Galathiaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Paul yn dangos drwy resymmau fod cyfiawnder enaid drwy ffydd.

1Oh y Galatiaid angall, pwy a’ch rheibiodd, fel nad vfuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai y portreiadwyd Iesu Grist o flaen-eich llygaid, a’i croes-hoelwyd yn eich plith?

2Hyn yn vnic a ewyllysiaf ddyscu cennwch, ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Yspryd, ynte trwy wrandawiad y ffydd?

3A ydych chwi mor angall, wedi dechreu yn yr Yspryd, a diweddu yr awron yn y cnawd?

4A ddioddefasoch chwi gymmaint yn ofer? (os yw ofer hefyd)

5Gan hynny, yr hwn sydd yn trefnu i chwf yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf ynte o wrandawiad ffydd?

6 Gen.17.7. I Abraham y gwnaethbwyd yr addewidion, ac iw hâd ef: ni ddywedodd, ac ith hadau, megis am lawer, ond i’th hâd megis am vn yr hwn yw Crist.

17Hyn yr wyf yn ei ddyweddyd, am y ddeddf yr hon oedd bedwar-cāt a deng-mhlynedd ar hugain wedi, na ddichon ddiddymmu yr ammod a siccrhause Duw o’r blaen o herwydd Crist, fel y dirymme yr addewid.

18Canys os o’r ddeddf etifeddiaeth, nid yw haiach o’r addewid, ond Duw a’i rhoddes yn rhâd i Abraham drwy’r addewid.

19Beth gan hynny ddeddf? o blegit camweddau y doded hi, oni ddele yr hâd i’r hwn y gwnaethid yr addewid: ac hi a drefnwyd gan angelion drwy law cyfryng-wr.

20Sef cyfryng-wr nid yw i vn, ond Duw sydd vn.

21Gan hynny a ydyw y ddeddf yn erbyn addewidion Duw? na atto Duw: canys pe rhoesid deddf a allase roddi bywyd, yn wir fe fuase cyfiawnder o’r ddeddf.

22 Ruf.3 9. Eithr yr scrythur a gaeodd bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd yn Iesu Grist i’r rhai a gredent.

23Eithr cyn dyfod ffydd, ein cadwid yn rhwym dan y ddeddf, i’r ffydd yr hon oedd iw dadcuddio.

24 Ruf.10.4. Y ddeddf wrth hynny oedd ein athro ni at Crist, fel ein cyflawnid drwy ffydd.

25Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym ni mwy haiach tann athro.

26Canys chwi oll ydych blant i Dduw drwy ffydd yn Iesu Grist.

27 Ruf.6.3. O herwydd pa rai bynnac ydych a’r a fedyddiwyd yng-Hrist, chwi a wiscasoch Grist.

28Nid oes nac Iddew na Groeg-wr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw, canys vn ydych oll yng-Hrist Iesu.

29Ac os eiddo Crist ydych, yna yr ydych yn hâd i Abraham, ac yn etifeddion i’r addewid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help