1Yna Dafydd a gyfrifodd y bobl y rhai gyd ag ef: ac efe a osododd arnynt hwy filwriaid, a chan-wriaid.
2A Dafydd a anfonodd y bobl, sef y drydedd rann tann law Ioab, a’r drydedd rann tann law Abisai fab Serfia brawd Ioab, ar drydedd rann tann law Ithai y Gethiad: a’r brenin a ddywedodd wrth y bobl, gan fyned yr âf finne hefyd gyd a chwi.
3Yna y dywedodd y bobl, nid ei di allan, canys os gan ffoi y ffoiwn ni, ni osodant hwy meddwl arnom ni, ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant meddwl arnom, canys yn awr fel deng-mîl o honom ni: yn awr gan hynny gwell i ti fod i’n cynnorthwyo ni o’r ddinas.
4Yna y dywedodd y brenin wrthynt hwy gwnaf yr hyn fyddo da yn eich goswg chwi: a’r brenin a safodd ger llaw’r porth a’r holl bobl a aethant allan yn gantoedd, ac yn filoedd.
5A’r brenin a orchymynnodd Ioab, ac Abisai, ac Ithai gan ddywedyd, yn araf er fy mwyn i a’r llangc Absalom: a’r holl bobl a glywsant pan orchymynnodd y brenin i’r holl bennaethiaid yn achos Absalom.
6Felly’r aeth y bobl i’r maes i gyfarfod Israel, a’r rhyfel fu yng-hoed Ephraim.
7Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladfa fawr y dwthwn hwnnw vgain mîl.
8Canys y rhyfel oedd yno wedi gwascaru ar hyd wyneb yr holl wlâd: a’r coed a ddifethodd fwy o’r bobl, nac a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9Ac Absalom a gyfarfu a gweision Dafydd yn hwyneb: ac Absalom oedd yn marchogeth ar fûl, a’r mûl aeth tann dderwen fawr ddyrus, ai ben ef a lynodd yn y dderwen, felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a’r ddaiar, a’r mûl yr hwn tano ef a aeth ymmaith.
10A rhyw vn a ganfu ac a fynegodd i Ioab, ac a ddywedodd, wele, gwelais Absalom yng-hrog mewn derwen.
11Yna y dywedodd Ioab wrth y gŵr yr hwn oedd yn mynegu iddo ef, os gwelaist ti pa ham na’s tarewaist ef yno i’r llawr? fel ar nafi roddi i ti ddeg o artan, ac vn gwregys?
12Yna y dywedodd y gŵr wrth Ioab, pe cawn bwyso ar fy llaw fil arian, nid estynnwn fy llaw ar fab y brenin, canys gorchymynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthit ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ithai gan ddywedyd, gwiliwch o neb a’r llangc Absalom.
13Pe gwnelswn erbyn.
14Yna y dywedodd Ioab, nid arhoaf fel hyn o’th flaen di: ac efe a gymmerth dair o biccellau yn ei law, ac ai gwthiodd yng-halon Absalom, ac efe etto yn fyw yng-hanol y dderwen.
15A’r deg llangc oeddynt yn dwyn arfau Ioab, a amgylchynasant, ac a darawsant Absalom, ac ai lladdasant ef.
16Yna Ioab a vdcanodd mewn vdcorn, a’r bobl a ddychwelodd o erlyd ar ôl Israel: canys Ioab a ataliodd y bobl.
17Ac hwy a gymmerasant Absalom, ac ai bwriasant ef mewn ffôs fawr yn y coed, ac a osodasant arno ef garnedd gerric fawr iawn: a holl Israel a ffoasant pob vn iw babell.
18Ac Absalom a gymmerase, ac a osodase iddo yn ei fywyd golofn Gen.14.17.yn nyffryn y brenin, canys efe a ddywedodd, nid fab gennif i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun, ac hi a elwir lle Absalom hyd y dydd hwn.
19Yna Ahimaaz mab Zadoc a ddywedodd, rhedaf yn awr, a mynegaf i’r brenin ddarfod i’r Arglwydd ei farnu ef o law ei elynnion.
20Ac Ioab a ddywadodd wrtho ef, ni[byddi] di yn gennad-wr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddyw nifynegidi o herwydd marw mab y brenin.
21Yna y dywedodd Ioab wrth Chust, dôs dywet i’r brenin yr hyn a welaist: a Chusi a ymgrymmodd i Ioab, ac a redodd.
22Yna Abimaaz mab Zadoc a ddywedodd eilwith wrth Ioab, pa beth a fydd, os mi a redaf yn awr ar ôl Chusi: a dywedodd Ioab, i ba beth y rhedi di fy mab gan nad gennit ti gennadwriaeth addas?
23Beth bynnac a fyddo mi a redaf, a dywedodd yntef wrtho ef, rhêd: felly Ahimaaz a redodd rhyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Chusi.
24A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a’r gwiliedudd aeth ar nenn y porth ar y mûr, ac a dderchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.
25A’r gwiliedudd a waedodd, ac a fynegodd i’r brenin, a’r brenin a ddywedodd, os er hun efe, cennadwriaeth yn ei enau ef: ac efe a ddaeth, ac a nesaodd.
26A’r gwiliedudd a ganfu ŵr arall yn rhedeg, a’r gwiliedudd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, wele ŵr yn rhedeg ei hunan: a dywedodd y brenin, hwn hefyd sydd gennad.
27A’r gwiliedudd a ddywedodd, yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaaz mab Zadoc: yna y dywedodd y brenin, gŵr da hwnnw, ac a chennadwriaeth dda y daw efe.
28Yna Ahimaaz a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, heddwch, ac a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb i’r brenin: ac a ddywedodd, bendigedic’r Arglwydd dy Dduw’r hwn a warchaodd ar y gwŷr y rhai a gyfodent eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin.
29A’r brenin a ddywedodd, ai diangol y llangc Absalom? yna y dywedodd Ahimaaz, gwelais gythryfwl mawr, pan anfonodd Ioab wâs y brenin, a’th wâs dithe, ond ni wybum i ddim.
30A’r brenin a ddywedodd, trô, saf ymma: ac efe a drôdd, ac a safodd.
31Ac wele Chusi a ddaeth, a dywedodd Chusi, mynegir i ti fy arglwydd frenin mai yr Arglwydd a’th farnodd di heddyw o law pawb a’r sydd yn ymgyfodi i’th erbyn.
32Yna y dywedodd y brenin wrth Chusi, a ddiangodd y llangc Absalō? a dywedodd Chusi, fel y llangc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a’r holl rai a ymgyfodant i’th erbyn mewn drygioni.
33A’r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fynu i stafell y porth, ac a ŵylodd, ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned, ô fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom, ô na bawn farw trosot ti Absalom fy mab, fy mab.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.