1A Thrannoeth Holophernes a orchymynnodd iw holl lu, ac iw holl bobl (y rhai a ddaethent yn gynhorthwy iddo ef) symmud eu gwerssyllau yn erbyn Bethulia, a gorescyn bylchau y mynyddoedd, a gwneuthur rhyfel yn erbyn meibion Israel.
2Yna eu gwŷr cryfion hwynt a symmudasant eu gwerssyllau y dwthwn hwnnw, a llu y rhyfel-wŷr oedd gan-mîl, a dêc a thrugain o wŷr traed, a deuddeng-mîl o wŷr meirch, heb law pobl gymmysc, a gwŷr eraill y rhai oeddynt ar eu traed yn eu plîth hwynt, yn dyrfa fawr iawn.
3A hwynt a werssyllâsant yn y dyffryn yn gyfagos i Bethulia, wrth y ffynnon: a hwynt a estynnâsant ar llêd o Dothaim hyd Belbaim, ac ar hŷd o Bethulia i Cyamon, yr hon sydd ar gyfer Esdraelom.
4A phan welodd meibion Israel eu lluosogrwydd hwynt, hwy a gyffroâsant yn aruthr, a phob vn a ddywedodd wrth ei gilydd, yn awr hwynt a orescynnant ŵyneb yr holl ddaiar: canys ni ddichon y mynyddoedd vchel, na’r dyffrynnoedd, na’r creigiau gynnal eu pwys hwynt,
5Yna pob vn a gymmerth ei arfau rhyfel, ac a loscâsant dân-llwythau ar eu tŷrau, ac a arhosâsant yn gwilied ar hŷd y nosson honno.
6Ac ar yr ail dydd Holophernes a ddug allan ei holl wŷr meirch yng-olwg meibion Israel y rhai oeddynt yn Bethulia,
7Ac efe a ddaliodd sulw ar y ffordd yr elyd i fynu iw dinas hwynt, ac efe a ddaeth at eu ffynhonnau dyfroedd hwy, ac ai gorescynnodd hwynt, ac a osododd fyddinoedd o ryfel-wŷr arnynt hwy, ac a symmudodd ei werssyll tu ag ac ei bobl.
8Yna holl dywysogion meibion Esau, a holl bennaethiaid pobl Moab, a holl gapteniaid y môr dîr a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant,
9Gwrandawed ein harglwydd air yn awr, rhag dyfod afrwydd-deb yn dy lu di.
10Canys y bobl hyn meibion Israel nid ydynt yn ymddyried yn eu gwaiw-ffyn, eithr yn vchelder y mynyddoedd, lle y maent hwy yn presswylio, oblegit anhawdd yw myned i fynu i bennau y mynyddoedd.
11Yn awr gan hynny fy arglwydd nac ymladd di â hwynt mewn rhyfel byddinoc, ac ni dderfydd am vn gŵr o’th bobl di: aros yn dy werssyllau, gan gadw pob gŵr o’th lu di, a gorescynned dy weision di y ffynnon ddwfr yr hon sydd yn dyfod allan o odre y mynydd:
12Canys holl drigiolion Bethulia ydynt yn cael eu dwfr oddi yno: felly syched ai lladd hwynt, ac hwy a roddant i fynu eu dinas: a ninnau a’n pobl a awn i fynu i bennau y mynyddoedd nessaf, ac a werssyllwn yn eu herbyn hwynt, drwy wilied nad elo vn gŵr allan o’r ddinas.
13Felly hwynt hwy ai gwragedd ai meibion a drengant o newyn: a chyn dyfod y cleddyf yn eu herbyn hwynt, hwy a ymchwelir yn yr heolydd lle y maent yn trigo.
14Fel hyn y teli di iddynt hwy daledigaeth ddrygionus, o herwydd iddynt hwy wrthryfela, ac nad vfyddhausant i’th ŵyneb di yn heddychol.
15Ai geiriau hwynt a fu fodlon gan Holophernes, a chan ei ryfel-wŷr ef: ac efe a orchymynnodd wneuthur megis y llefarasent hwy.
