1Ac Math.8.28. Luc.8.26.hwy a ddaethant trosodd i’r tu hwnt i’r môr i wlad y Gadareniaid.
2Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y mann y cyfarfu ag ef o’r monwentau, ddyn ag yspryd aflan:
3Yr hwn oedd a’i drigfan yn y monwentau, ac ni alle neb â chadwynau ei rwymo ef:
4O achos mynych y rhwymasid ef â lleffetheiriau ac â chadwynau, eithr y cadwynau a ddarniase efe a’r lleffetheiriau a ddrylliase, ac ni alle neb ei ddofi ef.
5Ac yn wastad nôs a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac yn y monwentau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig:
6Pan ganfu efe yr Iesu o hir-bell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef,
7A chan weiddi â llef vchel efe a ddywedodd: beth sydd i mi â thi, Iesu fab Duw goruchaf: yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8(Canys dywedase wrtho, ty di yspryd dos allan o’r dŷn)
9Ac efe a ofynnodd iddo, beth yw dy enw? yntef a attebodd gan ddywedyd, Math.26.53.lleng yw fy enw, am fod llawer o honom.
10Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrre efe hwynt allan o’r wlâd.
11Ac yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori:
12A’r holl gythreuliaid a attolygasant iddo gan ddywedyd, danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13Ac yn y man y caniattaodd yr Iesu iddynt, yna wedi i’r ysprydion aflan fyned allan, yr aethant i mewn i’r moch: a’r holl genfaint honno a ruthrodd tros y dibin i’r mor, (yr oeddynt tua dwy-fil) ac a’u boddwyd yn y môr.
14A’r meichiaid a ffoasant ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad: ac hwynt hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15A hwynt a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant yr hwn a fuase yn gythreulig, yn eistedd â’i ddillad am dano, ac yn ei iawn bwyll: nid amgen yr vn y buase’r lleng ynddo: ac hwy a ofnasant.
16A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buase i’r cythreulig, ac am y moch.
17Ac hwy a ddechreuasant ddymuno arno ef fyned ymmaith o’u goror hwynt.
18Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buase y cythrael ynddo a ddymunodd arno gael bod gyd ag ef.
19Onid yr Iesu ni adawodd iddo, eithr dywedodd wrtho: dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac fel y trugarhâodd wrthit.
20Ac efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Ddecapolis pa bethau eu maint a wnaethe’r Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21Ac wedi i’r Iesu trachefn fyned mewn llong i’r lann arall, ymgasclodd tyrfa fawr atto, ac yr oedd efe wrth y môr.
22Wele vn Math.9.18; Luc 8.41 o bennaethiaid y Synagog a ddaeth atto a’i enw Iairus, a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef.
23Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, y mae fy merch ar drangc, ddyfod a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi, a byw fydd.
24Yna yr aeth gyd ag ef. a thorf fawr a’i dilynodd ef, hyd oni wascent ef.
25(Yna rhyw wraig yr hon a fuase mewn difer-lif gwaed ddeuddeng mhlynedd,
26Ac a oddefase lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliase gymmaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawse ddim llesaad, eithr yn hytrach myned waeth-waeth.
27Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisc ef.
28Canys hi a ddywedase, os cyffyrddaf â’i ddillad ef iach fyddaf.
29Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhon ei gwaed hi, ac hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hiachau o’r pla.
30Ac yn y fan pan ŵybu’r Iesu ynddo ei hun fyned rhinwedd o honaw allan, efe a droes yn y dyrfa, ac a ddywedodd, pwy a gyffyrddodd â’m dillad?
31A’i ddiscyblion a ddywedasant wrtho: ti a weli’r dyrfa yn dy wascu, ac a ddywedi di, pwy a’m cyffyrddodd?
32Ac yntef a edrychodd o amgylch fel y caffe weled yr hon a wnaethe hyn.
33A’r wraig gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddangosodd iddo’r holl wirionedd.
34Yna y dywedodd efe wrthi: ha ferch, dy ffydd a’th iachâodd, dos ymmaith yn heddychlawn, a bydd iach o’th bla.
35Ac efe etto yn dywedyd, daeth rhai oddi wrth dŷ pennaeth y Synagog gan ddywedyd: bu farw dy ferch, i ba beth yr aflonyddi’r Athro mwyach?
36Er cynted y clybu’r Iesu y gair a ddywedasid, efe a ddywedodd wrth bennaeth y Synagog, nac ofna, crêd yn vnic.
37Ac ni adawodd efe neb iw ddilyn, ond Petr ac Iaco, ac Ioan brawd Iaco.
38Yna y daeth i dŷ pennaeth y Synagog, ac a ganfu y derfysc, rhai yn wylo, ac yn ochain llawer.
39Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt: pa ham yr ydych yn terfyscu, ac yn wylofain? ni bu farw’r llances, eithr cyscu y mae hi.
40Ac hwy a’i gwatwarasant ef: ac yntef a’u bwrwriodd hwynt oll allan, ac a gymmerth dâd a mam y llangces, a’r rhai oeddynt gyd ag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd y llangcers yn gorwedd.
41A chan ymaflyd yn llaw’r llangces, efe a ddywedodd wrthi, Talitha Cumi, yr hyn yw o’i gyfieithu, yr enaeth (yr wyf yn dywedyd wrthit) cyfot.
42Ac yn y fan y cyfodes yr enaeth, ac a rodiodd, canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi: a synnu a wnaethant yn ddirfawr.
43Ac efe a orchymynnodd lawer arnynt, na chae neb ŵybod hyn, ac efe a ddywedodd am roddi iddi fwyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.