Gweithredoedd yr Apostolion 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Rhwyddeb gair Duw. 6 Erlid yr Apstolion. 10 Iachau y cloff efrydd. 12 Cam addoli yr Apostolion, 19 Llabyddio Paul agos hyd angeu. 21 Trafel yr Apostoliō.

1Ac fe ddarfu iddynt ill dau yn Iconium fyned yng-hyd i Synagog yr Iddewon, a llefaru fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon, ac o’r Groeg-wŷr hefyd.

2Ond yr Iddewon anghredadwy a gyffroesant, ac a lygrâsant feddyliau y cenhedloedd yn erbyn y brodyr.

3Am hynny yr arhosasant amser mawr, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr hwn a roddes destiolaeth i air ei râd ef, ac a roddes wneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.

4Yna y rhannwyd cynnulleidfa y ddinas, rhai oedd gyd â’r Iddewon, a rhai gyd â’r Apostolion.

5A phan wnaethpwyd rhuthr gan y cenhedloedd, a’r Iddewon a’r llywodraethwŷr iw hamherchi hwynt, ac iw llabyddio:

6Deall hynny a wnaethant, a chilio i Lystra, a Derba, dinasoedd o Lycaoma, ac i’r wlad o bob tu.

7Ac yno y pregethasant yr Efengyl.

8Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd yn efrydd o groth ei fam, ac ni cherddase er ioed.

9Hwn a glybu Paul yn pregethu, yr hwn wrth edrych arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd;

10A ddywedodd â llef vchel: saf yn dy iniawn sefyll ar dy draed, ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.

11Yna pan welodd y dyrfa y peth a wnaethe Paul, hwy a godâsant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia: duwiau a ddescynnasant attom yn rhith dynion.

12Ac hwy a alwasant Barnabas yn Iupiter, a Phaul yn Mercurius: o blegit efe oedd yr ymadroddwr pennaf.

13Yna offeiriad Iupiter yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau ger bron y pyrth, ac a fynnase gyd â’r bobl aberthu.

14Yr hwn beth pan glybu yr Apostolion Barnabas a Phaul hwy a rwygâsant eu dillad, ac a neidiasant ym mhlith y bobl gan lefain,

15A dywedyd, ha wŷr, pa ham y gwnewch chwi hynny? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigiō ymma at Dduw byw, yr hwn Gen.1.1.|GEN 1:1. Psal.146.5.|PSA 146:5. Gwele.14.7.|REV 14:7. Psal.81.13.|PSA 81:13. Rufein.1.14. a wnaeth nef a daiar, a’r môr, a phob peth oll a’r sydd ynddynt.

16Yr hwn a* adawodd yn yr oesoedd gynt i’r holl gēhedlaethau gerdded eu ffyrdd eu hunain.

17Er hynny, ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â llynniaeth, ac â llawenydd.

18A thra fuant yn traethu y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

19Yna y daeth Iddewon o Antiochia, ac Iconium, y rhai wedi iddynt gynghori y dyrfa, a Mar.11.25. llabyddio Paul a’i lluscasant allan o’r ddinas gan tybied ei fod efe yn farw.

20Ac fel yr oedd y discyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas, a thrannoeth efe a aeth allan, ac a ddaeth i Derbe efe a Barnabas.

21A phan bregethâsant i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddiscyblion, hwy a ddychwelâsant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,

22Gan gadarnhau calonnau y discyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd: ac mai trwy lawer o gystudd y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.

23Ac wedi ordeinio o honynt henuriaid iddynt ym mhob eglwys trwy etholedigaeth, a gweddio, at ymprydio, hwy a’i gorchymynnasant i’r Arglwydd yr hwn y credent ynddo.

24Ac wedi iddynt fyned tros Pisidia, y daethant i Pamphilia.

25Ac wedi pregethu y gair yn Perga, y daethant i wared i Attalia.

26Ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, Pen.13.3. o’r lle y gorchymynnasid hwynt i râs Duw er mwyn y gorchwyl a gyflawnâsent hwy.

27Ac wedi iddynt ddyfod a chasclu yr eglwys yng-hyd; adrodd a wnaethant faint y gweithredoedd a wnaethe Duw drwyddynt hwy, ac iddo ef agoryd i’r cenhedloedd ddrws y ffydd.

28Ac yno yr arhosasant hwy dros hir o amser gyd â’r discyblion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help