Iudith 5 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. V.Achior yn dangos mawredd Duw yr Israeliaid.

1Yna y mynegwyd i Holophernes tywysog milwriaeth yr Assyriaid ddarfod i feibion Israel ymbaratoi i ryfel, a chaeu o honynt hwy fylchau y mynyddoedd, a murio holl goppa y mynydd vchel, a gosod rhwystrau yn y meusydd:

2Am hynny efe a ddigiodd yn ddirfawr, ac a alwodd am holl dywysogion Moab, a chapteniaid Ammon, a holl lywodraeth-wŷr y mor-dîr.

3Ac efe a ddywedodd wrthynt, mynegwch i mi chwi feibion Canaan, pwy ydyw y bobl hyn y rhai ydynt yn presswylio yn y mynyddoedd: a pheth yw y dinasoedd yn y rhai y maent yn trigo: a pha gymmaint sydd yn eu llu hwynt: ac ym mha beth y mae eu cadernid, ai nerth hwynt? a pha frenin, neu dywysog a gyfododd yn eu mysc hwynt ar eu llu hwynt:

4A pha ham y cydtunasant na ddeuent i’m cyfarfod i, yn amgenach nâ holl drigiolion y gorllewyn?

5Yna y dywedodd Achior tywysog holl feibion Ammon, gwrandawed fy arglwydd air o enau dy wâs, ac myfi a fynegaf i ti y gwirionedd am y bobl hynny, y rhai ydynt yn presswylio yn y mynyddoedd hynn, yn gyfagos i’r lle yr ydwyt ti yn cyfanneddu: ac ni ddaw celwydd allan o enau dy wâs.

6Y bobl hyn sy o hiliogaeth y Caldeaid,

7Ac o’r blaen yr oeddynt hwy yn trigo ym Mesopotamia, o herwydd na chanlynent hwy dduwiau eu tadau, y rhai oeddynt yng-wlâd Caldea.

8Eithr hwynt a aethant o ffordd eu rhieni hwy, ac a addolasant Dduw y nefoedd, y Duw yr hwn a adwaenent: felly hwyntau ai bwriasant hwy o ŵydd eu duwiau, a hwythau a ffoasant i Mesopotamia, ac a wladychâsant yno ddyddiau lawer.

9Yna eu Duw hwynt a orchymynnodd iddynt ymado o’r lle yr oeddynt yn aros, a myned i wlâd Canaan, ac yno y trigâsant, ac y cynnyddâsant o aur, ac arian, ac o anifeiliaid lawer iawn.

10Pan orchfygodd newyn holl wlâd Canaan, yna hwynt a aethant i wared i’r Aipht, ac a arhosâsant yno hyd oni ddychwelasant, a hwynt a wnaed yno yn dyrfa fawr, fel nad oedd rifedi ar eu hiliogaeth hwynt.

11Am hynny brenin yr Aipht a gyfododd yn eu herbyn hwynt, ac ai poenodd hwynt, ac ai darostyngodd hwynt drwy lafur, a phridd-feini, ac ai gwnaeth hwynt yn gaeth­weision,

12Yna hwynt a lefâsant ar eu Duw hwynt, ac efe a darawodd holl wlâd yr Aipht â phlagau yn y rhai nid oedd iechyd: felly yr Aiphtiaid ai bwriasant hwy allan oi golwg.

13A Duw a sychodd y môr côch oi blaen hwynt.

14Ac efe ai dug hwynt i fynydd Sina, a Chades Barne, ac a fwriodd ymmaith yr holl rai a’r a oeddynt yn trigo yn yr anialwch.

15A hwynt a bresswyliâsant wlâd yr Amo­riaid, ac a ddestruwiâsant drwy eu cryfder y rhai oll o Esebon, a chan fyned tros yr Iorddonen hwynt a etifeddâsant yr holl fynydd­oedd.

16A hwynt a yrrâsant ymmaith oi blaen hwynt y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Ie­busiaid, a’r Sichemiaid, a’r holl Gergesiaid, ac a bresswyliâsant yno ddyddiau lawer.

17A thra fuant hwy heb pechu ger bron eu Duw, hwynt a lwyddâsant, o herwydd y Duw yr hwn sydd yn cashau anwiredd oedd gyd â hwynt.

18Ond pan giliasant hwy o’r ffordd yr hon a osodase efe iddynt, hwy a ddestruwiwyd drwy ryfeloedd lawer iawn tros benn, ac a gaeth­gludwyd i wlâd yr hon nid oedd eiddynt hwy: a Theml eu Duw hwynt a fwriwyd i’r llawr, ai dinasoedd hwynt a ennillwyd drwy y gelynnion.

19Ac yn awr y dychwelasant at eu Duw, ac y daethant i fynu o’r wascarfa lle y gwasca­rasid hwynt, ac y meddiannasant Ierusalem lle y mae eu cyssegr hwynt, ac y trigasant yn y mynyddoedd y rhai oeddynt anialwch.

20Yn awr gan hynny llywydd harglwydd, od oes amryfusedd yn y bobl hyn, o phechâsant yn erbyn eu Duw, cydnabyddwn ni mai hyn fydd yn rwystr iddynt, ac awn ni i fynu, a gorescynnwn hwynt:

21Ac onid oes anwiredd yn y genedl hon, eled fy arglwydd heibio, rhag iw Harglwydd hwy eu hamddeffyn hwynt, ac iw Duw hwynt trostynt, ac i ninneu fod yn wradwydd yng-olwg yr holl fyd.

22Pan orphennodd Achior y geiriau hyn, yr holl bobl y rhai oeddynt yn sefyll o amgylch y babell a furmurâsant: a phendefigion Holo­phernes, a’r rhai oll a’r a oeddynt yn presswylio y mor-dîr a Moab, a ddywedasant y lladdent hwy ef.

23Canys nid ofnwn ni rhag meibion Israel: o herwydd, wele pobl ydynt hwy heb na nerth na chadarnid yn erbyn llu mawr.

24Am hynny awn ni i fynu, a hwynt a fy­ddant yn fwyd i’th lu di ô arglwydd Holo­phernes.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help