Deuteronomium 32 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXII.1 Cân yn cynnwys daioni Duw i Israel. 15 Eu hanniolch-garwch hwythau. 20 Ai cospedigaeth. 44 Moses yn cynghori y bobl i gadw y gyfraith, ai dyscu iw plant. 48 Duw yn rhybuddio Moses am ei farwolaeth.

1Ymwrandewch y nefoedd, a llefaraf: clywed y ddaiar eiriau fyng-enau.

2Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw, fy ymmadrodd a ddifera fel gwlith: fel gwlithlaw ar i’r-wellt, ac fel cafodau ar lyssiau.

3Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddafi, rhoddwch fawredd i’n Duw ni:

4Y Duw sydd berffaith ei weithred, canys ei holl lwybrau ydynt gyfiawn: Duw ffyddlon, ac heb anwiredd, cyfiawn ac iniawn efe.

5Y genhedlaeth ŵyroc, a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn ef trwy eu bai, heb yn blant iddo ef.

6Ai i’r Arglwydd y telwch hyn bobl ynfyd ac angall? ond efe dy dâd, bryn-ŵr? efe a’th wnaeth, ac a’th ffyrfiodd.

7Cofia ddyddiau tragywyddoldeb, deallwch flynyddoedd cenhedlaeth, a chenhedlaeth, gofyn i’th dâd, ac efe a fynega i ti, i’th henuriaid, ac hwy a ddywedant wrthit.

8Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan ddosparthodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd, yn ôl rhifedi meibion Israel.

9Canys rhan yr Arglwydd ei bobl ef, Iacob rhan ei etifeddiaeth ef.

10Efe ai cafodd ef mewn tir anialwch, ac mewn gwâg vdfa ddiffaethwch yr amgylchodd efe ef, ac y parodd iddo ddeall, ac y cadwodd ef fel cannwyll ei lygad.

11Fel y cyfyd eryr ei nŷth, y castella dros ei gywion, y lleda ei escill, y cymmer ef, ac yr arwain ef ar ei adenydd:

12[Felly] yr Arglwydd yn vnic ai harweiniodd yntef, ac nid duw dieithr gyd ag ef.

13Gwnaeth iddo farchogeth ar vchelder y ddaiar, a bwytta cnwd y maes, ac iddo sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr.

14Ymenyn gwarthec, a llaeth defaid, ynghyd a brasder ŵyn, a hyrddodd meibion Basan, a bychod, yng-hyd a brasder grawn gwenith, a phur-waed grawn-wîn a yfaist.

15A’r inion a aeth yn frâs, ac a wingodd, brasseaist, tewychaist, pwyntiaist: gwrthododd hefyd Dduw yr hwn ai gwnaeth, a diystyrodd graig ei iechydwriaeth.

16A dieithr y gyrrasant eddigedd arno, a ffiaidd-dra y digiasant ef.

17Aberthasant i gythreuliaid, nid Dduw, dduwiau nid adwaenent, newydd a ddaethant o agos nid ofnodd eich tadau.

18Y Duw a’th genhedlodd a anghofiaist di, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti tros gof.

19Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a gyffroiwyd gan ddig ei feibion, ai ferched.

20Ac a ddywedodd, cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.

21Hwynt a yrrasant eiddigedd arnaf, a’r nid dduw, digiasant fi ai hoferedd: Rhuf, 10.19.minne a yrraf eiddigedd arnynt a’r nid bobl: a chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

22Canys tân a gynneu yn fy nig, ac a lŷsc hyd vffern isod, ac a ddifa y tîr ai gynnyrch, ac a wna i sylfeini y mynyddoedd ffaglu.

23Casclaf ddrygau yn eu herbyn, treuliaf fy saethau arnynt.

24Lloscedic newyn, ac wedi eu bwytta gan wrês, a chwerw ddinistr, anfonaf hefyd arnynt ddaint anifail, yng-hyd a chynddaredd seirph daiarol.

25Oddi allan y diddymma y cleddyf, ac o’r stafelloedd ofn, yn gystal y gŵr ieuangc, a’r weryf: y plentyn sugno yng-hyd a’r gŵr brig-lwyd.

