1Yna yr Arglwydd a anfonodd Nathan at Ddafydd: ac efe a ddaeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho ef, dau ŵr oeddynt yn yr vn ddinas, y naill yn gyfoethog, a’r llall yn dlawd.
2Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaidd, a gwartheg.
3A chan y tlawd nid dim onid vn oenic fechan yr hon a brynâse efe, ac a fagâsc, a hi a gynnyddasse gyd ag ef, a chyd ai feibion ef hefyd: oi dammed ef yr ŷfe hi, ac yn ei fonwes ef y gorwedde hi, ac yr oedd hi iddo megis merch.
4Ac ymdeithudd a ddaeth at y gŵr cyfoethog, ond efe a arbedodd gymmeryd oi ddefaid ei hun, ac oi ychen ei hun i arlwyo i’r ymdeithudd yr hwn a ddaethe atto ef: ond efe a gymmerth oenic y gŵr tlawd, ac ai paratôdd i’r gŵr yr hwn a ddaethe atto ef.
5Yna digofaint Dafydd a ddigiodd yn ddirfawr wrth y gŵr: ac efe a ddywedodd wrth Nathan, y mae byw yr Arglwydd euog o farwolaeth yr gŵr yr hwn a wnaeth hyn.
6A’r oenic a dâl efe adref Exod 22.1.yn bedwar dyblyg: o herwydd nad arbedodd efe.
7Yna y dywedodd Nathan wrth Ddafydd, ti yr gŵr: fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, 1.Sam.16.13.myfi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a’th waredais di o law Saul,
8Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fonwes, ac mi a roddais i ti dŷ Israel, ac Iuda: ac os fychan myfi a roddaswn fwy o lawer.
9Pa ham y dremygaist air yr Arglwydd gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn ei olwg ef? Urias yr Hethiad a darewaist di a chleddyf, ai wraig ef a gymmeraist i ti yn wraig: a thi ai lleddaist ef a chleddyf meibion Ammon.
10Yn awr gan hynny ni ymêdu cleddyf a’th dŷ di byth: o herwydd i ti fy nirmygu i, a chymmeryd gwraig Urias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.
11Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele myfi a gyfodaf i’th erbyn ddrwg o’th dŷ dy hun, ac mi a ddygaf dy wragedd diyng-ŵydd dy lygaid, Deut.28.36. 2.Sam.16.22.ac ai rhoddaf i’th gymydog: ac efe a orwedd gyd a’th wragedd di yng-olwg yr haul hwn.
12Er i ti wneuthur mewn dirgelwch: etto myfi a wnaf y peth hyn ger bron holl Israel, a cher bron yr haul.
13Yna y dywedodd Dafydd wrth Nathan, Eccle.47.13.pechais yn erbyn yr Arglwydd: a Nathan a ddywedodd wrth Ddafydd, yr Arglwydd hefyd a dynnodd ymmaith dy bechod ti, ni byddi di marw.
14Etto o herwydd i ti beri i elynnion yr Arglwydd ei gablu ef drwy yr peth hyn: am hynny y mab yr hwn a enir i ti a sydd marw yn ddiau.
15Yna Nathan a aeth iw dŷ: a’r Arglwydd a darawodd y plentyn yr hwn a blantase gwraig Urias i Ddafydd fel y clafychodd efe.
16Dafydd am hynny a ymbiliodd a Duw dros y bachgen: a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a ddaeth, ac a arhosodd tros nos ac a orwedodd ar y ddaiar.
17Yna henuriaid y tŷ a gyfodasant atto ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaiar: ond ni fynne efe, ac ni fwyttae efe fara gyd a hwynt.
18Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn: a gweision Dafydd a ofnasant fynegu iddo ef farw y bachgen: canys dywedasent, wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho ef, ond ni wrandawodd ar ein llais ni, pa fodd gan hynny y dywedwn ni wrtho farw y plentyn, rhac gwneuthur niwed hyn a wnaethost di? dros y plentyn byw’r ymprydiaist, ac yr ŵylaist, ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist, ac a fwyteaist fara.
22Ac efe a ddywedodd, tra yr ydoedd y plentyn yn fyw’r ymprydiais, ac yr wylais: canys mi a ddywedais, pwy a ŵyr a drugarhâ fy Arglwydd fel y byddo byw y plentyn?
23Ac yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allafi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyath? myfi a âf atto ef, ond ni ddychwel efe attafi.
24Yna Dafydd a gyssurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth atti hi, ac a orweddodd gyd a hi: a hi a ymddug fab, ac 1.Cron.22.9.efe alwodd ei enw ef Salomon, a’r Arglwydd ai carodd ef.
25Canys efe a anfonase drwy law Nathan y prophwyd, ac efe a alwodd ei 1.Cron.22.9.enw ef Iedidiah o blegit yr Arglwydd
26Yna Ioab a ymladdodd yn erbyn Rabbah meibion Ammon: ac efe a ennullodd y frehinawl ddinas.
27Ac Ioab a anfonodd gennadau at Ddafydd, ac a ddywedodd: rhyfelais yn erbyn Rabbah ennillais hefyd ddinas y dyfroedd.
28Yn awr gan hynny cascl weddill y bobl, a gwerssylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi: rhac i mi ennill y ddinas, a galw fy henw i arni hi.
29Felly Dafydd a gasclodd y bobl ac a aeth yn erbyn Rabba: ac a ymladdodd yn ei herbyn hi ac ai hennillodd hi.
30Ac 1.Cron.20.2.efe a ddûg goron eu brenin hwynt oddi am ei ben (ai phwys hi dalent o aur, ac maen gwerthfawr ynddi, ac ai gosododd tan lifau, a than ogau heirn, a than fwyill heirn, ac ai bwriodd hwynt i’r odynau calch, ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon: yna Dafydd a ddychwelodd a’r holl bobl i Ierusalem.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.