1Yna y Philistiaid a gymmerasant Arch Dduw, ac ai dugasant hi o Eben-ezer i Asdod.
2A’r Philistiaid a gymmerasant Arch Dduw, ac ai dugasant i mewn i dŷ Dagon, ac ai gosodasant hi yn ymyl Dagon.
3A’r Asdodiaid a gyfodasant yn foreu drannoeth, ac wele Ddagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb ger bron Arch yr Arglwydd, yna y cymmerasant Ddagon, ac ai gosodasant eilwaith yn ei le.
4Codasant hefyd yn foreu drannoeth, ac wele Ddagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb ger bron Arch yr Arglwydd, a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo oeddynt wedi eu torri ar y trothwy, yn vnic dagon a adawyd o honaw ef.
5Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Ddagon ar drothwy Dagon yn Asdod hyd y dydd hwn.
6A thrwm fu llaw’r Arglwydd ar yr Asdodiaid, canys efe ai destruwiodd hwynt, ac ai tarawodd hwynt, Psal.78.66.sef Asdod, ai holl derfynau a chlwyf y marchogion.
7Pan welodd gwŷr Asdod mai felly yna y dywedasant, ni chaiff Arch Duw Israel aros gyd a ni, canys caled yw ei law ef arnom, ac ar Ddagon ein duw ni.
8Am hynny yr anfonasant, ac y casclasant holl bēdefigion y Philistiaid attynt, ac a ddywedasant: beth a wnawn ni i Arch Duw Israel? yna hwynt a attebasant, dyger Arch Duw Israel o amgylch Gath, a hwy a ddygasant Arch Duw Israel oddi amgylch.
9Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, yna y bu llaw yr Arglwydd yn erbyn y ddinas a dinistr mawr iawn, ac efe a darawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr a chlwyfau y marchogion, y rhai a lechasant ynddynt hwy.
10Am hynny yr anfonasant hwy Arch Dduw i Acaron, a phan ddaeth Arch Dduw i Acaron, yna’r Acaroniaid a waeddasant gan ddywedyd: dugasant attom ni o amgylch Arch Duw’r Israel i’n lladd ni, a’n pobl.
11Am hynny yr anfonasant, ac y casclasant holl bēdefigion y Philistiaid, ac a ddywedasant: danfonwch ymmaith Arch Duw Israel a dychweler hi adref, fel na laddo hi ni, a’n pobl: canys dinistr angefol drwy yr holl ddinas throm iawn oedd law Duw yno.
12A’r gwŷr y rhai ni buant feirw a darawyd a chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a dderchafodd nefoedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
