Exodus 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Duw yn rhoddi i Besalel, ac i Aholiab athrylith i ddychymmygu pob cywrein-waith i’r babell. 13 Y pethau y rhai y mae y Sabboth yn eu harwyddocau. 18 Duw ai fys yr hwn yw ei yspryd yn scrifennu dwy lech.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

2Gwel, mi a elwais wrth enw ar Besaleel fab Uri, fab Hurr o lwyth Iuda;

3Ac ai llawnais ef ag yspryd Duw: mewn doethineb, ac mewn deall, mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob gwaith.

4I ddychymmygu cywreinrwydd i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês.

5Ac mewn cyfarwyddyd i meini, ac mewn saerniaeth prenn i weithio ym mhob gwaith.

6Ac wele mi a roddais gyd ag ef Aholiab fab Achisamah o lwyth Dan: ac yng-halon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynnais wrthit.

7Sef pabell y cyfarfod, ac Arch y destiolaeth, a’r drugareddfa yr hon arni: a holl lestri y babell.

8A’r bwrdd ai lestri, a’r canhwyll-bren pur, ai holl lestri: ac allor yr arogl-darth.

9Ac allor y poethoffrwm, ai holl lestri: a’r noe ai throed.

10A gwiscoedd y wenidogaeth: a’r gwiscoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu

11Ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysseuoc i’r cyssegr a wnant yn ol yr hyn oll a orchymynnais wrthit.

12A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.

13Llefara di hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, er hynny cedwch fy Sabboth: canys arwydd yw rhyngofi a chwithau drwy eich oesoedd, i wybod mai myfi yr Arglwydd eich sancteiddudd.

14Am Exod.20.8. Ezec.20.12.hynny cedwch y Sabboth, o blegit sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn ai halogo ef: o herwydd pwy bynnac a wnelo waith arno, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.

15Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd Sabboth gorphwysdra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnac a wnelo waith y seithfed dydd llwyr rodder ef i farwolaeth.

16Am hynny cadwed meibion Israel y Sabboth: gan orphwyso drwy eu hoesoedd yn gyfammod tragywyddol.

17Rhyngofi a meibion Israel y mae yn arwydd tragywyddol, Genes.1.31.|GEN 1:31. Genes.22.(sic.)|GEN 2:2. Exod.20.11.mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaiar, ac ar y seithfed dydd y peidiodd ac y gorphwysodd efe,

18Ac efe a roddodd i Moses wedi iddo lefaru wrtho ym mynydd Sinai Deut.9.19.ddwy lêch y destiolaeth: llechau o gerric wedi eu scrifennu â bys Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help