1.Cronicl 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.10 Achau meibion Lefi. 31 Eu trefn yng-wenidogaeth y cyssegr. 49 Aaron ai feibion yn offeiriaid. 54 57 Eu trigfannau hwynt.

1Meibion Lefi Gersom, Cehath, a Merari.

2A meibion Gen.46.11.|GEN 46:11. exod 6.16.|EXO 6:16. 1.Cron.23.12.Cehath: Amram, Izahar, a Hebron, ac Uziel.

3A phlant Amram, Aaron, a Moses, a Miriam: a meibion Aaron, Lefit.10.1. num.20.25.Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

4Eleazar a genhedlodd Phinehes, Phinehes a genhedlodd Abisua.

5Ac Abisua a genhedlodd Boci, a Boci a genhedlodd Uzzi.

6Ac Uzzi a genhedlodd Zarahia, a Zarahia a genhedlodd Meraioth.

7Meraioth a genhedlodd Amaria, ac Amaria a genhedlodd Ahitub.

8Ac Ahitub a genhedlodd Zadoc, a Zadoc a genhedlodd Ahimaaz.

9Ac Ahimaaz a genhedlodd Azaria, ac Azaria a genhedlodd Iohanan.

10Iohanan hefyd a genhedlodd Azaria, yr hwn a offeiriadodd yn y tŷ yr hwn a adailadodd Salomon yn Ierusalem.

11Ac Azaria a genhedlodd Amaria, ac Amaria a genhedlodd Ahitub.

12Ac Ahitub a genhedlodd Zadoc, a Zadoc a genhedlodd Salum.

13A Salum genhedlodd Helcia, a Helcia a genhedlodd Azaria.

14Ac Azaria a genhedlodd Saraia, a Saraia a genhedlodd Iehozedech.

15A Iehozedech a ymadawodd pan gaethgludodd yr Arglwydd Iuda, ac Ierusalem, drwy law Nabuchodonosor.

16Meibion Lefi Gersom, Cehath, a Merari.

17Ac dymma enwau meibion Gersom: Libni, a Simhi.

18A meibion Cehath Amram, ac Isahar, a Hebron, ac Uzziel.

19Meibion Merari, Mahali, a Musi: ac dymma dylwyth y Lefiaid, yn ôl eu tadau hwynt

20I Gersom Libni ei fab ef, Iehath ei fab yntef, a Zimma ei fab yntef.

21Ioah ei fab yntef, Ido ei fab yntef, Zerah ei fab yntef, Iethrai ei fab yntef.

22Meibion Cehath: Aminadab ei fab ef, Num.16.1.Corah ei fab yntef, Assir ei fab yntef.

23Elcana ei fab yntef, ac Ebiasaph ei fab yntef, ac Assir ei fab yntef.

24Thahath ei fab yntef, Uriel ei fab yntef, Uzzia ei fab yntef, a Saul ei fab yntef.

25A meibion Elcana: Amazai, ac Ahimoth.

26Elcana: meibion Elcana, Zophai ei fab ef, a Nahath ei fab yntef.

27Eliab ei fab yntef, Ieroham ei fab yntef, Elcana ei fab yntef.

28 1.Sam.8.2. A meibion Samuel, y cyntaf-anedic Uasni, yno Abia.

29Meibion Merari, Mahali: Libni ei fab yntef, Simhi ei fab yntef, Uzzia ei fab yntef.

30Simha fab yntef Haggia ei fab yntef Asaia ei fab yntef.

31Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gautorion nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorphywys o’r Arch.

32Ac hwy a fuant wenidogion mewn cerdd o flaen Exod.27.21.tabernacl pabell y cyfarfod nes adailadu o Salomon dŷ yr Arglwydd yn Ierusalē: a hwy a safasant yn eu defod wrth eu gwasanaeth.

33A dymma y rhai a weinasant ai meibion hefyd: o feibion y Cehathiaid Heman y cantor, mab Ioel, fab Semuel,

34Fab Elcana, fab Ieroham, fab Eliel, fab Thoah,

35Fab Zuph, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai,

36Fab Elcana, fab Ioel, fab Azaria, fab Zephadia,

37Fab Thahath, fab Assir, fab Elbasaph, fab Corah,

38Fab Isahar, fab Cehath, fab Lefi, fab Israel,

39Ai frawd Asaph oedd yn sefyll ar ei law ddehau sef Asaph mab Barachia, fab Simha,

40Fab Michael, fab Baasa, fab Melchia,

41Fab Athan, fab Zarah, fab Adaia,

42Fab Ethan, fab Zinma, fab Simhi,

43Fab Iahath, fab Gersom, fab Lefi.

44Ai brodyr hwynt, meibion Merari ar y llaw asswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluch.

