1A’r
19I bregethu blwyddyn gymmeradwy’r Arglwydd.
20Ac wedi iddo gaeu’r llyfr a’i roddi i’r gweinidog yr eisteddodd: a llygaid pawb oll yn y Synagog oedd yn craffu arno.
21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt: heddyw y cyflawnyd yr scrythyr hon yn eich clustiau chwi.
22Ac yr oedd pawb yn dwyn testiolaeth iddo: ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddaent allan o’i enau ef, gan ddywedyd: onid hwn yw mab Ioseph?
23Ac efe a ddywedodd wrthynt: yn hollawl y dywedwch y ddihareb hon wrthif: y meddig, iachâ di dy hun, y pethau a glywsom i ti eu gwneuthur yn Capernaum, gwna ymma yn dy wlâd dy hun.
24 Ioan.4.44. A dywedodd yntef, yn wir meddaf i chwi, nad yw vn prophwyd yn gymmeradwy yn eu wlad ei hun.
25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, llawer o wragedd gweddwon yn nyddiau Elias oedd yn Israel, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe-mis, hyd pan oedd newyn mawr tros yr holl dir:
26Ac nid at yr vn o honynt yr anfonwyd Elias, ond i 1.Bren.17.9.Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.
27A llawer o wahan-gleifion oeddynt yn Israel yn amser 1.Bren.5.14.Eliseus y prophwyd: ac ni lanhawyd yr vn o honynt ond Naaman y Syriad.
28Yna y llanwyd hwynt oll o ddigofaint yn y Synagog, panh glywsant y pethau hyn.
29A chan godi i fynu hwynt hwy a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dugasant hyd ar ael y bryn yr adeiladasid eu dinas arno, ar fedr ei fwrw ef bendro-mwnwgl i lawr.
30Yntef gan fyned drwy eu canol hwynt a aeth ymmaith.
31Ac efe a ddaeth i wared i Capernaum dinas Galilæa, ac Math.4.13. Marc.1.21. yno y dyscodd efe hwynt ar y dyddiau Sabboth.
32A rhyfeddu a wnaethant wrth ei athrawiaeth ef, canys ei ymadrodd Math.7.29. Marc.2.22ef oedd gyd ag awdurdod.
33Ac Mar.1.23.yr oedd yn y Synagog ddŷn a chanddo yspryd cythreul aflan, yr hwn a waeddodd â llef vchel,
34Gan ddywedyd, ô beth i ni â thi Iesu o Nazareth? a ddaethost di i’n difetha ni? myfi a wn pwy ydwyt ti, Sanct Duw.
35A’r Iesu a’i ceryddodd gan ddywedyd: distawa, a dos allan o honaw, yna y cythrael, wedi ei daflu ef yn y canol, a aeth allan o honaw, heb wneuthur dim niwed iddo.
36A daeth ofn arnynt oll, a ymddiddanent wrth eu gilydd gan ddywedyd: pa beth yw hyn, gan ei fod efe trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwynt yn myned allan?
37A sôn a aeth am dano ym mhob man yn y wlâd o amgylch.
38Pan Math.8.14. Marc.1.30. gyfododd o’r Synagog yr aeth i mewn i dŷ Simon, ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o grŷd blin, a hwynt hwy a ymbiliasant ag ef trosti hi.
39Yna y safodd efe vwch ei phen hi, ac efe a geryddodd y crŷd, ac efe a’i gadawodd hi, ac yn y fan y cyfodes hi, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40Pan fachludodd yr haul, pawb a’r oeddynt ganddynt rai cleifion o amryw glwyfau, a’u dygasant hwynt atto ef, ac efe gan roi ei ddwylo ar bob vn o honynt ac a’u hiachaodd hwynt.
41A Marc.1.35. chythreuliaid a aethant allan o lawer dann lefain a dywedyd: ti yw Crist Mab Duw, eithr efe a’i ceryddodd hwynt, ac ni adawe iddynt ddywedyd, y gwyddent mai efe oedd y Crist.
42A phan aeth hi yn ddydd yr a aeth efe oddi yno ymmaith i’r diffaethwch a’r bobl a’i ceisiasant ef, ac hwy a ddaethant atto, ac a’i hattaliasāt ef rhag myned ymmaith oddi wrthynt hwy.
43Yna y dywedodd efe wrthynt, yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill, canys i hyn i’m danfonwyd.
44Ac efe a bregethodd yn Synagogau Galilæa.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.