1Ac yr awr hon yr offeiriaid arnoch chwi y gorchymyn hwn.
2Oni wrandewch, ac oni ystyriwch i roddi anrhydedd i’m henw i, medd Arglwydd y lluoedd, yna mi a anfonaf felldith arnoch chwi, ac a felldigaf eich bendithion chwi: hefyd myfi ai melldigais hwynt, am nad ydych yn ystyried.
3Wele fi yn difetha i chwi’r hâd, a thanaf domm ar eich wynebau, tomm eich gwyliau, ac efe a’ch cymmer chwi atto.
4Hefyd cewch ŵybod mai myfi a anfonais attoch y gorchymyn hwn, fel y bydde fyng-hyfammod â Lefi medd Arglwydd y lluoedd.
5Fyng-hyfammod ag ef oedd fywyd, a heddwch, a mi ai rhoddais hwynt iddo ofn, canys efe a’m hofnodd, ac ar ddychrynnodd rhac fy enw.
6Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd o fewn ei wefusau: mewn hêdd, ac iniondeb y rhodiodd gyd â mi, a llaweroedd a ddychwelodd efe oddi wrth anwiredd.
7Canys gwefusau’r offeiriad a gadwant ŵybodaeth: a chyfraith a geisiant oi enau ef: o herwydd angel Arglwydd y lluoedd yw efe.
8Onid chwi a giliasoch o’r ffordd, ac a barasoch i laweroedd drippio yn y gyfraith: llygrasoch gyfāmod Lefi medd Arglwydd y lluoedd.
9Am hynny minnef hefyd a’ch rhoddais chwi yn ddirmygus, ac yn ddiystyr gan yr holl bobl: o herwydd nad ydych chwi yn cadw fy ffordd i, onid bôd yn derbyn wynebau yn y gyfraith.
10Onid vn tâd i ni oll? onid vn Duw a’n creawdd ni? pam y twyllir gŵr trwy ei frawd, gan halogi cyfammod ein tadau?
11Iuda a anffyddlonodd, a ffieidd-dra a wnaethpwyd yn Israel, ac yn Ierusalem: canys Iuda a halogodd sanctaiddrwydd yr Arglwydd yr hwn a hoffasse, ac a briododd ferch duw dieithr.
12Yr Arglwydd a dyrr ymaith y gŵr a wnel hyn, y gwiliwr, a’r attebwr o bebyll Iacob: ac offrymmudd bwyd offrwm i Arglwydd y lluoedd.
13Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchguddio â dagrau allor yr Arglwydd drwy wylofain, a gweiddi: fel nad edrycher mwyach ar eich bywyd offrwm, ac na chymerer yn fodlon o’ch llaw chwi.
14Er hynny chwi a ddywedwch, pa herwydd? herwydd mai’r Arglwydd a destiolaethodd rhyngot ti, a rhwng gwraig dy ieuengtid, yr hon y buost anffyddlon iddi, er ei bod yn gymmar it, ac yn wraig dy gyfammod.
15Onid vn a wnaeth efe? a ffun yn weddill ganddo, a pha ham vn? gan geisio hâd duwiol: am hynny ymgedwch yn eich yspryd, ac na fydded anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuengtid.
16Pan gasêch di gollwng hi ymmaith medd yr Arglwydd Duw’r Israel: etto gorchguddio y mae efe y camwedd tann ei wisc medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny ymgedwch yn eich yspryd, ac na fyddwch anffyddlon.
17Blinasoch yr Arglwydd a’ch geiriau chwi, a chwi a ddywedwch ym-mha bêth y blinasom am iwch ddywedyd, pob gwneuthurwr drŵg dda yng-olwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon: neu pa lê Duw y farn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.