16Felly gwerssyllau meibion Ammon a ymadawsant, a chyd â hwynt bum mil o’r Assyraid, a hwynt a werssyllasant yn y dyffryn, ac a orescynnasant y dyfroedd, a ffynhonnau dwfr meibion Israel.
17A meibion Esau a aethant i fynu gyd â meibion Ammon, ac a werssyllasant yn y mynydd-dir ar gyfer Dothaim, ac hwy a anfonasant rai o honynt tua ’r dehau, a thua ’r dwyrain, gyferbyn a Rebel yr hon sydd yn gyfagos i Chusi, yr hon sydd ar afon Mochmur: a’r rhann arall o lu yr Assyriaid a werssyllasant yn y maes, ac a orchguddiasant holl ŵyneb y wlad: canys eu pebyll hwynt ai mud hwynt a werssyllasent yn lliaws mawr iawn.
18A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd eu Duw hwynt, canys hwynt a ddigalonnasent, o herwydd bod eu holl elynnion hwynt o amgylch, fel nad allent ffoi oi plith hwynt.
19A holl gynulleidfa yr Assyriaid, a’r gwŷr traed, a’r cerbydau, ai gwŷr meirch a drigasant oi hamgylch hwynt bedwar diwrnod ar ddêc ar hugain, fel y pallodd eu holl lynnau dyfroedd gan holl drigolion Bethulia.
20A’r ffynhonnellau a ddiespyddwyd, ac nid oedd ganddynt ddigon o ddwfr iw yfed dros vn diwrnod: canys tann fesur y rhoddent iddynt iw yfed.
21Am hynny eu plant hwynt a lesmeiriâsant, ai gwragedd ai gwŷr ieuaingc a ballâsant gan syched, ac a syrthiâsant yn heolydd y ddinas, ac yng-hynniwerfeudd y pyrth: ac nid oedd nerth ynddynt.
22Yna yr holl bobl a ymgasclâsant at Osias, ac at dywysogion y ddinas, yn wŷr ieuaingc, ar yn wragedd, ac yn fechgyn, ac a waeddasant â llef vchel, ac a ddywedasant ger bron yr holl henuriaid,
23Duw a farno rhyngom ni a chwi, canys chwi a wnaethoch gam mawr â ni, am na lefarasoch yn heddychlon â meibion Assyria.
24Canys yn awr nid oes gennim ni gynnorthwywr, eithr Duw a’n gwerthodd ni iw dwylo hwynt, fel i’n cwymper ni i lawr oi blaen hwynt drwy syched, a thrwy ddinistr mawr.
25Yn awr gan hynny gelwch hwynt ynghyd, a rhoddwch yr holl ddinas yn anrhaith i bobl Holophernes, ac iw holl lu ef.
26Canys gwell i ni fod yn anrhaith iddynt hwy, nâ marw o syched: o blegit ni a fyddwn yn weision fel y byddo byw ein henioes, ac na welom farwolaeth ein plant o flaen ein llygaid, na’n gwragedd a’n meibion yn meirw.
27Yr ydym yn galw yn dŷst yn eich erbyn chwi y nef a’r ddaiar, a’n Duw ni, ac Arglwydd ein tadau yr hwn sydd yn dial arnom ni yn ôl ein pechodau, a phechodau ein tadau ni, a’r na wnelo efe fel hyn y dydd heddyw.
28Yna yr oedd ŵylofain mawr ym mysc y gynnulleidfa gan bawb yn gydtûn: felly hwynt a waeddasant ar yr Arglwydd Dduw â llef vchel.
29Yna y dywedodd Osias wrthynt hwy, cymmerwch gyssur frodyr, disgwiliwn etto bum nhiwrnod yn y rhai y dichon yr Arglwydd ein Duw ni ddychwelyd ei drugaredd arnom ni: canys o’r diwedd ni wrthid efe mo honom ni.
30Ac od aiff y dyddiau hyn heibio, heb ddyfod cynnorthwy i ni, mi a wnaf yn ôl eich gair chwi.
31Felly efe a wascarodd y bobl iw gwerssyllau, a hwynt a aethant ymmaith i’r muroedd, ac i dŷrau eu dinas, ac a anfonâsant eu gwragedd ai meibion iw tai: a hwynt a fuant mewn gostyngeiddrwydd mawr yn y ddinas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.