Ezeciel 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Cenawon y llew yn arwyddocau caethiwed brenhinoedd Iuda. 10 Llwyddiant Ierusalem o’r blaen, ai haflwyddiant yna.

1Cymmer dithe alar-nâd am dywysogion Israel,

2A dywet, pa ham y gorweddodd dy fam yn llewes rhwng llewod? yng-hanol y llewod ieuaingc y maethodd hi ei chenawon.

3Pan ddygodd hi i fynu vn oi chenawon, llew ieuangc oedd: dyscase hefyd ysclyfaethu ysclyfaeth, bwyttase ddynion.

4Yna y cenhedloedd a glywsant am dano, daliwyd ef yn eu rhwyd hwynt, a dugasant ef mewn cadwynau i dîr yr Aipht.

5Ac hi a welodd pan ddisgwiliodd, ddarfod am ei gobaith, a hi a gymmerodd vn oi chenawon, ai gosododd ef yn llew ieuangc.

6Yntef a rodiodd ym mysc llewod, llew ieuangc ydoedd efe: dyscodd hefyd sclyfaethu sclyfaeth, a bwyttâodd ddynion.

7Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, ai dinasoedd a anrheithiodd efe: îe anrheithiwyd y tîr, ai gyflawnder gan lais ei ruad.

8Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch y talaithiau, ac a danâsant eu rhwyd arno ef: ac ai daliasant ef yn eu ffôs.

9A hwynt ai rhoddasant ef mewn carchar, ac ai dugasant mewn cadwyni at frenin Babilon: dugasant ef i gestyll, fel na chlywid ei lais ef mwy ar fynyddoedd Israel.

10Dy fam fel gwinwydden wedi ei phlannu wrth ddyfroedd yn dy waed: ffrwythlon, a brigoc oedd wrth ddyfroedd lawer.

11Ac yr oedd iddi wiail cryfion, yn deyrnwiail llywodraethwŷr, ai huchter vchel hyd rhwng y tew-frîg: fel y gwelid hi yn ei huchter yn amlder ei changhennau.

12Onid hi a dynnwyd mewn llidiawgrwydd: bwriwyd hi i’r llawr: a gwynt y dwyrain a wywodd ei ffrwyth hi, ei a yssigasant, ac a wywasant: am wialen ei chryfder, tân ai hyssodd.

13Ac yr awr hon hi a blannwyd mewn anialwch, mewn tîr crâs, a sychedic.

14A thân a aeth allan o wialen ei changhennau, yssodd ei ffrwyth hi fel nad oedd ynddi wialen grêf, yn dieyrn-wialen i lywodraethu. Alar-nad yw hynn: ac yn alar-nad y bydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help