26Dywedais gwascaraf hwynt, paraf iw coffadwriaeth ddarfod o fysc dynnion.

27Oni bai i’m ofni dig y gelyn, rhac ymddieithro oi gwrthwynebwŷr hwynt, rhac dywedyd o honynt, ein llaw vchel ni, ac nid yr Arglwydd a wnaeth hyn oll.

28Canys cenhedlaeth golledig gynghorion ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt.

29Oh na baent ddoethiō, na ddeallent hynna ddeallent eu diwedd eu hun.

30Pa fodd yr ymlidie vn fil? ac y gyrre dau fyrddiwn i ffoi? ond am eu gwerthu oi Duw hwynt, a chaeu o’r Arglwydd arnynt.

31Canys nid fel ein Duw ni eu duw hwynt, a’n gelynion farn-wŷr.

32Canys o wîn-wydden Sodom, ac o feusydd Gomorra eu gwin-wydden hwynt, eu grawn-win hwynt rawn-win bustlaidd, chwerw wrysc grawn-wîn iddynt.

33Gwenwyn dreigiau eu gwîn hwynt, a chreulon wenwyn aspiaid.

34Onid yw hyn yng-hudd gyd a’m fi, wedi ei selio ym mysc fy nhrysorau?

35I Rhuf.12.18.mi dial, a thalu y pwyth, mewn prŷd y llithria eu troed hwynt, canys agos yw dydd eu trychineb, a phryssuro y mae yr hyn a baratoiwyd iddynt.

36Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a dosturia wrth ei weision, pan welo ymado y nerth, ac nad na gwarchaedic, na gweddilledic.

37Ac efe a ddywed pa le eu duwiau hwynt, graig yr ymddyriedasant ynddi?

38Y rhai y bwyttasant frasder eu haberthau, yr yfasant win eu diod offrwm, codant a chynnorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.

39Gwelwch bellach mai myfi, myfi efe, ac nad oes duw onid myfi: myfi sydd yn llâdd, ac yn bywhau: myfi a archollaf, ac mi a feddiginiaethaf, ac ni bydd a achubo o’m llaw.

40Canys codaf fy llaw hyd y nefoedd, a dywedaf: mi a fyddaf fyw bŷth.

41Os hogaf fyng-hleddyf disclaer, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn, dychwelaf ddial ar fyng-elynnion, a thalaf y pwyth i’m caseion.

42Meddwaf fy saethau a gwaed, a’m cleddyf a fwyttu gîg: am waed y lladdedig, a’r caeth o ddechreu dialeddau y gelyn.

43Y cenhedloedd cenwch bobl ef, canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion: ac a drugarha wrth ei dîr, bobl ei hun.

44Yna y daeth Moses, ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu y bobl: efe ac Iosuah mab Nun.

45A darfu i Moses lefaru’r holl eiriau hyn, wrth holl Israel:

46A dywedodd wrthynt, meddyliwch yn eich calōnau am yr holl eiriau y rhai yr ydwyfi yn eu testiolaethu wrthych chwi heddyw, y rhai a orchymynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

47Canys nid gair ofer yw hwn oddi wrthych chwi, o herwydd eich enioes chwi efe: a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr hwn yr ydych yn myned iddo tros yr Iorddonen iw orescyn.

48A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng-horph y dydd hwnnw, gan ddywedyd:

49Escynn i’r mynydd Abarim hwn, mynydd Nebo yr hwn yn nhir Moab ar gyfer Iericho: ac edrych wlâd Canaan yr hon yr ydwyfi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.

50Canys byddi farw yn y mynydd yr hwn yr escynni iddo, a thi a gesclir at dy bobl: megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casclwyd ef at ei bobl.

51O herwydd gwrthryfelasoch i’m herbyn ym mysc meibion Israel wrth ddyfroedd cynnen Cades anialwch Zin: o blegit ni’m sanctaiddiasoch ym mhlith meibion Israel.

52Canis y wlâd a gei di ei gweled ar gyfer, ac yno nid ei i’r tir, yr hwn yr ydwyfi yn roddi i feibion Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help