1Ac wedi hyn meibion Moab, a meibion Ammon a ddaethant, a chyd a hwynt o’r Ammoniaid yn erbyn Iehosaphat i ryfel.
2Yna y deuwyd, ac y mynegwyd i Iehosophat gan ddywedyd, tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria: ac wele hwy yn Hason Thamar honno Engedi.
3Ac Iehosophat a ofnodd, ac a roddes ei fryd ar geisio’r Arglwydd: ac a gyhoeddodd ympryd drwy holl Iuda.
4Ac Iuda a ymgasclasant i ymgynghori a’r Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Iuda i ymofyn a’r Arglwydd.
5Ac Iehosophat a safodd yng-hynnulleidfa Iuda, ac Ierusalem yn nhŷ’r Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd.
6Ac efe a ddywedodd: ô Arglwydd Dduw ein tadau, onid tydi ydwyt Dduw yn y nefoedd, a thi ydwyt yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd: ac yn dy law di nerth a chadernid, ac nid oes a ddichon dy wrthwynebu di?
7Onid ti ein Duw a yrraist ymmaith bresswyl-wŷr y wlâd hon o flaen dy bobl Israel? ac ai rhoddaîst hi i hâd Abraham dy garedigol yn dragywydd?
8A thrigasant ynddi: ac a adailadasant i ti yn ddi gyssegr i’th enw, gan ddywedyd,
9Os daw niwed arnom ni cleddyf barnedigaeth, neu haint, neu newyn, ni a safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di (canys dy enw di yn y tŷ hwn) am hynny y gwaeddwn arnat yn ein cyfyngdra, gwrando dithe a gwaret
10Ac yn awr wele feibion* Ammon, a Moab, 1.Bren.8.38. 2.Cron.6.28.|1CH 6:28. Gen.36.8.|GEN 36:8. Deut.2.4.|DEU 2:4. isod.23.a mynydd Seir y rhai ni chanhiedaist i Israel fyned attynt pan ddaethāt o wlâd yr Aipht: er iddynt hwy droi oddi wrthynt îe heb eu difa:
11Etto wele hwyntwy yn talu i ni: gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di yr hon a wnaethost i ni ei gorescyn.
12Oh ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid gennym ni nerth o flaen y dyrfa fawr hon yr hon sydd yn dyfod i’n herbyn ni: ac ni ŵyddom ni beth a wnawn, ond arnat ti ein llygaid.
13A holl Iuda oeddynt yn sefyll ger bron yr Arglwydd: eu plāt hefyd, eu gwragedd ai meibion
14Ac Iahziel mab Zacharia, fab Banaia fab Iehiel, fab Mathania y Lefiad o febion Asaph ydoedd arno ef y daeth yspryd yr Arglwydd yng-hanol y gyunulleidfa.
15Ac efe a ddywedodd, gwrandewch holl Iuda, a thrigolion Ierusalem, a ô frenin Iehosaphat: fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthych chwi, nac ofnwch chwi, ac nac arswydwch rhac ofn y dyrfa fawr hon, canys nid eiddo chwi y rhyfel, eithr eiddo Duw.
16Y foru ewch i wared yn eu herbyn hwynt, wele hwynt yn dyfod i fynu wrth darren Ziz: a chwi ai goddiweddwch hwynt yng-hwrr yr afon tu ag anialwch Ieruel.
17Nid i chwi ymladd yn y hwn, Exod.14.13.sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tu ag attoch chwi ô Iuda, ac Ierusalem nac ofnwch, ac nac arswydwch, ewch y foru allan yn eu herbyn hwynt, a’r Arglwydd gyd a chwi.
18Yna Iehosaphat a ymgrymmodd i lawr ar ei wyneb: holl Iuda hefyd, a holl drigolion Ierusalem a syrthiasant ger bron yr Arglwydd gan addoli’r Arglwydd.
19A’r Lefiaid o feibion y Cehathiaid, ac o feibion y Corathiaid a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel a llef fawr odieth.
