach, ac ai gosododd ef ar y coed.
34Ac efe a ddywedodd, llenwch bedwar celyrned o ddwfr, a thywelltwch ar y poeth offrwm, ac ar y coed: ac efe a ddywedodd, gwnewch eil-waith, a hwy a wnaethant eil-waith, dywedodd hefyd, gwnewch y drydedd waith, a hwy a wnaethant y drydedd waith.
35A’r dyfroedd a aethant o amglych i’r allor, fel y llawnwyd y ffos o ddwfr.
36A phan offrymmwyd y bwyd offrwm, yna Elias y prophwyd a nessaodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw Abraham, Isaac, ac Israel, gwybydder heddyw mai ti Dduw yn Israel, a minnef yn wâs i ti: ac mai trwy dy air di y gwneuthum i yr holl bethau hynn.
37Gwrando fi ô Arglwydd, gwrando fi, fel y gŵypo y bobl hyn mai tydi Arglwydd Dduw: pan ddychwelech eu calon hwynt trachefn.
38Yna tân yr Arglwydd a syrthiodd, ac a yssodd y poeth offrwm, a’r coed, a’r cerrig, a’r llwch: ac a leibiodd y dwfr yr hwn yn y ffôs.
39A’r holl bobl a welsant, ac a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant: ’r Arglwydd sydd Dduw, yr Arglwydd sydd Dduw.
40Ac Elais a ddywedodd wrthynt hwy, deliwch brophwydi Baal, na ddianged gŵr o honynt, a hwynt ai daliasant hwy: ac Elias ai dygodd hwynt i wared i afon Cison, ac i lladdodd hwynt yno.
41Ac Elias a ddywedodd wrth Ahab, dôs i fynu, bwytta, ac ŷf: canys drwst llawer o law.
42Felly Ahab a ath i fynu i fwytta, ac i yfed: ac Elias a aeth i fynu i benn Carmel, ac a ymestynnodd ar y ddaiar, ac a osododd ei wyneb rhwng ei liniau.
43Ac efe a ddywedodd wrth ei langc, dos i fynu yn awr edrych tua yr môr, ac efe a aeth i fynu ac a edrychodd, ac a ddywedodd, nid dim: dywedodd yntef, dos etto saith waith.
44A’r seithfed waith y dywedodd efe, wele gwmmwl bychan fel cledr llaw gŵr yn derchafu o’r môr: yna y dywedodd yntef, dos i fynu, dywet wrth Ahab, rhwym, a dos i wared fel na’th rwystro yr glaw.
45Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dywyllasant gan gwmylau, a gwynt, fel y bu glaw mawr: yna Ahab a farchogodd, ac a aeth i Iezrahel.
46A llaw yr Arglwydd oedd gyd ag Elais, ac efe a wregyssodd ei lwynau: ac a redodd o flaen Ahab nes ei ddyfod efe i Iezrahel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.