Iosuah 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Gosodiad y tabernacl yn Siloh. 11 Rhan meibion Beniamin.

1Yna holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, ac a gyfleuasant yno babell y cyfarfod: wedi darostwng y wlâd oi blaen hwynt.

2A saith lwyth oeddynt yn aros ym mysc meibion Israel i’r rhai ni rannasent eu hetifeddiaeth.

3Yna Iosuah a ddywedodd wrth feibion Israel: pa hŷd yr ydych yn esceuluso myned i orescyn y wlâd yr hon a roddodd Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?

4Moeswch o honoch dry-wŷr o llwyth: fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodant, ac y rhodiant y wlad, ac y dosparthant hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt, ac y delont attaf

5Felly ymrannant ynddi yn saith ran: Iuda a saif ar ei derfyn o du’r dehau, a thŷ Ioseph safant ar eu terfyn o du’r gogledd.

6Pan ddosparthoch chwi y wlad yn saith ran, yna dygwch attafi ymma: fel y bwriwyf goel-bren trosoch ymma o flaen yr Arglwydd ein Duw.

7Canys ni rhan i’r Lefiaid yn eich mysc chwi, o herwydd offeiriadaeth yr Arglwyd ei etifeddiaeth ef: Gad hefyd, a Ruben a hanner llwyth Manasses a gymmerasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwynt i’r Iorddonen o du’r dwyrain, yr hon a roddase Moses gwâs yr Arglwydd iddynt.

8Yna’r gwŷr a gyfodasant ac a aethant, ac Iosuah a orchymynnodd i’r rhai oeddynt yn myned i rannu y wlâd gan ddywedyd, ewch a rhodiwch drwy’r wlâd, a dosperthwch hi, a dychwelwch attafi, ac ymma y bwriaf drosoch chwi goel-bren ger bron yr Arglwydd yn Siloh.

9Felly y gwŷr a aethant ymmaith, ac a gerddasant drwy’r wlâd, ac ai scrifennasant hi bob yn ddinas yn saith ran mewn llyfr: yna y daethant at Iosuah i’r gwerssyll Siloh.

10Ac Iosuah a fwriodd goel-bren drostynt hwy ger bron yr Arglwydd yn Siloh: ac Iosuah a rannodd yno y wlâd i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11A choel-bren llwyth meibion Beniamin a ddaeth i fynu yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Iuda, a meibion Ioseph.

12A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fynu gan ystlys Iericho o du’r gogled, ac yn dringo drwy’r mynydd tua’r gorllewyn, ai gyrrau eithaf oeddynt yn anialwch Bethafen.

13Y terfyn hwnn hefyd sydd yn myned oddi yno i Luz, gan ystlys Luz tua’r deau, honno Bethel: a’r terfyn hwn sydd yn descyn i Ateroth Adar, tua’r mynydd yr hwn o du’r dwyrain i Beth-horon isaf.

14Felly y terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r dehau, o’r mynydd yr hwn ar gyfer Beth-horon tua’r dehau, ai gyrrau eithaf ef wrth Ciriath Baal, honno Ciriath Iearim, dinas meibion Iuda: dymma du y gorllewyn.

15A thu y dehau o gwrr Ciriath Iearim: a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewyn, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nephtoah.

16Y terfyn hwn hefyd sydd yn descyn tua chwrr y mynydd yr hwn ar gyfer glynn mab Hinnom, yr hwn yn nyffryn y cawri tua’r gogledd: ac y mae efe yn descyn’r glynn Hinnom gan ystlys y Iebusiaid tua’r dehau, ac yn dyfod i wared i ffynnon Rogel.

17Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i Ensemes, ac yn cyrhaeddyd hyd Geliloth, yr hon[sydd]gyferbyn a rhiw Adummim: ac yn descyn Iosua 15.6faen Bohan mab Ruben.

18Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer y rhôs tua’r gogledd, ac yn descyn i’r rhôs.

19Y terfyn hwn hefyd sydd yn myned rhacddo gan ystlys Beth-hoglah tua’r gogledd, a chwrr eithaf y terfyn oedd wrth lann y môr hêli tua r gogled, hyd gwrr yr Iorddonen tua’r dehau: dymma derfyn y dehau.

20Yr Iorddonen hefyd sydd yn ei derfynu ef o ystlys y dwyrain: dymma etifeddiaeth meibion Beniamin drwy eu terfynau o amgylch yn ôl eu teuluoedd.

21A dinasoedd llwyth meibion Beniamin yn ôl eu teuluoedd oeddynt Iericho, a Bethhoglah, a glynn Ceziz.

22Beth Arabah hefyd, a Semaraim, a Beth-el.

23Afim hefyd, a Pharah, ac Ophrah.

24A Chephar, Ammonai, ac Ophni, a Gaba: deuddec o ddinasoedd ai trefydd.

25Gibeon, a Ramah, a Beeroth.

26Mispeh hefyd, a Chephirah, a Mosa.

27Recem hefyd, ac Irpeel, a Tharolah.

28Zela hefyd, Eleph, ac Iebusi (honne Ierusalem) Gibeath Chiriath pedair ar ddeg o ddinasoedd ai pentrefydd: dymma etifeddiaeth meibion Beniamin yn ôl eu teuluoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help