1 2 Bren.19.1. A phan glybu y brenin Hezecia yna efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwiscodd mewn sachliain, ac a aeth i dŷ’r Arglwydd:
2Ac a anfonodd Eliacim y pen-teulu, a Sobna’r scrifennudd, ac henuriaid yr offeiriaid wedi ymwisco mewn sach-liain at Esay fab Amos y prophwyd.
3A dywedasant wrtho, fel hyn y dywedodd Hezecia, diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd’r dydd hwn: canys y meibion a ddaethant hyd yr anedigaethfa, ond nid rym i escor.
4Ond odid gwrandawodd yr Arglwydd dy Dduw eiriau Rabsaceh, (yr hwn a anfonodd brenin Assyria ei feistr ef i gythruddo y Duw byw) ac a gerydda am y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dercha dy weddi dros y gweddill sydd iw gael.
5Felly gweision y brenin Hezecia a ddaethant at Esay.
6A dywedodd Esay wrthynt, fel hyn y dywedwch wrth eich meistr: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, nac ofna rhac y geiriau y rhai a glywaist, y rhai y cablodd gweision brenin Assyria fi.
7Wele fi yn rhoddi yn ei erbyn ef wynt, fel y clywo dwrwf, ac y dychwelo iw wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio ar gleddyf yn ei wlad ei hun.
8Yna y dychwelodd Rabsaceh, ac a gafodd frenin Assyria yn rhyfela yn erbyn Libna: canys efe a glywse ddarfod iddo fyned o Lachis.
9Ac efe a glywodd am Thirhaca frenin Ethiopia gan ddywedyd: efe a aeth allan i ryfela â thi, pan glywodd yna’r anfonodd gennadau at Hezecia gan ddywedyd:
10Fel hyn y dywedwch wrth Hezecia brenin Iuda, gan ddywedyd: na thwylled dy Dduw di yr hwn yr wyt yn ymddyried ynddo gan ddywedyd: ni roddir Ierusalem yn llaw brenin Assyria.
11Wele ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Assyria i’r holl wledydd gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?
12A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt y rhai a ddarfu i’m tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseph, a meibion Eden y rhai o fewn Thalassar.
13Mae brenin Hemath? a brenin Arphad? a brenin dinas Sepharfaim, Hena, ac Ifah?
14A chymmerth Hezecia y llythyrau o law y cennadau, ac ai darllenodd: yna’r aeth i fynu i dŷ’r Arglwydd, a Hezecia ai lledodd hwynt ger bron yr Arglwydd.
15Yna Hezecia a weddiodd at yr Arglwydd gan ddywedyd:
16Arglwydd y lluoedd, Duw Israel yr hwn wyt yn eistedd y Cerubiaid, ti yn vnic ydwyt Dduw ar holl deyrnasoedd y ddaiar: ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaiar.
17Gogwydda Arglwydd dy glust, a gwrando, agor dy lygaid Arglwydd, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i gythruddo y Duw byw.
18Gwir ô Arglwydd i frenhinoedd Assyria ddifa’r holl wledydd ai tir,
19A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid[oeddynt] hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dŷn goed, a maen, am hynny y dinistriasant hwynt.
20Ac yr awr hon ô Arglwydd ein Duw ni achub ni oi law ef: fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaiar, mai ti yn vnic’r Arglwydd.
21Yna Esay mab Amos a anfonodd at Hezecia gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, o herwydd it weddio atafi yn erbyn Senacherib brenin Assyria,
22Dymma’r gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef: y forwyn merch Sion a’th ddirmygodd, a’th watwarodd, merch Ierusalem a escydwodd ben ar dy ôl.
23Pwy a gythruddaist, ac a geblaist? lêf? ac y cyfodaist yn vchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.
24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist: yn amlder fyng-herbydau y daethum i fynu i vchelder y mynyddoedd, ystlysau Libanus: torraf vchelder ei cedr-wydd, ai ddewisedicaf ffynnid-wydd, âf hefyd iw gwrr vchaf goed ei ddol-dir.
25Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr: â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais yr holl afonydd gwarchaedic.
26Oni chlywaist wneuthur o honof hyn er ystalm, ai lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygym hynny i ben, pan ydwyt ti yn destruwio dinasoedd caeroc yn garneddau dinistriol.
27Am hynny eu trigolion yn gwttog-law a ddychrynnwyd, ac a gywilyddiwyd: oeddynt gwellt y maes, fel eginin bresech, las-wellt ar nennau neu olosciad ŷd cynn corsi.
28Dy eisteddiad hefyd, a’th fynediad, a’th ddyfodiad a adnabûm: a’th gynddeiriogrwydd i’m herbyn.
29Am it ymgynddeiriogi i’m herbyn, ac i’th ddadwrdd ddyfod i fynu i’m clustiau: am hynny y rhoddaf fy mâch yn dy ffroen di, a’m ffrwyn yn dy weflau, ac a’th ddychwelaf di ar hyd yr vn-ffordd ag y daethost.
30A hyn yn arwydd i ti, y flwyddyn y bwyttei a dyfo o honaw ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr attwf, ac yn y drydedd flwyddyn, hauwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
31A’r gweddill o dŷ Iuda a adewir a wreiddia eilwaith i wared, ac a ddŵg ffrwyth i fynu.
32Canys gweddill aiff allan o Ierusalem, a rhai diangol o fynydd Sion: zêl Arglwydd y lluoedd a wnaiff hyn.
33Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Assyria, ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno: hefyd nid achub ei blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd iw herbyn.
34Ar hŷd yr vn ffordd ag y daeth y dychwel, ac ni ddaw i mewn i’r ddinas hon medd yr Arglwydd.
35A mi a ddeffynnaf y ddinas hon, gan ei chadw hi er fy mwyn i, ac er mwyn Dafydd fyng-wâs.
36Yna’r aeth Angel yr Arglwydd, ac a darawodd yng-werssyll yr Assyriaid gant a phedwar-vgain, a phump mil: a’r a gyfodasant yn foreu, ac wele hwynt oll yn gelaneddau meirw.
37Felly Senacherib brenin Assyria a gychwynnodd, aeth hefyd, a dychwelodd, ac a drigodd yn Ninefe.
38Pan ydoedd efe yn addoli yn nhŷ Nesroch ei dduw ef, yna Adramalech, a Sarazer ei feibion ai tarawsant ef â chleddyf, a hwynt a ddiangasant i wlad Armenia: ac Asarhadon ei fâb a deyrnasodd yn ei le ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.