1Yna’r ymgynghorodd Dafydd a chapteniaid y miloedd, a’r cantoedd, ac a’r holl dywysogion.
2A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynnulleidfa Israel, os da gennwch chwi, a o’r Arglwydd ein Duw, ni a rannwn, a ddanfonwn at ein brodyr, y rhai a weddillwyd drwy holl diroedd Israel, a chyd a hwynt yr offeiriaid, a’r Lefiaid o fewn dinasoedd eu meusydd pentrefol hwynt, iw cynnûll hwynt attom ni.
3Ac ni a ddygwn trachefn Arch ein Duw attom ni, canys nid ymofynnasom a hi yn nyddiau Saul.
4A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys iawn y peth yng-olwg yr holl bobl.
5Felly y casclodd Dafydd holl Israel, o Sihor yr Aipht hyd y ffordd y delir i Hemath: i ddwyn Arch Duw o Ciriath-Iearim.
6Yna’r aeth Dafydd, a holl Israel i Bahalath, o fewn Ciriath-Iearim yr hon yn Iuda i ddwyn oddi yno Arch yr Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn presswylio rhwng y Cerubiaid lle y gelwir ar ei enw ef.
7A hwy a osodasant Arch Dduw ar fenn newydd o dŷ Abinadab, ac Uzza, ac Ahio oeddynt yn gyrru y fenn.
8Yna Dafydd a holl Israel a ymlawenychasant o flaen Dduw, ai holl nerth, ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag vdcyrn.
9A phan ddaethant hwy hyd lawr dyrnu 2.Sam.6.6.Cidon, yna Uzza a estynnodd ei law i ddala yr Arch canys yr ŷchen a ledpeiasent.
10Ac enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn Uzza, ac ai lladdodd ef: o blegit iddo estyn ei law ar yr Arch, ac yno y bu efe farw ger bron Duw.
11A bu ddrwg gan Ddafydd am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad yn Uzza, ac efe a alwodd y lle hwnnw Perets Uzza hyd y dydd hwn.
12A Dafydd a ofnodd Dduw y dydd hwnnw gā ddywedyd: pa fodd y dygaf Arch Dduw i mewn attafi?
13Ac ni ddûg Dafydd yr Arch atto ef ei hun i ddinas Dafydd, ond efe ai cludodd hi i dŷ Obed Edom y Gethiad.
14Ac Arch Dduw a arhosodd gyd a theulu Obed Edom, yn ei dŷ ef dri mîs: a’r Arglwydd a fendithiodd dŷ Obed Edom, a’r hyn oll eiddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
