Mathew 23 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXIII.Crist yn dangos awdurdod a buchedd y Pharisæaid. Yn dyscu gostyngeiddrwydd. Crist yn cyhoeddi gwae i’r Pharisæaid a’r scrifennyddion am eu hamryw amryfusedd a’u rhagrith. Crist yn cwyno i Ierusalem ei hanwybodaeth a’i dinistr.

1Yna y dywedodd yr Iesu wrth y bobl a’i ddiscyblion,

2Gan ddywedyd, Wele, yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a doethion, ac scrifennyddion, a rhai o honynt a leddwch, ac a groes-hoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref.

35Fel y del arnoch chwi yr holl waed gwirion a’r a ollyngwyd ar y ddaiar, o Gen.4.8.waed Abel gyfiawn, hyd waed Zacharias fâb Barachias yr 2.Chro.24.22.hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor.

36Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar yr oes hon.

37 Luc.13.34 Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant yng-hŷd, megis y cascl yr iâr ei chywion tann ei hadenydd, ac ni’s mynnech.

38Wele yr ydys yn gadel eich tŷ chwi yn anghyfannedd.

39Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch yn ôl hyn, hyd oni ddywedoch, bendigedic yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help