2.Machabæaid 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.1 Antiochus yn ewyllyscar i yspeilio Persepolis a yrred i ffoi. 5 Ag efe yn erlid yr lddewon, fe ai tarawodd yr Arglwydd ef. 13 Ffuantus edifeirwch Antiochus. 28 Ei farwolaeth dosturus.

1Yng-hylch y cyfamser hwnnw y daeth Antiochus allan o wlâd Persia yn wradwyddus.

2Canys pan ddaeth efe i Persepolis, efe a amcanodd yspeilio ’r Deml a dwyn dano y ddinas: ond y bobl a redasant yn gyffrous iw hamddeffyn eu hun âi harfau, ac ai gyrrasant ef i ffoi: felly Antiochus, alyrrwyd i ffoi gan y pre­swylwyr, ac a ddychwelodd â chywilydd.

3A phan ddaeth efe i Ecbatana y dywedwyd iddo ef y pethau a wnaethid i Nicanor ac i Timotheus.

4Am hynny wedi i lid ei gyfodi ef, efe a fe­ddyliodd droi drwg y rhai ai gyrrase ef i ffoi ar yr Iddewon, am hynny efe a barodd i’r hwn a ydoedd bob amser yn gyrru ei gerbyd brysuro a dibennu ei daith, canys barn Duw ydoedd yn ei annog ef: o herwydd efe a ddywedase fel hyn yn ei falchedd, myfi a wnaf Ierusalem yn gladdfa gyffredin yr Iddewon pan ddelwyf yno.

5Ond yr Arglwydd oll alluog a Duw Israel, ai tarawodd ef â dialedd difeddiginiaethol, ac anweledig: canys er cynted ag y dywedase efe y geiriau hyn, dolur yn ei berfedd a ddaeth arno yr hwn ni’s gellid ei iachau, a gofid aruthrol yn ei fol.

6Ac iawn oedd hynny: canys efe a boenase berfedd gwŷr eraill ag amryw a dieithr boenau.

7Hwn hefyd ni pheidie er hynny ai vchel­fryd, ond a lenwid yn fwy â balchedd, gan anad­lu allan dân yn ei ddig yn erbyn yr Iddewon, a pheri prysuro ei daith: eithr digwyddodd syrthio o hono ef i lawr oi gerbyd, yr hwn ydoedd yn rhedeg yn gyflym, a gwneuthur oll aelodau ei gorph ef yn chwilfriw gan y cwymp mawr

8Fel hyn efe yr hwn a dybbie ychydig o’r blaen y galle orchymyn tōnau y môr (cymmeint oedd ei falchedd tu hwynt i ddyn) a phwysso y mynyddoedd vchel mewn clorian tra ydoedd ar y ddaiar, a arwenid mewn elor feirch, gan fynegu i bawb amlwg allu Duw.

9Yn gymmeint ac i bryfed heidio allan o gorph yr annuwiol hwnnw, a thra ydoedd efe etto yn fyw ei gnawd a syrthie gan boen a gofid, ai holl lu a ymofidient o blegit ei ddrwg-sawyr ef.

10Fel hyn nid oedd nêb abl i aros yr hwn o’r blaen a dybbie y galle gyrrheuddyd sêr y nefoedd, o blegit y dryg-sawyr.

11Am hynny wedi ei glwyfo fel hyn efe a ddechreuodd beidio ai falchder mawr, a dyfod iw adnabod ei hun drwy gurfa Duw, ai ofid yr hwn a chwanegid bôb mynudun

12A phan ni allodd efe aros ei sawyr ei hun efe a ddywedodd hyn: iawn yw ymostwng i Dduw, ar i’r hwn sydd yn farwol nag ymdrecho i fôd yn ogufiwch â Duw.

13A’r dyn sceler hwn a weddiodd at yr Arglwydd (yr hwn ni chymmere drugaredd arno mwyach) gan ddywedyd,

14Y rhyddhâe efe y ddinas sanctaidd i’r hon yr oedd efe yn prysuro iw gwneuthur yn vn ar llawr, ac yn gladdfa.

15A hefyd y gwnai efe yn ogufiwch a’r Antiochiaid yr holl Iddewon y rhai yr oedd efe yn eu barnu yn anheilwng o gladdedigaeth, ond iw bwrw iw llyngcu gan adar a bwyst­filod yng-hyd ai plant.

16Ac yr bardde efe y Deml sanctaidd â rhoddiō gwychion yr hon o’r blaen a ddarfase iddo ei hyspeilio, ac y chwanege efe y llestri sanctaidd, ac y rhodde efe oi ardreth ei hun yr holl gôst a ydoedd yn perthynu i’r ebyrth.

17Ac am ben hyn hefyd y bydde efe ei hun yn Iddew, ac y rhodie ym mhob lle cyfanneddol gan bregethu gallu Duw.

18Ond pan na pheidie ei ofidfawr boenau (canys fe a ddaethe arno ef iawn farn Duw) gan anobeithio ei iechyd, efe a scrifennodd at yr Iddewon y llythyrau sy yn canlyn, ac ynddynt y fath deisyfiad a hyn.

19I’r iddewon ei ddinaswŷr, annerch ac iechyd a llywyddiant oddi wrth Antiochus y brenin a’r pen llywydd.

20Os ydych chwi a’ch plant yn iach, ac os yw pob peth yn ôl eich dymuniant, mi a roddaf fawr ddiolch i Dduw, gan fôd gennif obaith yn y nef.

21Wrth ddychwelyd o wledydd Persia, wedi syrthio mewn clefyd mawr, mi a dybbiais fôd yn ang-henrheidiol i mi ofalu am gyffredin ddienbydrwydd pawb,

22Nid gan anobeithio o’m bywyd, ond gan fod gennif obaith mawr y diangaf o’r clefyd hwn.

23Gan ystyrio hefyd ddarfod i’m tâd yr amser ac yr arwenodd lu i’r tueddau vchaf hyn, seinio pwy a llywodraethe ar ei ôl:

24Fel os digwydde dim amgen nag yr oedd yn gobeithio, neu os dywedid newyddion drwg yn y byd, na byde i wŷr y wlâd derfyscu, gan eu bod yn gwybod i bwy i rhoesid llywodraeth y matterion

25Hefyd gan feddylio bod y pendefigion sy oddi amgylch ac yn gymydogion i’m teyrnas, yn disgwil amser, ac yn edrych pa beth a ddigwyddo: myfi a ordeiniais fy mâb Antiochus yn frenin, yr hwn pan oeddwn yn myned i’r gwledydd vchaf hyn, a orchymynnais yn fynych i lawer o honoch chwi, ac a scrifennais atto ef y modd y mae yn calyn yr scrifen ymma.

26Am hynny yr wyf yn eiriol arnoch chwi ac yn ddeisyfu ar goffa o honoch y cymmwynasau a wneuthym i chwi yn amlwg ac yn ddirgel, a chadw o honoch bob amser eich ewyllys da i mi a’m mâb.

27Canys diau gennif y ceidw efe yn gyfan ac yn ddihalog y cyngor a roddais iddo yn eich cylch chwi.

28Fel hyn y llofrudd a’r cabl-wr wedi iddo oddef gofid lawer, megis ag y gwnaethe efe i eraill, a fu farw yn ym deithio ar y mynyddoedd.

29A Philip ei frawd-maeth ef a ddug ymmaith ei gorph ef: yr hwn hefyd rhag ofn mâb Antiochus a ffôdd i’r Aipht at Ptolomeus Phi­lometor.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help