Mathew 16 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVI.Atteb Crist i’r rha a geisiâsant gāddo ef arwydd. 6 Cyngor i wrthod sur a llefeinllyd athrawiaeth y Pharisæaid. 13 Tyb y bobl am Grist, 17 Ffydd yn dyfod oddi wrth Dduw. 18 Craig yr Eglwys, ac agoriadau nef. 21 Crist yn prophwydo am ei farwolaeth. 24 Cyflwr y gwir ddiscybl. 27 A dyfodiad Crist.

1Yna y Ac wedi dyfod yr Iesu i dueddau Cæsaria Philip, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, Mar.8.27.|MRK 8:27. Luc.9.18.|LUK 9:18. Ioan.6.69pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i Mâb y dŷn.

14A hwy a ddywedasant, rhai sy yn dywedyd mai Ioan Fedyddiwr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Ieremias, neu vn o’r prophwydi.

15Ac efe a ddywedodd wrthynt, pwy meddwch chwi ydwyfi?

16Yna Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, ti Ioan.1.23.ydwyt Crist, Mâb y Duw byw.

17A’r Iesu a ddywedodd wrtho, gwyn dy fŷd ti Simon mâb Ionas, canys nid cîg a gwaed a ddatcuddiodd i ti, eithr fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.

18Yr ydwyf fi hefyd yn dywedyd i ti, mai ti ydwyt Petr, ac ar y graig hon yr adailadaf fy Eglwys, a phyrth vffern ni’s gorchfygant hi.

19Ac Ioan.20.23.mi a roddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd, a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymedic yn y nefoedd: a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.

20Yna y gorchymynnodd efe iw ddiscyblion na ddywedent i neb, mai efe oedd Iesu Grist.

21O hynny allan y dechreuodd yr Iesu fynegu iw ddiscyblion fod yn anghenrhaid iddo fyned i Ierusalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid, a chan yr arch-offeiriaid, a’r gwŷr llên, a’i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.

22Yna Petr a’i cymmerth ef o’r nailltu, ac a ddechreuodd ei geryddu ef, gā ddywedyd, Arglwydd trugarhâ wrthit ty hun, ni’s bydd hyn i ti.

23Yna y trôdd efe, ac a ddywedodd wrth Petr; dôs ar fy ôl Satan, canys rhwystr ydwyt ti i mi, am nad ydwyt yn deall y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.

24Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddiscyblion, Math.10.38. Mar.8.34.|MRK 8:34. Luc.9.23os myn nêb ddyfod ar fy ôl i, gwaded ag ef ei hun, a chymmered ei groes, a dilyned fi.

25 Math.10.39. Mar.8.35.|MRK 8:35. Luc.9.24.|LUK 9:24. Ioan.12.25. Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnac a gollo ei fywyd o’m plegit i, a’i caiff.

26Canys pa lesâd i ddŷn er ennill yr holl fŷd, o chyll efe ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?

27Canys Mâb y dyn a ddaw yng-ogoniant ei Dâd, gyd â’i angelion, ac Psal.62.12. Rhuf.2.6.yna y rhydd efe i bob dŷn yn ôl ei weithredoedd.

28 Mar.9.1.|MRK 9:1. Luc.9.27. Yn wîr y dywedaf wrthych, fod rhai o’r sawl sydd yn sefyll ymma, a’r ni phrofant angeu, hyd oni welant Fâb y dŷn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help