20Felly hwynt a gyfodasant yn forau, ac a aethant drwy anialwch Thecoa: ac wrth fyned o honynt, Iehosophat a safodd, ac a ddywedodd, gwrandewch fi ô Iuda, a thrigolion Ierusalem credwch i’r Arglwydd eich Duw, a chwi a siccrheuir, coeliwch ei brophwydi ef, ac chwi a ffynnwch.
21Ac efe a ymgynghôrodd a’r bobl, ac a osododd gantorion i’r Arglwydd, a rhai yn moliannu ym mhrydferthwch y cyssegr: pan aent allan o flaen y rhyfel-wŷr yna y dywedent, Psal.136.clodforwch yr Arglwydd o herwydd ei drug aredd yn dragywydd.
22Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, a Moab, a mynydd Seir (y rhai oeddynt yn dyfod yn erbyn Iuda (fel y lladasant bawb ei gilydd.
23Canys meibion Ammon, a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir iw difrodi, ac iw difetha a phan orphennasent hwy drigolion Seir helpiasant ddifa pawb ei gilydd.
24Pan ddaeth Iuda hyd Mispa yn yr anialwch: yna’r edrychasant ar y dyrfa, ac wele hwynt yn gelaneddau yn gorwedd ar y ddaiar, ac heb diangol.
25Am hynny Iehosaphat ai bobl a ddaeth i sclyfaethu eu hyspail hwynt, a chawsant yn eu mysc hwy lawer o olud, a dillad, a thlysau dymunol, sclyfaethasant iddynt beth anfeidrol: a thri diau y buant yn sclyfaethu’r yspail, canys mawr oedd hi.
26Ac ar y pedwerydd dydd yr ymgynnullasant i Ioel.3.2.ddyffryn y fendith, canys yno y bendithiasant yr Arglwydd: am hynny y gelwir henw y fann honno dyffryn y fendith hyd heddyw.
27Yna holl wŷr Iuda, ac Ierusalem a ddychwelasant gyd ag Iehosaphat eu pennadur hwynt, gan fyned yn ôl i Ierusalem mewn llawenydd: canys yr Arglwydd a roddase lawenydd iddynt hwy ar eu gelynnion.
28A hwynt a ddaethant i Ierusalem a nablau, a thelynau hefyd, ac vdcyrn i dŷ’r Arglwydd.
29Ac ofn Duw fu ar holl deyrnasoedd y ddaiar: pan glywsant hwy fel y rhyfelase yr Arglwydd yn erbyn gelynnion Israel.
30Felly teyrnas Iehosaphat a gafodd lonydd ai Dduw a roddodd iddo ef lonyddwch o amgylch.
31Ac Iehosaphat a deyrnasodd ar Iuda: 1.Bren.22.42.mab pymtheng-mlwydd ar hugain pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phum mhlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Ierusalem, ac enw ei fam ef Azuba merch Silhi.
32Ac efe a rodiodd yn ffordd Asa ei dad, ac ni chiliodd oddi wrth hi: gan wneuthur yr hyn oedd inion yng-olwg yr Arglwydd.
33Er hynny, ni thynnwyd yr vchelfeudd ymmaith: canys ni pharatoase y bobl eu calon etto at Dduw eu tadau.
34A’r rhan arall o’r gweithredoedd cyntaf a diweddaf i Iehosaphat: wele hwynt yn scrifennedic ym mysc geiriau Iehu mab Hanani’r 1.Cron.29.29.hwn ai scrifennodd hwynt yn llyfr brenhinoedd Israel.
35Ac wedi hyn Iehosaphat brenin Iuda a ymgyfeillodd ag Ahazia brenin Israel: hwnnw a ymroddase i ddrygioni.
36Ac efe a vnodd ag ef ar wneuthur llongau i fyned i Tharsis: a gwnaethant longau yn Ezion Gaber.
37Yna Eliezer mab Dodafah o Maresah a brophwydodd yn erbyn Iehosaphat gan ddywedyd: o herwydd i ti ymgyfeillach ag Ahazia, yr Arglwydd a rwygodd dy waith di, 1.Bren.22.49.a’r llongau a ddrylliwyd fel nad allasant fyned i Tharsis.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.