Exodus 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.1 Moses yn bugeilio defaid ei chwegrwn. 2 Duw yn ymddiddan a Moses allan o’r berth. 10 Ac yn ei yrru yn waredydd i Israel.

1Pan oedd Moses yn bugeilio defaid Iethro ei chwegrwn offeiriad Madian: yna efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw mynydd Horeb.

2Yna angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol y berth: ac efe a edrychodd ac wele y berth yn llosci yn dân, a’r berth heb ei difa.

3A dywedodd Moses mi a giliaf yn awr ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon: pa ham na lysc y berth.

4Pan welodd yr Arglwydd mai cilio yr oedd efe i edrych: yna Duw a alwodd arno o ganol y berth ac a ddywedodd Moses, Moses: a dywedodd yntef welefi.

5Ac efe a ddywedodd na nessâ ymma, diosc dy escidiau oddi am dy draed, o herwydd y lle’r hwn yr wyti yn sefyll arno sydd ddaiar sanctaidd.

6Ac efe a ddywedodd myfi Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Iacob: yna Moses a guddiodd ei wyneb, o blegit ofni’r ydoedd rhac edrych ar Dduw.

7A dywedodd yr Arglwydd, gan weled y gwelais gystudd fy mhobl y Matth.22.32.|MAT 22:32. Act.7.32.rhai yn yr Aipht: ai gwaedd rhac eu gorthrymwyr a glywais, canys adwen eu doluriau.

8Am hynny y descynnais iw gwaredu hwynt o law’r Aiphtiaid, ac iw dwyn o’r wlâd honno, i wlad dda, a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl: i lê y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid.

9Ac yn awr wele waedd meibion Israel a ddaeth attafi: a hefyd mi a welais y gorthrymder a’r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt.

10Tyret gan hynny yn awr a mi a’th anfonaf at Pharao: fel y dygech allan o’r Aipht fy mhobl Israel.

11Yna y dywedodd Moses wrth Dduw, pwy ydwyfi fel yr awn i at Pharao? ac y dygwn feibion Israel allan o’r Aipht?

12Dywedodd yntef diau y byddaf gyd a thi: a hyn a fydd arwydd it mai myfi a’th anfonodd: wedi it ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.

13Yna y dywedodd Moses wrth Dduw, wele ddelwyfi at feibion Israel a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd attoch: os dywedant wrthif beth ei enw ef? beth a ddywedafi wrthynt?

14Yna Duw a ddywedodd wrth Moses Ydwyf yr hwn ydwyf: dywedodd hefyd fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel Ydwyf a’m hanfonodd attoch.

15A Duw a ddywedodd trachefn wrth Moses fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Iacob, a’m hanfonodd attoch: dymma fy enw byth, a dymma fyng-hoffadwriaeth yn oes oesoedd.

16Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau Duw Abraham, Isaac, a Iacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd: gan ymweled yr ymwelais a chwi, ac yr hynn a wnaed i chwi yn yr Aipht.

17A dywedais mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Phereziaid yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid: i wlâd yn llifeirio o laeth a mêl.

18Felly y gwrandawant ar dy lais: ac y deui di a henuriaid Israel at frenin yr Aipht ac dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebræaid a gyfarfu a ni, gan hynny yn awr gad i ni fyned attolwg daith tri diwrnod yn yr anialwch fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.

19A mi a wn na edu brenin yr Aipht i chwi fyned: onid mewn llaw gadrn.

20Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a darawaf yr Aipht a’m holl ryfeddodau y rhai a wnaf yn ei chanol: ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith.

21A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hynn yng-olwg yr Aiphtiaid: a bydd pan eloch nad eloch yn wâglaw.

22Canys gwraig a gais gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal a hi ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwiscoedd: a chwi ai gosodwch am eich meibion, ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help