1Byddwch Hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd heb eich canmol, eich bôd yn ymgynnull nid i wellhau ond i waethygu.
18Canys yn gyntaf pann ymgynhulloch yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod anghydfod yn eich mysc chwi, ac o rann yr wyfi yn credu.
19O herwydd rhaid yw bod yn eich mysc traws-opinionau, megis y byddo yn eglur y rhai cymmeradwy yn eich plith chwi.
20Am hynny pan ddeloch yng-hyd, ni cheir bwytta swpper yr Arglwydd.
21Canys pawb a fwyttu ei swpper ei hun o’r blaen, ac vn sydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw.
22Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed ynddynt? ai dyrmygu yr ydych chwi eglwys Dduw? ac a ydych chwi yn gwradwyddo y rhai nid oes ganddynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf i chwi yn hyn? na chanmolaf.
23Canys gan yr Arglwydd y derbyniais y peth a draddodais i chwi, bod i’r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara,
24 Math.26.26.|MAT 26:26. marc.14.22.|MRK 14:22. luc.22.19. A chan ddiolch efe a’i torrodd, ac a ddywedodd: cymmerwch bwytewch hwn yw fyng-horph yr hwn a dorrwyd trosoch, gwnewch hynn er coffa am danaf.
25A’r vn modd y cwppan wedi swpper, gan ddywedyd, y cwppan hwn yw’r testament newydd yn fyng-waed, gwenwch hynn cynifer gwaith bynnac yr yfoch er coffa am danaf.
26Canys cynifer gwaith bynnac y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo.
27Am hynny pwy bynnac a fwytâo y bara hwn, ac a yfo gwppan yr Arglwydd yn anheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.
28 2.Cor.13.5. Eithr profed dyn ef ei hun, ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwppan.
29Canys yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn anheilwng, sydd yn bwyta, ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd.
30O blegit hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno.
31Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid.
32Eithr pan ein bernir ein cospir gan yr Arglwydd, rhag ein damnio gyd â’r byd.
33Am hynny fy mrodyr, pan ddeloch yng-hyd i fwytta, arhoswch eu gylydd.
34Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref, rhag i chwi ymgasclu i farnedigaeth: ac am bethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
