1.Timotheus 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Iawn gynneddfau eglwys-wyr a thylwyth eu ty, neu eu teuly. 15 Braint yr eglwys.

1Ymadrodd gwir yw hwn, od yw neb yn Titus.1.6.ewyllysio swydd escob, y mae yn chwennychu gwaith da.

2Rhaid gan hynny i’r escob fod yn ddiargyoedd, yn ŵr vn wraig, yn wiliadwrus, yn gymhe sur, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athrawaidd,

3Nid yn wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn chwannog i fydr-elw, eithr yn llariaidd, nid yn ymladdgar, yn ddi-gybudd,

4Yn llywodraethu ei dy ei hun yn dda, yn cynnal ei blant dan vfydd-dod, yng-hyd â phob onestrwydd.

5Canys oni feidr vn lywodraethu ei dy ei hun: pa fodd y gofala efe tros eglwys Dduw?

6Nid yn yscolhaig ieuangc, rhag iddo wedi ymchwyddo syrthio i farn diafol.

7Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael gair da gan ddieithriaid, rhag digwydd mewn gwarth a magl diafol.

8Felly hefyd y diaconiaid yn onest, nid â thafodau dau-ddyblyg, nid wedi ymroi i lawer o win, nid yn budr-elwa,

9Yn dala Pen.1.1.9.(sic.)dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

10Profer y rhai hyn hefyd yn gyntaf, ac yna gwasanaethant, os byddant ddiargyoedd.

11Felly hefyd gwragedd yn onest nid â thafodau drwg, eithr yn sobr, ffyddlon ym mhob peth.

12 Bod y diaconiaid yn wŷr vn wraig, ac yn llywdoraethu yn dda eu plant a’u tai eu hun.

13Canys y rhai a wasanaethāt yn iawn a ennilllant iddynt eu hunain radd dda, a rhydd-did mawr trwy ’r ffydd, yr hon sydd yng-Hrist Iesu.

14Hyn yr ydwyf yn ei scrifennu attat, gan obeithio y deuaf attat ar fyrder.

15Ond os tariaf yn hir, fod i ti ŵybod pa fodd y bydd rhaid i ti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn ydyw eglwys y Duw byw, colofn, a sylfaen y gwirionedd.

16Ac yn ddi-ddadl, mawr ydyw dirgelwch duwioldeb Duw a ymddangosodd mewn cnawd, a gyfiawnwyd yn yr Yspryd, a welwyd gan angelion, a bregethwyd i’r cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, ac a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help