45Fab Hazabia, fab Amazia, fab Helcia,

46Fab Amzi, fab Bani, fab Samer,

47Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi

48Ai brodyr hwynt y Num.4.4Lefiaid oeddynt gwedi eu rhoddi i holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw

49Aarō hefyd ai feibiō arogl-darthasant ar allor y poeth offrwm, ac ar allor ’r arogl-darth i holl wasanaeth y cyssegr, sancteiddiolaf, ac i wneuthur iawn tros Israel yn ôl ’r hyn oll a orchymynase Moses gwâs Duw.

50Dymma hefyd feibion Aaron: Eleazar ei fab ef, Phinehes ei fab yntef, Abisua ei fab yntef

51Bocci ei fab yntef, Uzzi ei fab yntef, Zeraiah ei fab yntef.

52Meraioth ei fab yntef, Amaria ei fab yntef, Ahitub ei fab yntef.

53Zadoc ei fab yntef, Ahimaaz ei fab yntef.

54Ac dymma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasoedd hwynt, yn eu terfynau: sef meibion Aaron o dylwyth y Cehathiaid o blegit eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.

55A rhoddasant iddynt Hebron yng-wlâd Iuda: ai meusydd pentrefol oi hamgylch hi.

56A maes y ddinas, ai phentrefydd a roddasant hwy i Caleb fab Iephun.

57Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Iuda: y Deut.19.2.noddfa, sef Hebron, a Libna, ai meusydd pentrefol, ac Iathir, ac Esthemoa ai meusydd pentrefol.

58A Iosua 15.51.Hilen ai meusydd pentrefol, a Dabir ai meusydd pentrefol.

59Asan hefyd ai meusydd pentrefol, a Bethsemes ai meusydd pentrefol.

60Ac o lwyth Beniamin, Geba ai meusydd pentrefol, Iosua 21.18.Alemeth hefyd ai meusydd pentrefol, ac Anathoth ai meusydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt drwy eu teuluoedd dair dinas ddêc.

61Ac i’r rhan arall o feibion Cehath oddi wrth deulu y llwyth: o hanner llwyth sef hanner Manasses ddêc dinas wrth goel-bren.

62[Rhoddasant] hefyd i feibiō Gersom drwy eu teuluoedd o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nephthali, ac o lwyth Manasses yn Basan dair ddêc o ddinasoedd.

63I feibion Merari drwy eu teuluoedd, o lwyth Ruben, ac o lwyth Gad, ac olwyth Zabulon drwy goel-bren ddeuddec o ddinasoedd.

64A meibion Israel a roddasant i’r Lefiaid y dinasoedd, ai meusydd pentrefol.

65A roddasant drwy goel-bren, o lwyth meibion Iuda, ac o lwyth meibion Simeon, ac o lwyth meibion Beniamin, y dinasoedd hyn y rhai a alwasant hwy ar henwau hwynt.

66[I’r rhai oeddynt] o deuluoedd meibion Cehath yr ydoedd dinasoedd eu terfyn o lwyth Ephraim.

67A hwy a roddasant iddynt hwy Iosua 21.21.ddinasoedd noddfa, sef Sichem, ai meusydd pentrefol, ym mynydd Ephraim: Gaser hefyd ai meusydd pentrefol.

68Iocmeam hefyd ai meusydd pentrefol, a Bethoron ai meusydd pentrefol.

69Felly Aialon ai meusydd pentrefol, Gethrimmon hefyd ai meusydd pentrefol.

70Ac o hanner llwyth Manasses, Aner, ai meusydd pentrefol, a Bileam ai meusydd pentrefol i deulu y rhai oeddynt yng-weddill o feibion Cehath.

71I feibion Gersom o deulu hanner llwyth Manasses Golan yn Basan ai meusydd pentrefol: Astaroth hefyd ai meusydd pentrefol.

72Ac o lwyth Issachar, Cedes ai meusydd pentrefol, a Dabrah ai meusydd pentrefol.

73Ramoth hefyd ai meusydd pentrefol, ac Anem ai meusydd pentrefol.

74Ac o lwyth Aser, Masal ai meusydd pentrefol, ac Abdon ai meusydd pentrefol.

75Hucoc hefyd ai meusydd pentrefol: a Rehob ai meusydd pentrefol.

76Ac o lwyth Nephthali, Cedes yn Galilea ai meusydd pentrefol, Hammon hefyd ai meusydd pentrefol, a Chiriathaim ai meusydd pentrefol.

77I’r rhan arall o feibion Merari o du dwyrain yr Iorddonen, o lwyth Ruben, Bezer yn yr anialwch ai meusydd pentrefol, Iahzah hefyd, ai meusydd pentrefol.

79Cedmoth hefyd ai meusydd pentrefol, a Mephaath ai meusydd pentrefol.

80Ac lwyth Gad, Ramoth yn Gilead, ai meusydd pentrefol, Mahanaim hefyd, ai meusydd pentrefol.

81Desbon hefyd ai meusydd pentrefol, a Iazer, ai meusydd pentrefol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help