Deuteronomium 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Gorchymyn dinistrio pob lle’r hwn y buase delw-addoliad, neu gau-dduwiaeth ynddo. 5 Bod i ni addoli Duw y lle a’r modd y gorchymynno Duw. 19 Bod y rhaid ymgoleddu y Lefiaid. 20 Beth a ellir ei fwyta gartref. 23 Gwahardd gwaed. 31 offrymmiad plant. 32 parch a digonoldeb gair Duw.

1Dymma y deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai a wiliwch am gwneuthur, (yn y tîr yr hwn a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti iw orescyn,) yr holl ddyddiau y rhai y byddoch fyw ar y ddaiar.

2 Deut.7.5. Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd (y rhai yr ydych chwi yn eu gorescyn) eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd vchel, ac ar y brynnau, a thann bob pren gwyrdd-las.

3 Barn.2.2. Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, lloscwch hefyd eu llwynau hwynt a thân: a thorrwch gerfiedic ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu hennwau hwynt o’r lle hwnnw.

4Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw.

5Ond y lle (yr 1.Bren.8.29. 2.Cron.6.5. 2.Cron.7.12.hwn a ddewiso’r Arglwydd eich Duw chwi o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno i fod yn drigfa iddo) a geisiwch, ac yno y deuwch.

6A dygwch yno eich poeth offrymmau, a’ch aberthau, a’ch degymmau, ac offrwm derchafel eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymmau gwirfodd, a chyntaf-anedic eich gwarthec, a’ch defaid.

7A bwytewch yno ger bron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim yr estynnoch eich llaw arno, chwchwi a’ch teuluoedd y rhai y bendithiodd yr Arglwydd dy Dduw di

8Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur ymma heddyw, pob vn yr hyn inion yn ei olwg ei hun.

9Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orphywysfa, ac i’r etifeddiaeth yr hon y mae’r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi it.

10Ond chwi a ewch tros yr Iorddonen, ac a drigwch yn y tîr yr hwn y mae’r Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, ac efe a rydd lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynnion o amgylch, fel y presswylioch yn ddiogel.

11Pan fyddo lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo i beri iw enw aros ynddo, yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi y ei orchymyn i chwi: eich poeth offrymmau, a’ch aberthau, eich degymmau, a derchafel offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau y rhai a addunedoch i’r Arglwydd.

12A llawenhewch ger bron yr Arglwydd eich Duw, chwi, a’ch meibion, a’ch merched a’ch gweision, a’ch morwynion, a’r Lefiad yr hwn yn eich pyrth chwi: canys Deut.10.9.nid iddo ran, nac etifeddiaeth gyd a chwi.

13Gwilia arnat rhac poeth offrymmu o honot dy boeth offrymmau ym mhob lle ar a welech:

14Ond yn y lle yr hwn a ddewiso yr Arglwydd o fewn vn lwythau di: yno y poeth offrymmi dy boeth offrymmau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyfi yn ei orchymyn i ti.

15Er hynny ti a gei ladd, a bwytta cîg, yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy dduw yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan, a’r glan a fwyttu o honaw megis o’r iwrch, a’r carw.

16Ond na fwyttewch y gwaed, ar y ddaiar y tywelltwch ef fel dwfr.

17Ni elli fwytta o fewn dy byrth ddecfed dy yd, na’th win, na’th olew, na chyntaf-anedic dy warthec, na’th ddefaid, na’th holl addunedau y rhai a addunech: na’th offrymmau gwirfodd, na derchafel offrwm dy law.

18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttei hyn, yn y lle yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw, ti a’th fab, a’th ferch, a’th wâs, a’th forwyn, a’r Lefiad yr hwn yn dy byrth di: a llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

19 Eccles.7.31. Gwilia arnat rhac gwrthod y Lefiad tra fyddech byw ar dy ddaiar.

20Pan helaetho’r Arglwydd dy Dduw dy derfyn di Gen.28.14.|GEN 28:14. Deut.19.8.megis y dywedodd wrthit, os dywedi bwyttaf gîg: pan ddymuno dy galon fwytta cig, yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwyttei gig.

21Os y lle’r hwn a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo fydd pell oddi wrthit, yna lladd o’th warther, ac o’th ddefaid y rhai a roddodd yr Arglwydd it, megis y gorchymynnais i ti: a bwytta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.

22Etto fel y bwytteir yr iwrth, a’r carw, felly y bwyttei ef, yr aflan, a’r glan ai bwyttu yng-hyd.

23Yn vnic ymgryfhâ rhac bwytta y gwaed, canys y gwaed yw yr enioes: ac ni chei fwytta yr enioes yng-hyd a’r cîg.

24Na fwytta ef: ar y ddaiar y tywellti ef fel dwfr.

25Na fwytta ef, fel y byddo daioni i ti ac i’th feibion ar dy ôl: pan wnelech yr inion yng-olwg yr Arglwydd.

26Etto cymmer dy gysse gredic y rhai ydynt genit, a’th addunedau, a thyret i’r lle, ’r hwn a ddewiso’r Arglwydd.

27Ac offrymma dy boeth offrwm ([sef] y cîg a’r gwaed) ar allor yr Arglwydd dy Dduw, a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw: a’r cîg a fwyttei di.

28Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn y rhai’r ydwyfi yn eu gorchymyn i ti: fel y byddo daioni it, ac i’th feibion ar dy ôl byth, pan wnelech y daioni, a’r iniondeb yng-olwg yr Arglwydd dy Dduw.

29Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw, y cenhedloedd, y rhai yr wyt i yn myned attynt iw gorescyn o’th flaen, ai gorescyn o honot, a phresswylio yn eu tîr hwynt.

30Gwilia arnat rhac ymfaglu o honot ar eu hol hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di: a rhac ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd: pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau, myfi a wnaf felly hefyd?

31Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw, canys pob ffieidd-dra yr hwn oedd gâs gan yr Arglwydd a wnaethant iw duwiau: canys eu meibion hefyd, ai merched a loscasant yn tân iw duwiau.

32Pob gair yr hwn yr wyfi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny Deut.4.2. Iosua. 1.7|JOS 1:7. Dihar.30.6. Gwel.22.18.na chwanega atto, ac na thyn oddi wrtho.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help