1Ac wedi o ddyddiau yn amser cynhaiaf y gwenith, yna Samson a aeth i ymweled ai wraig, a mynn gafr, ac a ddywedodd, mi a âf i mewn at fyng-wraig i’r stafell: ond ni chanhiade ei thâd hi iddo ef fyned i mewn.
2Yna ei thâd a lefarodd gan ddywedyd, tygaswn it ei chasau hi, am hynny y rhoddais hi i’th gyfell di: onid ei chwaer ieuangach yn lanach na hi? bydded i ti attolwg yn ei lle hi.
3A Samson a ddywedodd wrthynt, difeiach ydwyf y waith hon na’r Philistiaid: am hynny y gwnaf niwed iddynt.
4Yna Samson a aeth allan, ac a ddaliodd dry-chant o lwynogod: ac a gymmerth ffaglau, ac a drodd gynffon y naill at y llall, ac a osododd vn ffagl rhwng dwy gynffon yn y canol.
5Felly efe a gynueuodd dân yn y ffaglau, ac a loscodd hyd yn oed y dasau a’r ŷd a oedd ar ei draed, y gwinllannoedd hefyd oliwydd.
6Yna y Philistiaid a ddywedasant, pwy a wnaeth hyn? hwythau a ddywedasant, Samson daw y Thimniad, canys efe a ddûg ei wraig ef, ac ai rhoddodd iw gyfell: a’r Philistiaid a aethant i fynu, ac ai lloscasant hi ai thâd a thân.
7A dywedodd Samson wrthynt, er i chwi wneuthur fel hyn: etto mi a ymddialaf arnoch chwi, ac wedi y peidiaf.
8Ac efe ai tarawodd hwynt glûn ar froddwyd a phlâ mawr: yna efe a aeth i wared, ac a arhosodd yng-hoppa craig Etam.
9Yna y Philistiaid a aethant i fynu, ac a werssyllasant yn Iuda: ac a ymledasant yn Lehi.
10A gwŷr Iuda a ddywedasant, pa ham y daethoch i fynu i’n herbyn ni? a dywedasant hwythau i rwymo Samson y daethom i fynu, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth efe i ninnau.
11Yna tair mîl o wŷr o Iuda a aethant i wared i goppa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, oni wyddost ti mai yr Philistiaid sydd yn arglwyddiaethu arnom ni? pa ham gan hynny y gwnaethost hyn a ni? dywedodd yntef wrthynt, fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum inne iddynt hwythau.
12Dywedasant hwythau wrtho, i’th rwymo di y daethom i wared, i’th roddi yn llaw y Philistiaid: a Samson a ddywedodd wrthynt, tyngwch wrthif na ruthroch i’m herbyn eich hunain.
13Hwythau ai hattebasant ef gan ddywedyd, ni eithr gan rwymo i’th rwymwn di, ac i’th roddwn yn eu llaw hwynt, ond ni lladdwn monot: a rhwymasant ef a dwy o raffau newyddion, ac ai dugasant ef i fynu o’r graig.
14Efe a ddaeth hyd Lehi, a’r Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef: ac yspryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, a’r rhaffau y rhai oeddynt am ei freichiau a fel edafedd llîn y rhai a loscasyd yn tân, a’r cylymmau a a ddatodasant oddi am ei ddwylaw ef.
15Ac efe a gafodd ên assyn îr, ac a estynnodd ei law, ac ai cymmerodd, ac a darawodd a a hi fil o wŷr.
16Yna Samson a ddywedodd, a gên yr assyn ben-twrr, ddau ben-twrr: a gên yr assyn y tarewais fil o wŷr.
17A phan orphennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên oi law: ac efe a alwodd y lle hwnnw Ramath Lehi.
18Ac efe a sychedodd yn dôst, ac a lefodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, tydi a roddaist yn llaw dy wâs yr ymwared mawr ymma: ac yn awr a fyddafi farw gan syched? ac a syrthiafi yn llaw y rhai dienwaededic?
19Yna Duw a holltodd y cilddant yr hwn yn yr ên fel y daeth allan ddwfr o honaw, ac efe a yfodd, ai yspryd a ddychwelodd, fel yr adfywhaodd efe: am hynny y galwyd ei henw ffynnon y geilwad, yr hon yn Lehi hyd y dydd hwn.
20Ac efe a farnodd Israel yn nyddiau y Philistiaid vgain mlhynedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.