Numeri 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Cadwriaeth gwyl y Pasc. 15 Cwmwl y cyfarwydd-dab. Yr hwn tra safe ar y tabernacl ni syfle yr Israeliaid oi hun man: a thra fydde oddi arno ni thorrent ar eu cerdded.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aipht, ar y mîs cyntaf gan ddywedyd:

2*Cadwed meibion Israel y Pasc hefyd yn ei dymmor.

3Ar y pedwerydd dydd ar ddec or mîs hwn, Exod.12.2. Lefit.23.5. Num.28.16. Deut.16.2.yn y cyfnos y cedwch ef yn ei dymmor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau y cedwch ef.

4Felly y llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasc.

5A chadwasant y Pasc, ar y cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs yn y cyfnos yn anialwch Sanai: yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6Ac yr oedd dynion y rhai oeddynt wedi eu halogi wrth gelain dyn, ac ni allent gadw y Pasc ar y dydd hwnnw, yna y ddaethant ger bron Moses a cher bron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho nyni wedi ein halogi wrth gorph dyn marw: pa ham i’n gwaherddir rhac offrymmu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymmor, ym mysc meibion Israel?

8A dywedodd Moses wrthynt, sefwch a mi a wrandawaf beth a orchymynno yr Arglwydd o’ch plegit.

9A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

10Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorph marw, neuo honoch neu o’ch cenhedlaethau mewn-ffordd bell, etto cadwed Basc i’r Arglwydd.

11Ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r ail mîs yn y cyfnos y cadwant ef: yng-hyd a bara croiw, a dail chwerwon y bwyttànt ef.

12Na weddillant[ddim]o honaw hyd y boreu, ac Exod.12.46. Ioan.19.36.na thorrant ascwrn ynddo: yn ôl holl ddeddf y Pasc y cadwant ef.

13A’r gwr yr hwn a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a oedo gadw’r Pasc, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl, am na offrymmodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymmor, ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.

14A phan ymdeithio dieithr gyd a chwi cadwed hefyd Basc yr Arglwydd, fel deddf y Pasc ai ddefod, felly y ceidw: yr Exod.12.49. Num.15.15.vn deddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r vn sydd ai anedigaeth o’r wlâd.

15Ac ar y dydd Exod.40.34. Exod.13.21.y codwyd y tabernacl cwmwl a gaeodd am y tabernacl tros babell y destiolaeth, ac yr ydoedd ar y tabernacl fel tân o hwyr hyd forau.

16Felly yr ydoedd yn wastadol: y cwmwl agaie am dano y dydd, ond y nos lliw tân

17Ac fel y cyfode y cwmwl oddi ar y babell, felly wedi hynny y cychwnne meibion Israel: ac yn y lle yr hwr yr achose y cwmwl ynddo, yno y gwerssylle meibion Israel.

18Wrth amnaid yr Arglwyd y cychwnne meibion Israel, ac wrth amnaid yr Arglwydd y gwerssyllent: yr holl ddyddiau 1.Cor.10.1.yr arhose y cwmwl ar y tabernacl y gwerssyllent hwy.

19A phan drigc y cwmwl yn hîr ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwnnent.

20Ac os bydde y cwmwl ychydic o ddyddiau ar y tabernacl wrth amnaid yr Arglwydd y gwerssyllent, ac wrth amnaid yr Arglwydd y cychwnnent.

21Hefyd os bydde y cwmwl o hwyr hyd forau, a chyfodi o’r cwmwl y borau, hwythau a symmudent: pa vn bynnac ai dydd ai nos pan gyfode y cwmwl yna y cychwnnent.

22 Exod.40.34. Os deu-ddydd, os mîs, os blwyddyn tra y trige y cwmwl ar y tabernacl gan aros arno, meibion Israel a werssyllent, ac ni chychwnnent, ond pan gode efe y cychwnnent.

23Wrth air yr Arglwydd y gwerssyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwnnent, y cadwent wiliadwriaeth yr Arglwydd, yn ol gair yr Arglwydd trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help