1 Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth iw ddinas ei hun.
2Ac Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, Tra yr oedd Marc.5.22. Luc.8.41.efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, fe a fu farw fy merch yr awr hon, eithr tyret a gosot dy law arni, a byw fydd hi.
19A’r Iesu a godes, ac a’i canlynodd ef, a’i ddiscyblion.
20Ac wele wraig yr hon y buase gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef.
21Canys hi a ddywedase ynddi ei hun, os gallaf gyffwrdd â’i wisc ef yn vnic, iach fyddaf.
22Yna’r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, a ddywedodd, ha ferch bydd gyssurus, dy ffydd a’th iachaodd, a’r wraig a iachawyd o’r awr honno allan.
23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled y cerddorion a’r dyrfa yn terfyscu,
24Efe a ddywedodd wrthynt, ewch ymmaith, can nad marw’r llangces, onid cyscu y mae hi: ac hwynt a’i gwatwarasant ef.
25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi, a’r llangces a gyfodes.
26A’r gair o hyn a aeth tros yr holl dîr hwnnw.
27Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion ai canlynasant ef gan lefain a dywedyd, Mâb Dafydd trugarhâ wrthym.
28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant atto, a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallafi wneuthur hyn? Ac hwy a ddywedasant wrtho, ydym Arglwydd.
29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid, gan ddywedyd: yn ôl eich ffydd bydded i chwi.
30A’u llygaid a agorwyd, a’r Iesu a orchymynnodd iddynt tann fygwth gan ddywedyd, gwelwch na’s gwypo neb.
31Onid wedi iddynt ymado, hwy ai clodforasant ef trwy’r tîr hwnnw.
32Ac hwynt yn myned allan, wele, Math.12.22. Luc.11.14.yn dwyn atto fudan a chythrael ynddo.
33Ac wedi bwrw y cythrael o honaw, llefarodd y mudan, a rhyfeddodd y dyrfa, gan ddywedyd, ni welwyd y cyffelyb er ioed yn Israel.
34A’r Pharisæaid a ddywedasant, trwy Math.12.24. Mar.3.22. Luc.11.15.bennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
35A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl Mar.6.5. Luc.13.23.ddinasoedd, a’r trefydd gan ddyscu yn eu Sinagogau, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, a chan iachau pob clefyd, a phob afiechyd ym mhlith y bobloedd.
36A Mar.6.34.phan welodd efe y dyrfa, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwascaru fel defaid heb iddynt fugail.
37Yna y dywedoddd efe wrth ei ddiscyblion, y Luc 10.2. Ioh.4.36cynhaiaf yn ddiau sydd fawr, a’r gweith-wŷr yn anaml.
38Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf, yrru gweith-wŷr iw gynhaiaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.